Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michelle roberts, Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Y Cynghorwyr Sue
Jones a Mike Day |
|
Nodiadau a Llythyrau Cynullyddion. PDF 131 KB Notes arising from Panel meeting on 17 May 2018. Cofnodion: Derbyniwyd
nodiadau cyfarfod y panel a gynhaliwyd ar 17 Mai 2018. |
|
Perfformiad Gwyddoniaeth mewn Ysgolion yn Abertawe PDF 100 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Helen
Morgan Rees, Pennaeth y Gwasanaeth
Cyflawniad a Phartneriaeth Addysg ynghyd ag Alan Edwards, Stuart Jacob a David
Bradley, Arweinwyr Dysgu yn ERW, yn bresennol yn y cyfarfod i roi gwybodaeth am
sut mae ysgolion Abertawe'n perfformio mewn
Gwyddoniaeth, a sut mae hyn yn cymharu ag awdurdodau lleol a rhanbarthau eraill
yng Nghymru. Roedd rhai o'r materion a
amlygwyd ac a drafodwyd yn cynnwys: Data ar
Berfformiad Gwyddoniaeth yn ysgolion Abertawe 2015-2017 Gwyddoniaeth
Lefel 2 Cyfnod Allweddol 4 fesul awdurdod yn rhanbarth ERW Perfformiad
Abertawe yn ôl rhyw a phrydau ysgol am ddim ar radd C ac uwch Gwyddoniaeth
Lefel 5 Cyfnod Allweddol 3 Perfformiad
Abertawe fesul rhyw a phrydau ysgol am ddim ar y lefel ddisgwyliedig Perfformiad
Abertawe yn ôl rhyw a phrydau ysgol am ddim ar y lefel ddisgwyliedig +1 Gwyddoniaeth
Lefel 6 Cyfnod Allweddol 3 Gwyddoniaeth
Lefel 4 Cyfnod Allweddol 2 Gwyddoniaeth
Lefel 5 Cyfnod Allweddol 2 ·
Mae
perfformiad presennol ysgolion Abertawe'n golygu bod
tri chwarter o ddysgwyr wedi ennill gradd C neu uwch yn TGAU Gwyddoniaeth Lefel
2. Mae'r perfformiad hwn yn golygu bod Abertawe'n gyfwerth â'r cyfartaledd cenedlaethol ac yn yr
unfed safle ar ddeg o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ·
Er
bod y safle hwn yn welliant ar y flwyddyn flaenorol, mae perfformiad
cyffredinol wedi dirywio yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, mae'r
dirywiad mewn perfformiad yn unol â'r dirywiad cenedlaethol mewn perfformiad. ·
Yn
rhanbarthol, mae perfformiad Powys, Ceredigion a Sir Gâr yn uwch nag un
Abertawe. Yn flaenorol, mae Abertawe
wedi cymharu'n fwy ffafriol o fewn y rhanbarth. ·
Mae
perfformiad disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim ar gyfer y dangosydd
hwn yn dangos bwlch sy'n ehangu yn 2016/2017, gyda gwahaniaeth o 23.6% phwynt
o'i gymharu â'r rhai nad ydynt yn derbyn PYDd. ·
Mae'r
gwahaniaeth ym mherfformiad y rhywiau wedi aros yn sefydlog yn ystod y tair
blynedd diwethaf ac nid yw'n arwyddocaol. ·
Mae
perfformiad mewn cyd-destun (o ystyried ysgolion tebyg â'i gilydd ledled Cymru)
yn dangos bod hanner ysgolion Abertawe'n ymddangos yn
y 50% uchaf o ysgolion tebyg. ·
Mae
gwybodaeth gwerth ychwanegol yn dangos perfformiad amrywiol ledled ysgolion
Abertawe. Yn ogystal, mae gan rai
ysgolion fwy o allu ac maent yn fwy parod i wynebu'r cymhwyster gwyddoniaeth
newydd a gafodd ei arholi am y tro cyntaf yng Nghymru yn 2018. ·
Mae
ysgolion yn derbyn trosolwg o'u data perfformiad ac yn edrych ar eu canlyniadau
gwyddoniaeth i nodi eu cryfderau a'u meysydd her. Darperir cefnogaeth gan Arweinwyr Dysgu ERW. ·
Beth
fyddai templed adran wyddoniaeth effeithiol mewn ysgol? Ymatebodd un o
Arweinwyr dysgu ERW gan ddweud: ―
Hunanadolygiad da gan ysgolion ―
Cynllun
tymor hir ar gyfer pynciau, a chysondeb ―
Asesiad
(dosbarthiadau'n cynnal yr un asesiad) ―
Dysgu
ac addysgu da ―
Data'n
cael ei ddefnyddio a'i gymharu yn yr ysgol ―
Adnoddau
o ansawdd uchel ―
Arbenigwr
pwnc o flaen y dosbarth, neu athro sydd wedi'i hyfforddi'n benodol ·
Nid yw'n
ymddangos bod gan Wyddoniaeth yn CA2 broffil mor uchel ag yn y gorffennol
oherwydd y ffocws ar lythrennedd a rhifedd.
Rhaid cydnabod y gellir defnyddio gwyddoniaeth hefyd i ddatblygu
llythrennedd a rhifedd ·
Mae
gan ERW raglen wyddoniaeth ar waith i wella sgiliau athrawon i addysgu pynciau
gwyddoniaeth ac mae ar hyn o bryd yn gweithio mewn nifer o ysgolion cyfun a
chynradd yn Abertawe ·
Mae'n
bwysig cadw llygad ar ganlyniadau CA4 oherwydd y cymhwyster newydd a'i effaith ·
Bydd
ffigurau'n fwy dibynadwy mewn pynciau Gwyddoniaeth yn y blynyddoedd i ddod gan
na fydd ffigurau BTEC yn rhan o'r canlyniadau hynny mwyach. |
|
Sesiwn bord gron Holi ac Ateb gyda PDF 113 KB Phenaethiaid o ysgolion cyfun Llandeilo Ferwallt a
Phontarddulais Arweinydd Dysgu (Gwyddoniaeth) ERW Pennaeth Cyflawniad a’r Gwasanaeth Partneriaeth (Abertawe) Cofnodion: Gwahoddwyd Janet
Waldron, Pennaeth Ysgol Gyfun
Pontarddulais, Jeff Bird, Pennaeth Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Helen Morgan
Rees, Pennaeth Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth Abertawe, Alan Edwards,
Stuart Jacob a David Bradley, Arweinwyr Dysgu yn ERW i'r sesiwn. Roeddent wedi cymryd rhan mewn trafodaeth
bord gron â chynghorwyr a oedd yn canolbwyntio ar wyddoniaeth mewn ysgolion yn
Abertawe. Rhoddwyd nifer o gwestiynau
cefndir i'r rhai a oedd yn bresennol i'w paratoi ar gyfer y sesiwn hon, gan
gynnwys: ·
Sut
rydym yn annog ac yn ysbrydoli disgyblion i ddewis gwyddoniaeth ·
Pa
mor hygyrch y mae gwyddoniaeth i bob disgybl ·
Sut
rydym yn cysylltu â'r sectorau preifat a chyhoeddus a phrifysgolion ac yn eu
defnyddio ·
Sut
caiff arfer da ei rannu a'i ddathlu ·
Recriwtio
a chadw athrawon gwyddoniaeth ·
Sut
cynghorir pobl ifanc ar y camau nesaf mewn gwyddoniaeth ar ôl yr ysgol ·
A
yw'r cwricwlwm yn rhoi digon o bwyslais ar wyddoniaeth Yna codwyd a
thrafodwyd y materion canlynol: ·
Nid
oes bwlch rhwng y rhywiau mewn gwyddoniaeth mewn ysgolion yn Abertawe. Nid yw ysgolion cyfun Pontarddulais a
Llandeilo Ferwallt yn profi unrhyw broblemau yn hyn o beth. Mae cydbwysedd da o
ddisgyblion yn gwneud gwyddoniaeth, gan gynnwys gwyddoniaeth ddwbl a thriphlyg,
yn y ddwy ysgol. Mae'r data ar draws ysgolion ehangach hefyd yn adlewyrchu
hyn. ·
Mae'r
ffigurau'n dechrau newid wrth i ddisgyblion symud i'r 6ed dosbarth neu
goleg pan fydd llai o ferched yn dewis yr opsiynau hyn. Dywedodd y ddwy ysgol fod merched yn mwynhau
gwyddoniaeth ac yn gwneud yn dda yn y pwnc pan fyddant yn yr ysgol. ·
Roedd
gan y panel ddiddordeb mewn gwybod pam mai ychydig o ferched yn unig sy'n dewis
gwneud pynciau gwyddonol wrth barhau ag addysg ôl-16. Ystyriodd y panel siarad â'r rhai sy'n
addysgu pynciau CA5 i gadarnhau hyn. Yn
y cyfarfod ystyriwyd a all hyn fod yn fater cymdeithasol, ac a oes angen mwy o
gyhoeddusrwydd ynghylch modelau rôl benywaidd ym maes gwyddoniaeth. ·
Mae
angen ystyried sut gallwn ysgogi disgyblion i gymryd pynciau gwyddoniaeth yn yr
ysgol ac wedi iddynt adael yr ysgol. ·
Credai'r
panel y gallai fod yn ddefnyddiol mynd ati i samplu cyfweliadau gadael â
disgyblion sy'n symud ymlaen i addysg bellach i weld pam y gwneir dewisiadau,
ac efallai y gallwn ddysgu o hyn. ·
Meddai
JW fod ffocws gwirioneddol ar ddatblygu gwyddoniaeth yn Ysgol Gyfun
Pontarddulais. Mae'r ysgol wedi bod yn
gweithio gyda'i hysgolion cynradd clwstwr, gan ddechrau gyda'r Cyfnod
Sylfaen. Cafwyd arian gan y rhanbarthau
i ddatblygu gwyddoniaeth gyda'r ysgolion clwstwr hyn. Mae'n bwysig buddsoddi yn y blynyddoedd
cynradd fel bod y disgyblion wedi'u paratoi'n well erbyn iddynt gyrraedd yr
ysgol uwchradd. Dylai'r pwyslais gwell
hwn ar wyddoniaeth yn y tymor hwy wella'r nifer sy'n dewis astudio'r pwnc yn
ddiweddarach. ·
Mae'r
mater yn ymwneud yn fwy â'r bwlch rhwng disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am
ddim a'r rhai nad ydynt yn eu derbyn, gyda bwlch mewn perfformiad sy'n ehangu. ·
Meddai
JB fod Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn gwneud cymaint o weithgareddau
ymarferol a chyd-destunol â phosib, gan dywys disgyblion o gam cynllunio i gam
cwblhau prosiect. ·
Mae sgiliau
a gwybodaeth yr athro'n bwysig, ac yn ddelfrydol dylai fod yn arbenigwr yn y
pwnc, ond os na, dylid ei hyfforddi/ddatblygu i addysgu gwyddoniaeth yn
benodol. Roeddent yn falch o glywed bod
ERW yn cynnig hyn. ·
Roedd
teimlad bod y defnydd o dechnolegau a gweithgareddau digidol newydd yn
ddefnyddiol, ond nid yw'n disodli'r angen am addysgu gwych. Dysgu ac addysgu o safon yn ddi-os yw'r
ffordd ymlaen mewn gwyddoniaeth. Mae'n
bwysig hefyd fod cefnogaeth er mwyn cyflawni hyn. Mae sawl haen o gefnogaeth, gan gynnwys o
ysgol i ysgol. ·
Mae'r
pwysigrwydd a'r ffocws y mae'r ysgol yn eu rhoi ar wyddoniaeth hefyd yn elfen
allweddol yn y ffordd y mae disgyblion yn ymddiddori ac yn cael eu hysbrydoli
yn y pen draw. ·
Rhennir
arfer da drwy'r grŵp athrawon gwyddoniaeth, drwy Ymgynghorwyr Herio a
thrwy gefnogaeth o ysgol i ysgol (nid yn unig yn Abertawe ond yn ehangach, ar
draws y rhanbarth). ·
Rhoddodd
JB o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt enghraifft dda o sut mae'r ysgol yn
gweithio gydag ysgolion cynradd ar adeg trosglwyddo disgyblion. Mae prosiect ar Hedfan sy'n dechrau ym
mlwyddyn olaf y disgybl yn yr ysgol gynradd ac sy'n parhau yn yr ysgol
uwchradd. Anogir y plant i wneud cymaint
o waith ymarferol â phosib. Mae hyn
hefyd yn rhyddhau amser mewn labordai y gall ysgolion cynradd clwstwr wneud
defnydd ohono. ·
Mae'r
darlun lleol yn Abertawe'n dda o ran Gwyddoniaeth, yn
enwedig mewn ysgolion uwchradd. Nid yw'n broblem mor fawr yma ag y gall fod i
awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. ·
Mae
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cynnig cwrs trawsnewid i athrawon sydd
am arbenigo mewn pynciau gwyddoniaeth. ·
Nid
yw recriwtio athrawon gwyddoniaeth yn broblem arbennig yn Abertawe. ·
Mae
HWB yn hynod fuddiol er mwyn rhannu gwybodaeth etc. ·
Mae
gan y brifysgol rôl glir mewn gwyddoniaeth, yn enwedig wrth gysylltu ag
ysgolion. ·
Teimlai'r
panel y gallai fod yn fuddiol defnyddio moledau rôl o ddiwydiannau sy'n
gysylltiedig â thechnoleg a gwyddoniaeth mewn ysgolion i ysbrydoli
disgyblion. Mae ysgolion yn datblygu mwy
o gysylltiadau â diwydiant. ·
Yn y
cyfarfod trafodwyd paratoi disgyblion ar gyfer y byd gwaith, yn enwedig pa
gyfleoedd cyflogaeth allai fod ar gael yn y dyfodol i ddisgyblion. Crybwyllwyd y Fargen Ddinesig a'r
cysylltiadau â'r hyn rydym yn ei addysgu ar hyn o bryd. Cytunodd aelodau'r y panel fod angen mwy o
fanylion ar ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, fel y gallant
edrych ar y sgiliau sy'n cael eu datblygu mewn perthynas â'r Fargen
Ddinesig. Gofynnon nhw a ellid darparu
pecyn i ysgolion sy'n rhoi mwy o fanylion, er enghraifft: yr hyn y bydd yn ei
golygu o ran swyddi, beth fydd y cyfleoedd mewn gwirionedd, pa sgiliau fydd eu
hangen, mathau o gyflogau etc. Roeddent
yn teimlo bod y cyfan braidd yn haniaethol ar hyn o bryd. ·
Roedd
y panel yn siomedig i glywed bod y profiad gwaith lle'r eir â disgyblion i
weithio mewn busnesau lleol y tu allan i'r ysgol am gyfnod byr wedi dod i ben
mewn llawer o ysgolion. Clywodd
cynghorwyr ei bod hi'n anodd iawn bellach o ran iechyd a diogelwch. ·
Efallai
byddai ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau eraill yn gallu ysbrydoli pobl ifanc i
fynd i faes datblygiad gwyddoniaeth a thechnoleg a helpu i nodi cyfleoedd mewn
gwyddoniaeth. Codwyd y syniad o gynnal
digwyddiad i helpu i ysbrydoli a dangos
cyfleoedd i bobl ifanc. Cafwyd syniad i
greu ffilm fer 10 munud y gellir ei dangos i bobl ifanc mewn ysgolion i helpu
i'w hysbrydoli i ddewis technoleg/ gwyddoniaeth fel llwybr gyrfa. ·
Mae
pwysigrwydd annog a chefnogi sgiliau gwydnwch disgyblion yn cael effaith amlwg
a dylid parhau i'w annog. Caiff llythyr oddi
wrth Gynullydd y Panel ei ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Wella Addysg,
Dysgu a Sgiliau sy'n amlinellu barn a syniadau'r panel.
|
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 76 KB Cofnodion: Mae dyddiad ar
gyfer craffu cyn penderfynu ar y newidiadau i'r Gwasanaeth Cyflawniad
Lleiafrifoedd Ethnig wedi'i ychwanegu at y Rhaglen Waith. Cynhelir hyn ddydd Mercher 18 Gorffennaf ac
adroddir amdano i'r Cabinet ar 19 Gorffennaf.
Aildrefnir yr ymweliad i gyfleuster
Cyfnod Sylfaen. |
|
Recent Estyn Inspections published for individual schools Cofnodion: Nodwyd cyhoeddiad
yr adroddiad arolygiad diweddar gan Estyn am Ysgol Gynradd Craigfelen. |
|