Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Scrutiny - 01792 637256
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Heb ei ddatgan |
|
Nodiadau o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 08 17 PDF 69 KB Cofnodion: Derbyniwyd y
nodiadau gan y panel. Atebwyd dau
gwestiwn a ofynnwyd yn y cyfarfod panel diwethaf gan y Prif Swyddog Addysg drwy
e-bost: ·
Oes
gan bob llywodraethwr fynediad i HWB ac os felly, a yw pob ysgol yn galluogi eu
llywodraethwyr i'w defnyddio? Oes, mae gan bob ysgol fynediad i HWB ond na, dim ond rhai ysgolion sydd
wedi cyflwyno gwefan HWB i'w llywodraethwyr.
Argymhellir ei chyflwyno ledled ysgolion Abertawe fel arfer da. Cytunodd y panel i gadw llygad ar yr agwedd hon, a mynd ar drywydd y mater
yn nes ymlaen yn y flwyddyn. ·
Mynegwyd
pryder am gyllid ar gyfer yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAU), gan y
cytunir yn aml ar y cyllid ar gyfer y flwyddyn ganlynol ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol, gan achosi ansefydlogrwydd posib o ran sicrhau parhad wrth ddarparu'r
gwasanaeth ac anhawster wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. A ellir gwneud unrhyw beth i liniaru hyn? Nid oes gennym unrhyw ddylanwad ar amseriad penderfyniadau
(a gymerir mewn mannau eraill) dros lefelau cyllid y dyfodol, ac fel llawer o
gynghorau, cafwyd toriadau i'w harian grant ar gyfer y gwasanaethau hyn. Rydym wedi ymateb drwy ddatblygu ffyrdd
newydd o weithio i wneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael, ac mae llawer o'r
rhain wedi cael eu rhoi ar waith. Mae'n
dda nodi bod dysgwyr SIY yn Abertawe'n perfformio'n dda ar draws dangosyddion
allweddol gyda thuedd ar i fyny. Mae hyn
yn arwydd bod y ddarpariaeth ddiwygiedig yn cefnogi dysgwyr lleiafrifoedd
ethnig yn gadarnhaol. |
|
Y Diweddaraf am Gynnydd Addysg Heblaw yn yr Ysgol PDF 209 KB Gan gynnwys ·
y diweddaraf am gynnydd gyda newidiadau i’r gwasanaeth a llety ·
y diweddaraf am sut mae ysgolion yn
meithrin gallu yn fewnol i
reoli ymddygiad Cynghorwyr Jennifer Raynor, Mark Sheridan (Uwch-seicolegydd Addysg, Ymddygiad a Dysgu) ac Amanda Taylor
(Pennaeth Uned Atgyfeirio Disgyblion Abertawe) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Mark
Sheridan ac Amanda Taylor y diweddaraf ar y cynnydd i'r panel, gan roi manylion
y gwelliannau i'r Gwasanaethau Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol
(EOTAS). Roedd yr adroddiad yn cynnwys: ·
Cynigion/amserlen
ar gyfer newidiadau i leoliadau ar gyfer EOTAS ·
Y
cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y modelau arfaethedig ar gyfer cyflwyno'r
gwasanaethau ·
Sut
mae gwelliannau'n effeithio ar ddarparu gwasanaethau i ddisgyblion yn
uniongyrchol ·
Sut
mae disgyblion wedi bod yn rhan o'r newidiadau arfaethedig a'u cyfranogaeth
wrth ddatblygu'r gwasanaeth ·
Pa
mor effeithiol yw'r 'drws tro' i ddisgyblion rhwng EOTAS ac ysgolion ·
Sut
mae cwricwlwm yr Uned Atgyfeirio Disgyblion (UAD) yn diwallu anghenion
disgyblion ·
Cynnydd
ysgolion wrth ddatblygu darpariaeth fewnol i ddisgyblion â phroblemau ymddygiad ·
Pa
welliannau a wnaed i'r system atgyfeirio ·
Y
strwythur staffio presennol, a oes unrhyw swyddi gwag a sut mae'r rhain yn cael
eu llenwi/rheoli Gofynnodd y panel
gwestiynau, gan drafod y pwyntiau canlynol: ·
Mae
cynnydd cyflym bellach o ran newidiadau i leoliadau. Mae cynllun a dyluniad
pwrpasol ar gyfer adeilad newydd a fydd yn adlewyrchu anghenion plant a phobl
ifanc a'u hanghenion gwahanol, gan gynnwys anghenion cymdeithasol, emosiynol ac
ymddygiad, bellach ar waith. ·
Cytunodd
y panel fod yn rhaid iddi fod yn ysgol liwgar a chroesawgar gydag amgylchedd cefnogol,
ac roedd yn falch o glywed ei bod yn cael ei dylunio i fod yn addas i anghenion
y plant a'r bobl ifanc fydd yn ei defnyddio.
Clywodd y panel y byddai gan yr ysgol ardaloedd cwricwlwm ond bydd man
therapiwtig ac ardaloedd natur hefyd. ·
Clywodd
cynghorwyr y cyflwynwyd cais Band B i Lywodraeth Cymru i helpu i ariannu'r
prosiect ac y dylai'r cyngor glywed yn ffurfiol ynghylch y cais hwn ym mis
Hydref 2017, ond mae'r arwyddion yn gadarnhaol.
Os caiff ei dderbyn, bwriedir agor y cyfleuster i dderbyn disgyblion ym
mis Medi 2019. Caiff adroddiad pellach
ei roi gerbron y Cabinet ar ôl mis Hydref 2017. Roedd gan y panel ddiddordeb
mewn gweld y cynigion ar gyfer y dyluniad os yw hynny'n bosib. ·
Caiff
y cyfleusterau presennol eu cynnal nes bod yr adeilad newydd yn barod. ·
Gwneir
cynnydd da o ran y model cyflwyno newydd. Mae cynnydd gwych yn cael ei wneud i
ddatblygu amrywiaeth haenog o hyfforddiant ar-lein, mewn ysgolion ac allanol i
ysgolion a gwasanaethau mewn perthynas â materion sy'n ymwneud ag anawsterau cymdeithasol,
emosiynol ac ymddygiad, anghenion dysgu ychwanegol a lles. ·
Mae'r
cysyniad 'tŷ hanner ffordd' yn agwedd tymor hwy o'r model newydd o
gyflwyno gwasanaethau. Yn y cyfamser,
mae staff yn cael eu recriwtio i ddechrau datblygu'r broses ac i weithio gydag
ysgolion a disgyblion lle ceir risg o EOTAS. ·
Mae'r
panel yn cydnabod bod y model hwn yn ei ddyddiau cynnar, a phrin yw'r cynnydd a
wnaed o ran effaith uniongyrchol. Roedd y panel yn falch o glywed y bu
gwelliant enfawr wrth ddatblygu a gwella'r diwylliant yn y gwasanaethau. Cael staff i ymrwymo i weithio tuag at
weledigaeth ar y cyd, gyda'r holl staff ar draws y gwasanaeth yn gweithio fel
un tîm Gall y panel weld sut mae'r
cynigion a'r systemau newydd sydd wedi'u rhoi ar waith, ynghyd â brwdfrydedd y
Pennaeth newydd, swyddogion a staff sy'n rhan o hyn, wedi dechrau datblygu
sylfaen dda a chadarn, y gobeithir y daw effaith gadarnhaol uniongyrchol i'r
amlwg ohoni yn y dyfodol. ·
Drws
tro gydag ysgolion - mae gwaith ar y gweill i sicrhau ei fod yn gliriach ar
ddechrau symud i UAD gyda'r ysgol gychwynnol; sicrhau y rhennir disgwyliadau am
ddychweliad y disgybl yn ôl i'r ysgol (bydd yr UAD yn darparu cefnogaeth ar
gyfer hyn). Bwriedir cyfnewid staff a rhannu sgiliau rhwng yr UAD ac ysgolion.
Cytunwyd ar femorandwm o ddealltwriaeth, gyda'r ysgol yn manylu ar y gefnogaeth
a ddarperir i alluogi plant i ddychwelyd i'r ysgol. ·
Mae
angen haenau o ymgynghoriad ar gyfer y prosiect hwn (mae hyn yn ofynnol yn ôl
Llywodraeth Cymru), gan gynnwys cynnwys rhieni, rhanddeiliaid a phlant a phobl
ifanc. Dechreuodd hyn ar y cam dylunio a
bydd yn parhau nes ei gwblhau. ·
Roedd
y panel yn falch o glywed bod cynnydd da yn cael ei wneud o ran arweinyddiaeth
a chodi safonau, a datblygu'r cwricwlwm yn yr UAD. Mae'r UAD bellach yn darparu amrywiaeth da o
gyfleoedd academaidd a galwedigaethol, ac yn hanfodol, mae'n cynnwys y
Fframwaith Cymhwysedd Digidol a'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Cenedlaethol. ·
Clywsant
hefyd fod grŵp strategaeth wedi'i ddatblygu a fydd yn dod â rhanddeiliaid
ynghyd i helpu i ddatblygu'r Strategaeth Ymddygiad a Lles. Cydnabu'r panel yr angen i sicrhau bod y
strategaeth hon yn gweithio ar y cyd â strategaethau eraill sydd eisoes yn bod,
fel y Strategaeth Atal ac Ymyrryd yn Gynnar.
Ni ddylai'r strategaeth edrych ar addysg yn unig, ond ar anghenion
cyffredinol plant a'u teuluoedd. ·
Roedd
y panel yn falch o glywed am y pecyn cymorth hunanwerthuso ymddygiad i ysgolion
sydd wedi'i lunio. Daw'n rhan o ymweliad
yr Ymgynghorydd Herio a fydd yn edrych ar hyn gydag ysgolion. Bydd hefyd yn
cynnwys trafodaeth ynghylch gallu'r ysgol o ran ymddygiad a'u hatgyfeiriadau i
EOTAS. ·
Clywodd
y panel fod gwir awydd am newid a chydweithio ar draws yr holl asiantaethau
sy'n gysylltiedig â'r model newydd hwn. Cytunodd y panel ar
y camau gweithredu canlynol a gododd o'r trafodaethau: rhaid ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet yn amlinellu casgliadau o'r drafodaeth heddiw |
|
Cynllun Gwaith 2017 - 2018. PDF 66 KB Cofnodion: Nododd y panel y
rhaglen waith. |
|
Eitem Er Gwybodaeth PDF 101 KB Cofnodion: Derbyniodd y panel
yr wybodaeth fel y'i hatodwyd. |
|