Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadarnhau Cynullydd Cofnodion: Cadarnhawyd y Cynghorydd Lyndon Jones fel Cynullydd y panel ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023-24. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: atganodd y
Cynghorwyr L Jones ac M Day gysylltiad personol ag eitemau rhif 8, 9 ac 11 ar
yr agenda. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai 2024 gan y panel. |
|
Cofnodion: Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu yn dilyn y cyfarfod ar 9 Mai 2024 gan y panel. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Rôl y Panel Perfformiad PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Panel yr adroddiad a oedd yn manylu ar rôl y Panel Craffu Perfformiad. |
|
Diweddariad Cwricwlwm Newydd (brîff gwylio) PDF 192 KB Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y
Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a David
Thomas (Prif Swyddog Gwella Ysgolion) Cofnodion: Diolchodd y panel
i'r Ymgynghorydd Gwella Ysgolion Arweiniol am ddarparu adroddiad am fod yn
bresennol yn ystod y cyfarfod i drafod y cynnydd o ran cyflwyno Cwricwlwm i
Gymru. Dywedodd Aelod y
Cabinet fod hwn yn ddarn o waith sy'n datblygu o hyd ac nid yw hwn heb ei
heriau ond mae'n parhau i fod yn hapus gyda sut y mae'r prosiect yn datblygu yn
Abertawe. Amlinellodd yr
adroddiad: · Cefndir a chyd-destun Cwricwlwm i Gymru · Rhoddwyd y diweddaraf i'r panel ar waith sy'n digwydd ar draws ysgolion
Abertawe, y Tîm Gwella Ysgolion a Partneriaeth. I grynhoi: a. Bydd ysgolion yn Abertawe'n canolbwyntio ar
werthuso effaith eu cynnig cwricwlwm. Bydd swyddogion yn cefnogi defnyddio
pecynnau cymorth i ddarparu cwestiynau sy'n ysgogi'r meddwl ac yn hyrwyddo
hunanwerthuso. b.
Mae ysgolion Abertawe'n parhau i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda.
c.
Bydd angen i swyddogion yr ALl barhau i ganolbwyntio ar sut y mae arweinwyr ysgolion
yn dylanwadu ar ddyluniad parhaus Cwricwlwm i Gymru. ch.
Mae swyddogion yr ALl yn sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddefnyddio
a gwerthuso effaith dysgu proffesiynol a gynigir yn lleol a gan y rhanbarth. d. Datblygu partneriaethau cydweithredol ymhellach i gefnogi dealltwriaeth
gyffredin o gynnydd ar draws ysgolion a rhyngddynt. dd.
Mae cynghorwyr gwella
ysgolion wedi bod yn nodi ysgolion sydd â'r gallu i rannu arfer effeithiol o
ran dylunio ac adolygu cwricwlwm, a byddant yn parhau i wneud hynny. e.
Bydd cynghorwyr gwella ysgolion
yn sensitif wrth nodi ysgolion y mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt yn
ystod eu taith ddiwygio. Nodir hyn gan y cynnydd a wnaed gan ddysgwyr dros
amser. f.
Bydd y Tîm Gwella Ysgolion a
swyddogion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cydweithio'n fwy agos er mwyn cefnogi
agwedd holistaidd o gefnogaeth i ddysgwyr. ff.
Bydd cynghorwyr gwella
ysgolion yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ar ran ein
rhanddeiliaid er mwyn hyrwyddo polisi cenedlaethol. Codwyd y
cwestiynau/materion canlynol gan y Panel. Bydd crynodeb o farn y Panel am
y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'r materion hyn yn ffurfio rhan o'r llythyr at
Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod: · Sut mae clystyrau ysgolion ar draws Abertawe'n
cydweithio o ran Cwricwlwm i Gymru? · Yr ysgolion yng Nghymru lle mae Estyn wedi nodi nad yw Cwricwlwm i Gymru
wedi cael effaith gadarnhaol hyd yn hyn. · Ydyn ni'n cynnwys athrawon yn Abertawe wrth ddatblygu Cwricwlwm i Gymru? · Ydyn ni'n canolbwyntio ar ddisgyblion yn dysgu sgiliau sylfaenol o hyd er mwyn ceisio cyflwyno'r cwricwlwm newydd? |
|
Materion allweddol sy'n effeithio ar addysg 2024/25 PDF 282 KB Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y
Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) Cofnodion: Diolchodd y panel i'r Cyfarwyddwr Addysg am ei chyflwyniad
a oedd yn amlinellu rhai o'r problemau allweddol
sy'n effeithio ar addysg yn Abertawe yn
2023/2024. Roedd y cyflwyniad
yn cynnwys 8 maes problemau allweddol gan gynnwys: 1. Rheoli adnoddau 2. Cefnogaeth i ddysgwyr 3. Atebolrwydd 4. Presenoldeb dysgwyr 5. Ymddygiad a lles 6. Ansawdd yr addysgu 7. Y Gymraeg 8. Rolau a chyfrifoldebau wedi'u haenu Bydd y panel yn ystyried y cyflwyniad hwn wrth iddynt drafod a chytuno ar eu cynllun gwaith ar gyfer y 12 mis nesaf felly mae hynny'n adlewyrchu'r problemau allweddol y tynnwyd sylw atynt lle bo hynny'n bosib. |
|
Rhaglen Waith ddrafft ar gyfer 2024/25 PDF 180 KB Cofnodion: Trafododd y panel
y problemau allweddol a nodwyd ar gyfer rhaglen waith y panel dros y 12 mis
nesaf. Bydd y Swyddog Craffu bellach yn llunio'r cynllun er mwyn symud ymlaen â
hyn a dosbarthu'r ddogfen ddrafft i'r panel gytuno arni. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.45pm Cadeirydd |
|