Lleoliad: MS Teams
Cyswllt: Scrutiny Officer
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Questions Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Trefniadaeth ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe - Cyflwyniad a thrafodaeth Invited to Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) Cofnodion: 130 Trefniadaeth ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer
Ysgolion Arbennig yn Abertawe - Cyflwyniad a thrafodaeth Diolchodd y Panel
i'r Cyfarwyddwr Addysg a'r Swyddog Cyllid a Gwybodaeth - Addysg am ddod i'r
cyfarfod i drafod cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn
Abertawe. Darparwyd cyflwyniad a oedd yn
cynnwys y canlynol: ·
Y
weledigaeth a'r achos dros newid ·
Beth,
sut, pryd a ble, mewn perthynas â'r bwriad i uno ·
Yr
ymgynghoriad sydd wedi'i gynnal a'r ymatebion a dderbyniwyd ·
Hysbysiad
Statudol ac amserlen ·
Camau
nesaf Gofynnodd y panel
nifer o gwestiynau: ·
Nifer
yr ymatebion a gefnogodd y cynnig ·
Ble'r oedd y safleoedd eraill a ystyriwyd ar gyfer lleoli'r ysgol newydd ·
Beth
yw cyflwr/categori'r ddau adeilad y symudir ohonynt ·
A
fydd costau cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cynyddu. ·
Faint
o ddisgyblion ychwanegol fydd y cynnig yn darparu ar eu cyfer. Faint rydym yn eu gwasanaethu ar hyn o bryd.
Nifer y lleoliadau y tu allan i'r sir ·
Sut
byddwn yn sicrhau bod anghenion y dyfodol yn cael eu cynnwys yn y cynnig hwn
fel ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol. ·
A
fydd y meini prawf mynediad a'r broses a ddefnyddir yn cael eu hadolygu yng
ngoleuni'r mathau gwahanol o ddisgyblion a all fod yn dod drwodd. ·
A fydd
yr uniad yn cael unrhyw oblygiad ar swyddi neu a fydd e'n
arwain at golli swyddi. ·
A
yw'r bobl a fynegodd eu barn yn yr ymgynghoriad yn gwybod bod yn rhaid iddynt
roi eu gwrthwynebiad hefyd, pe baent am wneud hynny. ·
A yw
Estyn wedi rhoi unrhyw adborth ar ymateb y cyngor i'r hyn a gyflwynwyd ganddynt
mewn perthynas â'r ymgynghoriad. ·
A
fu'n rhaid gohirio unrhyw waith arall mewn ysgolion eraill er mwyn i'r uno a'r
gwaith i godi adeilad newydd fynd rhagddynt o bosib. Bydd crynodeb o'r
drafodaeth gan gynnwys mewn perthynas â'r cwestiynau hyn, gan gynnwys barn y
panel am y mater hwn, yn rhan o lythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet yn dilyn
y cyfarfod hwn. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.20
pm Cadeirydd |
|