Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Panel y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet a oedd yn ymwneud â'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ionawr. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir
cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r
cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod
cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â
hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu ar y gyllideb flynyddol: am ei bod yn ymwneud â materion br addysg Roedd y Cynghorydd
Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Addysg Cabinet
Papers 15/02/2023 (ar gael ar-lein o 09/02/2023) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu a'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg
am ddod i'r cyfarfod i drafod y Gyllideb Flynyddol fel y mae'n ymwneud â
materion addysg. Darparwyd cyflwyniad a
oedd yn cynnwys y canlynol: ·
Cyllideb
ysgolion ar gyfer 2024-25 ·
Cyllideb
ganolog a staffio canolog ·
Anghenion
Dysgu Ychwanegol ·
Adolygiad
o wasanaethau ·
Ffïoedd ar gyfer ysgolion ·
Arbedion
Eraill Nodwyd y pwyntiau
canlynol gan y Panel a byddant yn cael eu hanfon ymlaen at Banel Craffu
Perfformiad Gwella Gwasanaethau, Cyllid ac Adfywio i'w trafod a byddant yn cael
eu cynnwys yn eu llythyr at Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a
Strategaeth. ·
Rydym yn cydnabod ei bod yn gyllideb heriol ond cawsom
ein calonogi bod Aelod y Cabinet a’r adran addysg wedi ystyried yn ofalus yr
opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn gwneud y gorau o’r arian sydd ar gael. ·
Rydym yn bryderus iawn am y gostyngiad parhaus yn lefel y
cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion.
Er ein bod yn cydnabod yr angen i’r arian gael ei wario’n ddoeth, mae’n
bwysig bod gan ysgolion lefel dda o gronfeydd wrth gefn i'w defnyddio fel
'clustog' os bydd angen gwneud hynny. ·
Nodwyd gennym o gyfraniad Fforwm Cyllideb Ysgolion
Abertawe, sef un o’r ymgyngoreion statudol, fod y
setliad y mae Abertawe’n ei dderbyn gan Lywodraeth
Cymru ar gyfer addysg yn 'gymharol wael ar safle 17/18 o'r 22 awdurdod lleol
Cymru.' Fel Panel, byddem yn cefnogi
rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithio i wella sefyllfa Abertawe. ·
Croesawyd y newyddion am y cynllun peilot bws mini ADY ac
edrychwn ymlaen at glywed mwy am hyn wrth iddo ddatblygu. ·
Croesawyd y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn debygol o
dalu am y cynnydd o £5 miliwn (a dderbyniwyd fel rhan o symiau canlyniadol Barnett) yng nghostau pensiwn athrawon yn Abertawe. ·
Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod y grantiau a
dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwastatáu a’r effaith y bydd hyn yn ei
chael ar ein gwariant cyffredinol ar addysg. ·
Teimlwn ei bod yn dda bod y Cyngor wedi derbyn taliad untro eleni, ond fe wnaethom fynegi pryder ynghylch yr hyn
a all ddigwydd yn y dyfodol. ·
Nodwyd y gorwariant ar Gludiant o'r Cartref i'r Ysgol eto
eleni. Byddwn yn cadw llygad ar sut mae
hyn yn datblygu dros y flwyddyn i ddod. ·
Rydym yn croesawu gwella darpariaeth ‘o fewn y sir’, a
thrwy hynny leihau’r potensial ar gyfer cymaint o leoliadau y tu allan i’r
sir. Fodd bynnag, sylweddolom fod yna
arbedion mawr wedi'u rhagamcanu ar gyfer ADY a theimlwn ei bod yn bwysig nad yw
hyn yn effeithio ar y canlyniadau ADY cyffredinol yn Abertawe yn y dyfodol. · Yn olaf, hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r ddwy ysgol a’r tîm addysg canolog am y gwaith y maent yn ei wneud yn y cyfnod heriol hwn. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Panel y rhaglen waith gan nodi bod cyfarfod ychwanegol ar 19 Chwefror wedi’i drefnu i edrych ar drefniadaeth ysgolion mewn perthynas â chyfuno ysgolion arbennig yn Abertawe. |
|
Er Gwybodaeth - Rhestr Deilliannau Arolygiadau Ysgolion Unigol Diweddar PDF 63 KB Cofnodion: Nodwyd yr wybodaeth gan y panel. Gofynnodd y Panel fod adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys ychydig mwy o gyd-destun, gan gynnwys rhai o'r pethau cadarnhaol am yr ysgolion. |