Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

146.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr y Cynghorydd L Jones, F O'Brien, J McGettrick ac A O'Conner gysylltiad personol ag Eitem 6.

147.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

148.

Cofnodion pdf eicon PDF 193 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024 gan y panel hwn.

149.

Llythyrau pdf eicon PDF 131 KB

Cofnodion:

Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 18 Ebrill 2024.

150.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

151.

Addysg o Safon (AoS)/ Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu) PowerPoint

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Louise Herbert Evans (Rheolwr Tîm Cyfalaf)

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Louise Herbert Evans (Rheolwr Tîm Cyfalaf) am fod yn bresennol yng nghyfarfod y Panel ac am ddarparu cyflwyniad PowerPoint i ddiweddaru'r Panel ar gynnydd Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys:

 

·         Trosolwg o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu

·         Sut y cafodd y rhaglen ei chyflwyno

·         Prosiectau a gyflwynir o dan y Band B sy'n weddill

·         Y Rhaglen Amlinellol Strategol newydd

·       Risgiau a phroblemau'r rhaglen

·       Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol

·         Ysgolion Bro

·       Anghenion Dysgu Ychwanegol

·       Rhaglen gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

·       Cynnal a chadw cyfalaf; a

·         Safleoedd Strategol y Cynllun Datblygu Lleol

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.  Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'w cwestiynau'n rhan o'r llythyr a gaiff ei anfon at Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod.

 

·         Safleoedd yr Esgob Vaughan a Daniel James, gan gynnwys perchnogaeth, rhesymau dros sut y bydd pethau'n cael eu gwneud a'r trefniadau ariannu/yr opsiwn mwyaf cost-effeithiol.

·         Hygyrchedd ar draws safle Ysgol Tregŵyr.

·         Cwmnïau adeiladu sy’n gweithio i ddarparu, er enghraifft, gwasanaethau gyda phobl ifanc mewn perthynas â chyflwyno prentisiaethau a chyfleoedd ym maes adeiladu.

·         Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) a'r gwersi a ddysgwyd gan y Fenter Cyllid Preifat (PFI).

152.

Partneriaeth Sgiliau Abertawe - Diweddariad Blynyddol pdf eicon PDF 166 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a David Bawden (Cydlynydd Strategol Sgiliau Addysg)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), a David Bawden (Cydlynydd Strategol Sgiliau Addysg) am fod yn bresennol yn y Panel ac am ddarparu adroddiad yn diweddaru'r Panel ar gynnydd gyda Phartneriaeth Sgiliau Abertawe.  Roedd y drafodaeth yn cynnwys:

 

·         Cefndir Partneriaeth Sgiliau Abertawe

·         Diweddariad ar gynnydd a'r blaenoriaethau strategol newydd

·         Llif gwaith un: Datblygu partneriaethau cydweithio cryfach gyda chyflogwyr

·         Llif gwaith 2: Datblygu partneriaethau cydweithredol i archwilio cyflwyno rhaglenni galwedigaethol 14-19 o safbwynt lle a darpariaeth

·         Llif gwaith tri: Sefydlu partneriaethau cydweithredol i ddatblygu a darparu ystod ehangach o raglenni ôl-16 o ansawdd uchel

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.  Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'w cwestiynau'n rhan o'r llythyr a gaiff ei anfon at Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod.

 

·         Sylwodd y Panel ar yr adroddiad fod hwb gwyrdd yn agor yn fuan yng Ngholeg Gŵyr, ac roedd y Panel yn falch o glywed amdano. Gofynnwyd a oes unrhyw ardaloedd eraill sy'n cael eu hannog i wneud hyn.

·         Mae'r panel yn croesawu ac yn llongyfarch y gwaith sy'n cael ei wneud gan Bartneriaeth Sgiliau Abertawe ond dywedwyd bod angen iddo fod â lefel uwch o ymgysylltiad busnes â'r Bartneriaeth ei hun er mwyn iddi fod yn gwbl gynhwysol.

·         Mae'r panel yn cydnabod ac yn cefnogi'r gwaith o amgylch dysgu galwedigaethol ac yn falch o glywed am y gyfres newydd o gymwysterau galwedigaethol o'r enw VCSE's.

·         A fydd y cyrsiau VCSE yn hygyrch i bob disgybl, gan gynnwys disgyblion ADY.

·         A fydd elfennau busnes neu gyrsiau ar gael o hyd i bobl ifanc a all fod eisiau deall am agweddau busnes hefyd?

·         Datblygu nifer o gyrsiau y gellir eu cyrchu ar-lein a sut y byddai hynny'n gweithio.  Soniwyd bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o allu pobl ifanc i gael mynediad at yr offer sydd ei angen i'w gwblhau ar-lein.

 

Teimlai'r Panel fod hwn yn waith ysbrydoledig ac arloesol ac y byddai'n rhoi Abertawe ar y blaen yng Nghymru gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc yma.

 

153.

Adolygiad diwedd blwyddyn Craffu ar Addysg pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Trafododd y Panel eu blwyddyn yn y Pwyllgor Craffu Addysg a gofynnwyd iddynt amlygu unrhyw feysydd sydd wedi gweithio'n dda neu y gellid eu gwella. Nodwyd y canlynol:

 

·         Roedd ymweld ag ysgolion a gweld y gwaith sy'n cael ei wneud ar lawr gwlad yn wych ond mae'n well gwneud hyn yn bersonol lle bo hynny'n bosib gan y teimlwyd y gellid ymgysylltu'n well a chraffu ar y sefyllfa'n well.

·         Teimlwyd bod y gwaith craffu diweddar ar ysgol sy'n achosi pryder yn arbennig o fuddiol ac fe'i cwblhawyd mewn modd proffesiynol.  Roedd yr ysgol hefyd yn hapus gyda'r cynnydd.

·         Gall cyflwyniadau PowerPoint fod yn ddefnyddiol ond mae angen i ni sicrhau ein bod yn eu dosbarthu gyda phapurau'r agenda i sicrhau amser i ystyried y manylion sydd ynddynt er mwyn craffu arnynt yn well.

 

Cynhelir cyfarfodydd panel am 4.30pm o Fehefin 2024 ymlaen oni bai eu bod yn cynnwys ymweliad ysgol, pan fyddant yn dechrau am 4.00pm.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.40 pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 125 KB