Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y Cyng. S M Jones a'r Cyng. B Hopkins gysylltiad personol. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023 gan y Panel. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfodydd y Panel ar 23 Tachwedd 2023 ac 14 Rhagfyr 2023. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Cyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru – cwrdd ag Ysgol Tregwyr a’i Hysgolion Cynradd Clwstwr PDF 37 KB Cyfarfod ag Ysgol Uwchradd Tregŵyr
a'i chlwstwr o Ysgolion Cynradd. Cofnodion: Croesawodd y
Panel Dave Bradley, sef y swyddog cyswllt Partneriaeth ar gyfer y clwstwr.
Rhoddodd drosolwg o'r gefnogaeth a roddwyd i'r clwstwr ac yna amlinellodd y
cynnydd. Dywedodd fod Partneriaeth
Gogledd Gŵyr yn bartneriaeth gref, a chanddi hanes hir o weithio mewn
partneriaeth hyd yn oed cyn i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno. Maent wedi
bod yn gwneud cynnydd da iawn wrth ei gyflwyno. Mae Partneriaeth yn gweithio
mewn partneriaeth â nhw fel cydraddolion oherwydd mae Partneriaeth yn elwa o'r
berthynas a'r dysgu yn yr un modd â'r ysgolion. Croesawodd y
Panel Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr o Bartneriaeth Gogledd
Gŵyr. Anfonodd y Panel gyfres o gwestiynau atynt cyn y cyfarfod, a oedd yn
ymwneud â chyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, a darparodd Partneriaeth gyflwyniad a
oedd yn amlinellu gwaith y bartneriaeth ac yn mynd i'r afael â'r cwestiynau
hynny. Roedd hyn yn cynnwys: a)
Sut mae'n mynd hyd yn hyn? b)
Beth sydd fwyaf heriol? c)
Sut ydych chi'n cefnogi’ch athrawon a staff
eich ysgol wrth newid i'r cwricwlwm newydd? d)
Sut ydych chi'n gweithio gyda'ch gilydd fel
clwstwr i sicrhau ymagwedd gyson? e)
Sut ydych chi'n gwybod pa mor effeithiol yr ydych yn rhoi'r Cwricwlwm i
Gymru ar waith yng nghlwstwr Tre-gŵyr? f)
Sut ydych chi'n mynd â dysgwyr gyda chi ar y
daith hon? Sut mae gwybodaeth am y cwricwlwm yn cael ei rhannu
â’r dysgwyr? Sut mae'r dysgwyr yn ymateb i'r cwricwlwm , yn enwedig y
rheini sydd wedi cael profiad o'r ddwy system? g)
Sut rydych chi'n teimlo am y gefnogaeth
rydych chi wedi’i derbyn gan yr awdurdod lleol a Partneriaeth? Roedd y
cyflwyniad gan y bartneriaeth yn rhoi trosolwg o gynnydd, gan gynnwys, ·
Sut
mae'r bartneriaeth yn edrych ar gysondeb yr egwyddor yn hytrach nag arfer. ·
Cyfansoddiad
y bartneriaeth gan gynnwys yr ysgolion sy'n ymgysylltu â hi, nifer y disgyblion
etc. ·
Hanes
y bartneriaeth ·
Edrychwyd
ar y canlynol: argymhellion allweddol Dyfodol Llwyddiannus, y 12 Egwyddor
Addysgeg. ·
Mae
gan y clwstwr tri phennaeth diweddar sy'n arwain ar ddysgu ·
Cyflwyno
agwedd gadarnhaol, brandio 'Kanga y cangarŵ' ar
draws y clwstwr, gan ddangos ymagwedd gyson. ·
Gweithio
gyda'r awdurdod lleol a Partneriaeth ·
Cynnydd
y Siarter Iaith ·
Cynllun
cynnydd a datblygiad Partneriaeth Gogledd Gŵyr, a'i chynlluniau ar gyfer y
dyfodol ·
Datblygu
gwefan Partneriaeth Gogledd Gŵyr a'i chynnwys ·
Y
defnydd cyson o egwyddorion a pholisïau yr ymchwiliwyd iddynt ar draws y
bartneriaeth, gan gynnwys Llawlyfr Diogelu a Pholisi Presenoldeb. ·
Cefnogi
staff ar draws y clwstwr gan ddefnyddio'r egwyddorion a'r polisïau hynny Gofynnodd y Panel
y canlynol yn ystod y cyfarfod hefyd: ·
Beth
yw'r lefelau amddifadedd ar draws ardal y clwstwr? ·
Sut
mae'r clwstwr yn ariannu Partneriaeth Gogledd Gŵyr ac adnoddau eraill a
ddefnyddir, oes cyllideb gyffredinol neu gyllideb a rennir? ·
Beth
yw'r ffactorau allweddol ar gyfer eich llwyddiant fel clwstwr yn eich barn chi,
o ran bwrw ymlaen â'r Cwricwlwm i Gymru? ·
Pa
gyfleoedd ar gyfer dysgu a ddefnyddir? ·
Y
defnydd o gysondeb o ran 'Kanga' a pholisïau etc. -
ydy hyn yn helpu disgyblion wrth iddynt bontio o ysgol gynradd i ysgol uwchradd
yn y clwstwr? ·
Beth
yw'r cyfraddau presenoldeb, yn enwedig ar gyfer ysgolion uwchradd? Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'r cwestiynau hynny a ofynnwyd yn rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod. |
|
Cynllun Gwaith 2023/2024 PDF 115 KB Cofnodion: Nodwyd y Cynllun
Gwaith ar gyfer 2023/2024. Daeth y cyfarfod i ben am 5.50pm |