Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. www.abertawe.gov.uk/DatgeliadauBuddiannau Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 gan y panel hwn. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr
Addysg) a Sarah Hughes
(Pennaeth Strategaeth Addysg) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen
Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr sy'n Agored i
Niwed) a Sarah Hughes (Strategaeth Addysg) am ddod i gyfarfod y Panel a
chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn darparu manylion ynghylch
perfformiad Addysg yn erbyn blaenoriaethau a nodwyd. Roedd y drafodaeth yn cynnwys: ·
Cynnydd
gyda'r argymhellion a wnaed gan Arolygiad Estyn o Wasanaeth Addysg Llywodraeth
Leol yn Abertawe yn 2022, gan gynnwys Addysg Ôl-16 a chryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym myd
Addysg. Clywodd y Panel fod cynnydd da
wedi'i wneud gyda'r ddau argymhelliad. ·
Y
cynnydd yn erbyn blaenoriaethau allweddol - mae rhai o'r rhain yn cynnwys, er
enghraifft:
Strategaeth
Cynhwysiad
Cynllun
gweithredu presenoldeb
Gwreiddio
gofynion diwygio Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)
2018
Adolygu
darpariaeth arbenigol
Gwreiddio
ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles emosiynol
Cefnogaeth
i Blant sy'n Derbyn Gofal ·
Clywodd
y Panel fod cynnydd da wedi'i wneud ar gyfer y rhan fwyaf o amcanion a bod
camau wedi'u nodi i fynd i'r afael ag agweddau penodol y mae angen sylw arnynt. Codwyd y
materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.
Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'w
cwestiynau'n rhan o'r llythyr a gaiff ei anfon at Aelod y Cabinet yn dilyn yn
cyfarfod. ·
Roedd
y Panel yn falch o weld cynnydd da gydag argymhellion Estyn a gofynnwyd a oedd
cynllun gweithredu i gefnogi'r rhain hefyd ac a fyddai hyn yn cael ei gynnwys
mewn diweddariad yn y dyfodol. ·
 phwy
yr ymgynghorwyd yn y gwaith llais y dysgwr; a oedd hyn wedi cynnwys y 6ed
Dosbarth neu bobl ifanc Ôl-16 er enghraifft, y rheini mewn addysg
alwedigaethol. ·
Ysgol
arbennig newydd posib. A fydd teithio i'r ysgol newydd yn cael effaith ar y
rheini sy'n ei ddefnyddio gan y bydd ar un safle yn hytrach na dau. ·
Cymharu
data. A fyddai'n fwy realistig cymharu data cyfredol â data 2019 yn hytrach
na'r ychydig flynyddoedd diwethaf ar hyn o bryd. Hefyd, gallai fod yn
ddefnyddiol edrych ar arwyddion cyrchfannau fel y disgyblion hynny sy'n cael eu
dewis 1af neu 2il ddewis o brifysgol. ·
Pa
gefnogaeth a ddarperir i benaethiaid mewn perthynas ag arolygiadau ac yn
ehangach. ·
Pan
fydd ysgol mewn mesurau arbennig neu'n cael ei monitro gan Estyn, sut mae'r
awdurdod lleol yn monitro cynnydd. ·
Sut
mae'r ALl ac ysgolion yn cefnogi plant y lluoedd
arfog. ·
Canlyniadau
PISA; oes gennym ganlyniadau ar gyfer ardal Abertawe. Gofynnodd y panel
i'r Aelod Cabinet a'r Cyfarwyddwr ddiolch i'r gyfarwyddiaeth Addysg ac ysgolion
am eu gwaith rhagorol eleni. |
|
Adborth gan y Grwp Craffu Cynghorwyr Partneriaeth PDF 197 KB Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd
Lyndon Jones ddiweddariad i'r
panel ynghylch Craffu ar Partneriaeth a oedd yn cynnwys rhannu'r llythyr at Gadeirydd y Cyd-bwyllgor oddi wrth
y grŵp cynghorwyr yn dilyn eu cyfarfod
diwethaf ar 23 Hydref 2023. Croesawodd y panel y diweddariad o ran Craffu ar Partneriaeth a theimlant ei bod yn ddefnyddiol cael copïau o'r llythyrau Roedd un o'r materion a godwyd yn y llythyr yn ymwneud â'r hyfforddiant, y datblygiad a'r gefnogaeth a ddarparwyd gan Partneriaeth ac a oedd hyn ar gael i lywodraethwyr ysgol. |
|
Cynllun Gwaith 2023/2024 PDF 113 KB Cofnodion: Nodwyd y Cynllun
Gwaith ar gyfer 2023/2024. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.40
pm |
|