Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Cllrs Lyndon Datganodd
y Cynghorydd Lyndon Jones a Mike Day gysylltiad personol ag eitem 9 ar yr
agenda. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023 a 19 Hydref 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y llythyr
at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 14 Medi 2023. Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 19 Hydref 2023. Diweddarodd y Cyfarwyddwr y Panel ar fater a godwyd gan y Pennaeth, a oedd wedi teimlo nad oedd peth o'r hyfforddiant grŵp a ddarparwyd gan Partneriaeth mor fuddiol â'r gefnogaeth un-i-un. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg wrth y Panel ei fod wedi gofyn i Bennaeth Ysgol Gynradd Gorseinon nodi digwyddiadau hyfforddi nad oeddent cystal â'r disgwyl. Mae wedi cadarnhau bod yr esiampl/au yn rhag-ddyddio mis Ebrill 2022 pan ddechreuodd Partneriaeth yn gyfreithlon. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir
cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r
cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod
cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â
hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr
Addysg) a Kelly Small
(Pennaeth y Tîm Cynllunio ac Adnoddau) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen
Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kelly Small (Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau)
am ddod i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn manylu
ar leihau anfantais mewn ysgolion. Roedd
y drafodaeth yn cynnwys: ·
Gwariant
y Grant Datblygu Disgyblion ·
Cyflwyno
prydau ysgol am ddim ·
Cost
y diwrnod ysgol ·
Cost
gwisg ysgol a grant gwisg ysgol. Codwyd y
materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.
Bydd crynodeb o farn y Panel am y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i
gwestiynau'n ffurfio rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod. ·
Sut y
penderfynir ar daliadau a grantiau datblygu disgyblion yn y dyfodol pan nad
yw'r mesur procsi prydau ysgol am ddim (PYDd)
bellach yn gywir gan fod llai o gymhelliant bellach i rieni gofrestru yn sgil
cyflwyno PYDd. · Gostyngiad posib mewn amser ar deithiau
ysgol ar fws oherwydd y rheol 20mya. · A yw enghreifftiau o arfer da wrth leihau anfantais yn cael eu rhannu ar draws yr ysgol. |
|
Gwasanaeth Gwella Ysgolion - Diweddariad Blynyddol PDF 177 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr
Addysg) a David Thomas (Prif
Swyddog Gwella Ysgolion) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen
Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), David Thomas (Prif Swyddog Gwella Ysgolion)
am ddod i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y Gwasanaeth
Gwella Ysgolion. Roedd y drafodaeth yn cynnwys: ·
Cefndir
y gwasanaeth ·
Gwybodaeth
am y sefyllfa bresennol ·
Casgliadau ·
Meysydd
ffocws allweddol yr Ymgynghorwyr Gwella Ysgolion ar gyfer 2023/2024 Codwyd y
materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.
Bydd crynodeb o farn y Panel mewn perthynas â'r diweddariad ar y
gwasanaeth gwella ysgolion yn ffurfio rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet yn
dilyn y cyfarfod. Mae rhai o'r materion a godwyd gan y Panel yn cynnwys: · Sut mae rolau beunyddiol y Tîm Gwella Ysgolion a Partneriaeth yn gweithio, beth yw'r gwahanol rolau, oes unrhyw fylchau neu orgyffwrdd. |
|
Coginio mewn Ysgolion PDF 140 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr
Addysg) a Rhodri Jones
(Pennaeth y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen
Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Rhodri Jones (Pennaeth Cyflawniad a
Gwasanaeth Partneriaeth) am ddod i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad
ysgrifenedig a oedd yn manylu ar leihau anfantais mewn ysgolion. Roedd y drafodaeth yn cynnwys: ·
Cyflwyniad
i goginio a'r Cwricwlwm i Gymru ·
Coginio
mewn ysgolion cynradd ·
Coginio
mewn ysgolion uwchradd. Bydd crynodeb o
farn y Panel am y sesiwn friffio ar goginio mewn ysgolion yn ffurfio rhan o'r
llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn yn cyfarfod. Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y
Panel. ·
Beth
yw'r amcanion o ran coginio, a yw'n rhan o'r strategaeth ehangach o gwmpas, er
enghraifft, tlodi. ·
A yw
ysgolion etc. yn adeiladu hyn i mewn i'r cwricwlwm a pha mor aml y mae plant yn
cael coginio mewn gwirionedd? ·
A yw
lefel sgiliau Cymru gyfan yn rhan o'r agenda alwedigaethol ac a oes cymwysterau
cysylltiedig ar draws Cymru. · Nodwyd bod Ysgol Gynradd Penclawdd yn enghraifft dda. A ystyriwyd cyflwyno'r hyn y mae'r ysgol hon yn ei wneud yn ehangach. |
|
Rhaglen Waith 2023/2024 PDF 112 KB Cofnodion: Nodwyd y Cynllun
Gwaith ar gyfer 2023/2024. Bydd sesiwn friffio sy'n ymwneud ag addysg Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei hychwanegu at y rhaglen waith craffu eleni. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.10
pm |
|