Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Panel y llythyr ac ymateb Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 13 Gorffennaf 2023. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Plant sy'n Derbyn Gofal, cefnogaeth a chynnydd yn yr ysgol PDF 247 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn) a Helen Howells (Dysgwyr Agored i Niwed) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Panel i’r Cynghorydd Robert Smith
(Aelod y Cabinet dros Ddysgu
a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr
Addysg) a Helen Howells (Rheolwr
y Tîm Cefnogi Disgyblion) am fynd i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn
rhoi manylion ynghylch cefnogaeth a chynnydd plant sy’n derbyn gofal yn
yr ysgol. Roedd y drafodaeth yn cynnwys
y canlynol: • Y sefyllfa bresennol, gan gynnwys data • Cynlluniau Addysg Personol (CAP) • Cefnogaeth a darpariaeth mewn ysgolion gan
gynnwys ymyriadau llythrennedd a rhifedd cyfleusterau a chyfarpar anogaeth a lles gweithgareddau pontio defnydd o grant pwrpasol athro dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal • darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol • perfformiad o ran addysg • hyfforddiant a datblygiadau'r dyfodol Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel. Bydd crynodeb o farn y Panel ar y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'w
cwestiynau yn rhan o'r llythyr
a anfonir at yr Aelod Cabinet yn dilyn y cyfarfod. • Plant a leolir y tu allan
i'r sir a darpariaeth yn Abertawe • Plant sy'n derbyn tiwtora
gartref a nifer yr oriau o ddysgu
a ddarperir • Cadw mewn cysylltiad
â disgyblion a sut caiff cynnydd ei
fonitro • Pŵer iaith a'r arweiniad iaith newydd |
|
Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Sarah Hughes (Pennaeth Strategaeth Addysg) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd y Panel i’r Cynghorydd Robert Smith
(Aelod y Cabinet dros Ddysgu
a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr
Addysg) a Sarah Hughes (Pennaeth
Strategaeth Addysg) am fynd i gyfarfod y Panel a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd
yn rhoi manylion
ynghylch 10 o argymhellion Pwyllgor Datblygu’r Cabinet, fel y cyfeiriwyd at y Panel er mwyn iddynt fynd
ar drywydd y mater. Roedd y drafodaeth yn cynnwys
y canlynol: • Y sefyllfa bresennol, gan gynnwys data • Cynlluniau Addysg Personol (CAP) • Cefnogaeth a darpariaeth mewn ysgolion gan
gynnwys ymyriadau llythrennedd a rhifedd cyfleusterau a chyfarpar anogaeth a lles gweithgareddau pontio defnydd o grant pwrpasol athro dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal • darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol • perfformiad o ran addysg • hyfforddiant a datblygiadau'r dyfodol Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel. Bydd crynodeb o farn y Panel ar y cynnydd a wnaed a'r ymatebion i'w
cwestiynau yn rhan o'r llythyr
a anfonir at yr Aelod Cabinet yn dilyn y cyfarfod. • Cyfranogaeth cydlynwyr ardaloedd lleol • Ymgysylltu â chymunedau ac ar gyfryngau cymdeithasol • Strategaeth Galwedigaethol • Aelodaeth llyfrgell ar gyfer plant bach a phobl ifanc • Strategaeth Cynhwysiad • Arweiniad iaith Roedd y Panel yn falch o weld cynnydd da gyda nifer o'r argymhellion, ond mae angen datrysiadau tymor hwy ar gyfer y rheini sy’n weddill. Mae’r Panel yn edrych ymlaen at glywed am gynnydd mewn perthynas â’r rheini nad ydynt wedi symud ymlaen eto, pan fyddant yn cael diweddariad pellach ymhen 12 mis. |
|
Adborth gan y Grwp Craffu Cynghorwyr Partneriaeth PDF 142 KB Cofnodion: Nododd y Panel y llythyr o gyfarfod diweddaraf Grŵp Cynghorwyr Craffu Partneriaeth ar 19 Mehefin 2023. |
|
Cynllun Gwaith 2023/2024 PDF 111 KB Cofnodion: Nodwyd y cynllun gwaith. Bydd cyfarfod nesaf y Panel yn gyfarfod wyneb yn wyneb anffurfiol yn unig yn Ysgol Gynradd Gorseinon. |
|
Er Gwybodaeth - Rhestr Deilliannau Arolygiadau Ysgolion Unigol Diweddar PDF 99 KB Cofnodion: Nododd y Panel restr arolygiadau unigol ddiweddar Estyn. |
|