Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

76.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

77.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

78.

Cofnodion pdf eicon PDF 395 KB

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023.

79.

Llythyrau pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 15 Mehefin 2023.

80.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

81.

Rheoli a Gwella Presenoldeb yn yr Ysgol, gan gynnwys data pdf eicon PDF 141 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn) a Helen Howells (Dysgwyr Agored i Niwed)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i’r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Agored i Niwed) a Helen Howells (Rheolwr Tîm Cefnogi Disgyblion) am fynd i gyfarfod y Panel ac am gyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi manylion ynghylch rheoli a gwella presenoldeb ysgol yn Abertawe.  Roedd y drafodaeth yn cynnwys y canlynol:

 

·       Presenoldeb yn ysgolion Abertawe a data

·       Polisi presenoldeb 2023

·       Cynllun Gweithredu Presenoldeb a'r pum blaenoriaeth allweddol

·       Strategaethau pellach i wella presenoldeb

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.  Bydd crynodeb o farn y Panel ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phresenoldeb ysgol a'r ymatebion i'w cwestiynau yn rhan o'r llythyr a anfonir at yr Aelod Cabinet yn dilyn y cyfarfod.

 

·       Mae’n galonogol bod y ffigurau’n gwella a byddem yn disgwyl i hynny barhau yn awr.

·       Beth fu'r newid o ran ymagwedd.

·       A oes unrhyw astudiaethau/ymchwil ar gael i’r rhesymau dros ddiffyg presenoldeb (clywodd y Panel fod adroddiad gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cynnwys yr wybodaeth hon. Bydd dolen i'r wybodaeth hon yn cael ei ddosbarthu i’r Panel).

·       A yw nifer y gofalwyr ifanc wedi cynyddu ers COVID.

·       Pa ddulliau gweithredu ac ymyriadau sy'n cael eu defnyddio ar draws ysgolion.

·       A yw nifer y plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref wedi cynyddu ers COVID.

·       A yw’r data sydd ar gael yn darparu unrhyw dueddiadau mewn grwpiau blwyddyn, er enghraifft, ac a oes unrhyw effaith ar bresenoldeb disgyblion ym mlynyddoedd pontio ysgol COVID sydd bellach yn symud ymlaen drwy’r grwpiau blwyddyn.

82.

Rheoli a Gwella Gwaharddiadau Ysgol, gan gynnwys data pdf eicon PDF 143 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn) a Helen Howells (Dysgwyr Agored i Niwed)

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i’r Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Agored i Niwed) a Helen Howells (Rheolwr Tîm Cefnogi Disgyblion) am fynd i gyfarfod y Panel ac am gyflwyno adroddiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi manylion ynghylch rheoli a gwella nifer y gwaharddiadau ysgol yn Abertawe.  Roedd y drafodaeth yn cynnwys y canlynol:

 

·       Agwedd Abertawe at waharddiadau

·       Data gwaharddiadau

·       Ymyriadau i hybu cynhwysiant

 

Codwyd y materion/cwestiynau canlynol gan y Panel.  Bydd crynodeb o farn y Panel ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â gwaharddiadau a'r ymatebion i'w cwestiynau yn rhan o'r llythyr a anfonir at yr Aelod Cabinet yn dilyn y cyfarfod.

 

·       Mae yna nifer bach o ysgolion sy'n wynebu her unigryw, beth maen nhw'n ei wneud i fynd yn groes i'r duedd a lleihau gwaharddiadau.

·       Yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn nad yw'n gweithio'n dda mewn perthynas â gwella nifer y gwaharddiadau. Sut mae arferion da yn cael eu rhannu.

·       A oes gan bob ysgol ei chymorth bugeiliol ei hun.

·       Pa mor hir yw gwaharddiadau cyfnod penodol.

·       A yw Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn ymwneud â siarad â rhieni/theuluoedd.

83.

Cynllun Gwaith 2023/2024 pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cynllun gwaith ar gyfer 2023/2024.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.00pm

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 159 KB