Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadarnhau Cynullydd Cofnodion: Cadarnhawyd mai'r Cynghorydd Lyndon Jones fyddai Cynullydd y Panel ar gyfer blwyddyn ddinesig 2023/2024. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Lyndon Jones gysylltiad personol ag eitem 12. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunodd y Panel ar gofnodion y cyfarfod ar 11 Mai 2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y llythyr at Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol - Diweddariad (eitem briff gwylio) PDF 110 KB Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Kate Phillips (Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn) a Alison Lane (Pennaeth y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i'r Pennaeth Dysgwyr Diamddiffyn am fod yn bresennol a rhoi'r diweddariad
ynghylch Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol. Clywodd y Panel
fod y strategaeth ADYTA wedi cael ei hadolygu a'i chwblhau, a drafftiwyd
strategaeth newydd sy'n cyd-fynd â'r strategaeth ranbarthol a throsglwyddir y
camau gweithredu sydd heb eu cwblhau i'r strategaeth newydd. Mae bellach yn
cynnwys y cyfnod rhwng 2022 a 2027 ac mae'n cynnwys 4 maes blaenoriaeth: ·
Ysgolion ·
Ôl-16 ·
Cydweithio;
a'r ·
Blynyddoedd
cynnar Clywodd y Panel
hefyd am y llwyddiannau a'r heriau a brofir. Nododd y Panel, er gwaethaf
dymuniad Llywodraeth Cymru i sefydlu system sy'n llai gwrthwynebol, bod y
cyngor wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am dribiwnlysoedd a bod hyn wedi
rhoi pwysau ar wasanaethau ac wedi tynnu sylw at yr angen i gynnal adolygiad
mewnol i brosesau a gweithdrefnau i sicrhau bod lefel briodol o adnoddau ar
gael. Roedd y Panel yn
falch o glywed y gwneir gwaith helaeth i gymedroli, sicrhau ansawdd a chefnogi
ysgolion er mwyn sicrhau bod cynnig cyson a theg i bob dysgwr. Mae'r gwaith
hwnnw ar cyd â'r bwrdd iechyd lleol hefyd yn cryfhau, ac yn sicrhau eu bod yn
meithrin partneriaeth gynhyrchiol. Gofynnodd y Panel
am addysg ôl-16 ac a ydym yn sicrhau bod y sefydliadau sy'n darparu
gwasanaethau'n cyflawni eu rolau'n effeithiol. Clywodd y Panel ein bod yn
gweithio gyda'n partneriaid cyflawni allweddol i sicrhau eu bod mor gryf ag y gallant fod er mwyn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol ac rydym yn
gwneud hyn mewn modd cydlynol. Cytunodd y Panel fod diwygio ADY yn broses barhaus a byddant yn parhau i gadw golwg ar gynnydd. |
|
Cwricwlwm Newydd i Gymru - Diweddariad (eitem briff gwylio) Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a David Thomas (Prif Swyddog Gwella Ysgolion) Cofnodion: Diolchodd y Panel i'r Pennaeth Dysgwyr
Diamddiffyn am fod yn bresennol a rhoi'r diweddariad ynghylch Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol. Clywodd y Panel fod y strategaeth ADYTA wedi cael ei
hadolygu a'i chwblhau, a drafftiwyd strategaeth newydd sy'n cyd-fynd â'r
strategaeth ranbarthol a throsglwyddir y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau
i'r strategaeth newydd. Mae bellach yn cynnwys y cyfnod
rhwng 2022 a 2027 ac mae'n cynnwys 4 maes blaenoriaeth: Ysgolion Ôl-16 Cydweithio; a'r Blynyddoedd cynnar Clywodd y Panel hefyd am y llwyddiannau a'r heriau a brofir.
Nododd y Panel, er gwaethaf
dymuniad Llywodraeth Cymru
i sefydlu system sy'n llai gwrthwynebol, bod y cyngor wedi gweld
cynnydd yn nifer y ceisiadau am dribiwnlysoedd a bod hyn wedi rhoi pwysau
ar wasanaethau ac wedi tynnu sylw
at yr angen i gynnal adolygiad mewnol i brosesau a gweithdrefnau i sicrhau bod lefel briodol o adnoddau ar gael.
Roedd y Panel yn
falch o glywed y gwneir gwaith helaeth
i gymedroli, sicrhau ansawdd a chefnogi ysgolion er mwyn sicrhau bod cynnig cyson a theg i bob dysgwr. Mae'r gwaith
hwnnw ar cyd â'r bwrdd
iechyd lleol hefyd yn cryfhau, ac yn sicrhau eu
bod yn meithrin partneriaeth gynhyrchiol. Gofynnodd y Panel am addysg ôl-16 ac a ydym yn sicrhau
bod y sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau'n cyflawni eu rolau'n
effeithiol. Clywodd y Panel
ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid cyflawni allweddol i sicrhau eu bod mor gryf ag y gallant fod er mwyn cyflawni'r
hyn sy'n ofynnol ac rydym yn gwneud hyn
mewn modd cydlynol. Cytunodd y Panel fod diwygio ADY yn broses barhaus a byddant yn parhau i gadw golwg ar gynnydd. |
|
Addysg Arolwg Estyn - Cynnydd gydag argymhellion PDF 136 KB Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Sarah Hughes (Pennaeth yr Uned Gwella a Monitro) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i Reolwr y Tîm Strategaeth Addysg am amlinellu'r cynnydd gyda'r ddau
argymhelliad a wnaed yn dilyn arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg y
Llywodraeth Leol yn Abertawe ym mis Mehefin 2022. Clywodd y panel y gwnaed
cynnydd yn y meysydd canlynol: Argymhelliad 1
- Adolygu darpariaeth ôl-16 i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pob un o'r
dysgwyr. ·
Mae
strategaeth ôl-16 tair blynedd bellach ar waith ar gyfer Abertawe ·
Datblygwyd
memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer pontio llwyddiannus i'r holl ymadawyr
ysgol ·
Cynhaliwyd
cyfarfodydd gyda'r holl benaethiaid ynghylch sicrhau bod disgyblion y chweched
dosbarth yn cael mynediad i'r ddarpariaeth fwyaf addas ar eu cyfer. ·
Cynhaliwyd
arolwg llais y dysgwyr helaeth ·
Archwiliwyd
cyfleoedd ar gyfer modelau ar-lein/hybrid o gyflwyno'r cwricwlwm ôl-16 ·
Cynhaliwyd
gweithgareddau dysgu proffesiynol ar y cyd â Choleg Gŵyr ac ysgolion sydd
â chweched dosbarth ·
Dyrannwyd
cyllid pontio i ysgolion sydd â chweched dosbarth i sicrhau cydweithrediad ·
Mae
Academi Seren yn parhau i ddarparu sesiynau a chyfleoedd ·
Datblygwyd
partneriaeth rhwng sawl sefydliad addysg yn Ne Cymru o'r enw Ymestyn yn
Ehangach gyda'r nod o godi dyheadau ar gyfer pobl ifanc ·
Mae
gwaith i gefnogi anghenion sgiliau fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe'n parhau a'r cam nesaf yw mapio llwybrau dilyniant
trwy faes targed o ddarpariaeth iechyd a lles a gynigir ar gyfer plant cyn 16,
ôl-16 a thu hwnt. Argymhelliad 2
– Cryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob oedran ac ardal o'r awdurdod
lleol. ·
Cymeradwywyd
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) gan Lywodraeth Cymru a lluniwyd
cynllun cyflawni sy'n amlinellu'r ffrydiau gwaith allweddol. Mae'r cynnydd
gyda'r cynllun yn cael ei fonitro'n agos a bydd yr adroddiad cynnydd blynyddol
cyntaf yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2023. ·
Cynhelir
trafodaethau ar flaenoriaethau allweddol yn rheolaidd gyda Phartneriaeth Addysg
Gymraeg Abertawe. ·
Ers
mabwysiadu'r CSGA, archwiliwyd opsiynau ar gyfer cynyddu tegwch y cynnig gofal
plant a darpariaeth ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. ·
Mae'r
peilot sy'n digwydd ar gyfer hwyrddyfodiaid cynradd yn parhau tan ddiwedd y
flwyddyn academaidd hon. ·
Mae
taith Siarter Iaith ysgolion Abertawe'n parhau i
symud yn ei blaen wrth i nifer o ysgolion dderbyn achrediadau efydd, arian ac
aur. ·
Ychwanegir
gwybodaeth ychwanegol at wefan y cyngor ynghylch manteision addysg cyfrwng
Cymraeg. ·
Mae
clystyrau cyfrwng Cymraeg wedi bod yn cydweithio â'r cyngor i nodi modelau
posib ar gyfer darpariaeth arbenigol cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol. ·
Codwyd
penodi staff sy'n siarad Cymraeg fel her sylweddol ym mhob maes blaenoriaeth
allweddol, gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, staff addysgu, staff cefnogi a
staff ag arbenigedd ADY. · Staffing through the medium of Welsh was raised as a significant challenge in all key priority areas, including early years, teaching staff, support staff and staff with ALN expertise. |
|
Materion allweddol sy'n effeithio ar addysg 2023/24 PDF 206 KB Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) Cofnodion: Diolchodd y Panel i'r Cyfarwyddwr Addysg am ei chyflwyniad,
a oedd yn amlinellu rhai o'r materion allweddol
sy'n effeithio ar addysg yn
Abertawe 2023/2024. Bu'n trafod
wyth maes mater allweddol, gan gynnwys: Dileu rhwystrau
i ddysgu Rhoi'r cwricwlwm
ar waith Addysg gynhwysol Rheoli adnoddau Arweinyddiaeth ysgol Perfformiad ysgolion Dysgu yn
y gymuned Mae'r Gymraeg
yn perthyn i ni gyd. Cytunodd y Panel fod dyheadau'n hanfodol i blant a phobl ifanc ac roedd hefyd yn
falch o glywed bod ysgolion yn adeiladu
ar eu perthnasoedd
â chyflogwyr i helpu pobl ifanc i ddeall
a chael eu hysbrydoli gan y byd gwaith. Mae cynllun gwaith
y Panel wedi'i gynllunio i adlewyrchu'r materion allweddol hyn lle
bo hynny'n bosib. The Panels work plan has been designed to reflect these key issues where possible. |
|
Rhaglen Waith ddrafft ar gyfer 2023/24 PDF 111 KB Cofnodion: Cytunodd y Panel
ar y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2023/2024. Daeth y cyfarfod
i ben am 5.35pm Cadeirydd |
|