Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Cytunodd y Panel ar y cofnodion o gyfarfodydd blaenorol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Panel y llythyr gan Aelod y Cabinet a oedd yn ymwneud â'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr a’r llythyr at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig i’r adran craffu craffu@abertawe.gov.uk tan
ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n
cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n
bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i
eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Craffu ar y gyllideb flynyddol: am ei bod yn ymwneud â materion br addysg PDF 192 KB Roedd y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes) a Addysg Cabinet Papers 16/02/2023 (ar gael ar-lein o 10/02/2023) Cofnodion: Diolchodd y Panel
i Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, y Cyfarwyddwr Addysg a'r Pennaeth
Cynllunio ac Adnoddau Addysg am ddod i'r cyfarfod i drafod y Gyllideb Flynyddol
fel y mae'n ymwneud â materion addysg.
Darparwyd cyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol: ·
Y
Strategaeth Cyllideb Tymor Canolig ·
Rhagor
o negeseuon allweddol ar gyfer ymgynghoriad 2023-2024 · Addysg - Cynigion heb eu dirprwyo |
|
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion Cofnodion: Ar ôl y drafodaeth gyda'r Aelod Cabinet
a Swyddogion ar y Gyllideb Flynyddol mewn perthynas ag Addysg, cytunodd y Panel
ar yr adborth canlynol. Bydd hyn yn cael
ei gynnwys yn ymateb y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid
i'r Cabinet ar 16 Chwefror 2023. ·
Cynnydd yn y gyllideb Rydym yn croesawu’r cynnydd yn y gyllideb
eleni o £202 i £215 miliwn ond rydym yn cydnabod na fydd hyn yn ddigon i
leddfu'r holl bwysau ariannol ar gyllidebau ysgolion. Fodd bynnag, mae'r gyllideb i'w chroesawu’n
fawr ac rydym yn cydnabod mai dyma’r dyraniad arian parod mwyaf ar gyfer unrhyw
adran o’r cyngor yn Abertawe, sy’n tynnu sylw at y ffaith bod addysg yn brif
flaenoriaeth. ·
Cronfeydd wrth gefn ysgolion Clywsom fod y
cronfeydd wrth gefn ar gyfer ysgolion wedi gostwng yn sylweddol a’u bod bellach
tua £11 miliwn ar draws ysgolion yn Abertawe.
Mynegwyd pryder am y ffaith fod cronfeydd wrth gefn rhai ysgolion yn
uchel tra bod gan eraill gronfeydd wrth gefn isel iawn ac felly bydd angen
cymorth a chefnogaeth ar yr ysgolion hyn. ·
Pwysau ariannol Rydym yn cydnabod y
bydd ysgolion dan lawer o bwysau oherwydd nifer o gostau nad ydynt yn gwbl
hysbys ar hyn o bryd eleni yn 2023/24, ac yn wir 2024/25, er enghraifft ADY,
cofrestr gyffredinol prydau ysgol am ddim, costau tanwydd ac ynni, codiadau
cyflog athrawon etc. ·
Pwysau ar leihau'r gyllideb ar gyfer prydau ysgol
am ddim Rhaid sicrhau nad oes unrhyw golled
o ran ansawdd na safon y prydau ysgol a ddarperir a'n nod ddylai fod i brynu'n
lleol. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y
Panel y rhaglen waith gan nodi y bydd y cyfarfod nesaf ar 16 Mawrth 2023 yn
anffurfiol gan y bydd yn rhan o ymweliad safle ag Uned Cyfeirio Disgyblion Maes
Derw. Daeth y cyfarfod i ben am 3.40pm |