Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Craffu 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

56.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Lyndon Jones gysylltiad personol ag Eitem 8.

57.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Dim

58.

Cofnodion pdf eicon PDF 176 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod ar 20 April 2023 gan y Panel.

59.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

60.

Aflonyddu mewn ysgolion - Diweddariad pdf eicon PDF 180 KB

Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg), Lisa Collins (Swyddog Amddiffyn Plant a Diogelu)

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i'r Cyng. Robert Smith, Helen Morgan-Rees a Rhodri Jones am ddod i gyfarfod y Panel i drafod yr adroddiad a gyflwynwyd.  Roedd yr adroddiad yn dilyn diweddariad llafar a roddwyd i'r Panel ym mis Mehefin 2021, lle’r oedd ffocws cenedlaethol ar y pwnc hwn oherwydd y wefan Everyone's Invited, a oedd yn darparu lle i ddioddefwyr cam-drin rhywiol ac aflonyddu rannu eu straeon. Roedd yr adroddiad yn amlygu'r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe ers y cyfnod hwnnw.  Trafododd y Panel yr adroddiad a bydd ei farn a'i sylwadau'n llunio rhan o'r llythyr at Aelod y Cabinet.

61.

Mynd i'r afael â Hiliaeth mewn Ysgolion pdf eicon PDF 331 KB

Y Cynghorydd Robert Smith (Aelod y Cabinet, Addysg a Dysgu), Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Jennifer Harding-Richards (Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg)

 

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Jennifer Harding Richards a Pam Cole am ddod i'r cyfarfod a darparu adroddiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi crynodeb manwl o'r mater i'r Panel. Roedd yn cynnwys y canlynol:

         Y cyd-destun ehangach

         Y cyd-destun lleol

         Llywodraethu ac Arweinyddiaeth

         Amgylchedd yr Ysgol/Cwricwlwm Cudd

         Rhieni, Gofalwyr a Phartneriaeth Gymunedol

         Dysgu a Datblygu Proffesiynol

         Addysgeg a Chwricwlwm

Bydd crynodeb o farn y Panel am gynnydd yn ffurfio rhan o'r llythyr at yr Aelod Cabinet yn dilyn yn cyfarfod.

62.

Addysg o Safon (AoS) / Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu - Diweddariad pdf eicon PDF 676 KB

Y Cynghorydd Robert Smith Aelod y Cabinet - Addysg a Dysgu a Sgiliau, a Helen Morgan Rees (Cyfarwyddwr Addysg) a Louise Herbert-Evans (Rheolwr Tîm Cyfalaf)

Cofnodion:

Diolchodd y Panel i Louise Herbert Evans am ddarparu cyflwyniad PowerPoint manwl i'r Panel a oedd yn rhoi trosolwg o'r Rhaglen Addysg o Safon / Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys:

         Trosolwg o'r rhaglen

         Cyflwyno’r rhaglen

         Agweddau ar Gynnal a Chadw Cyfalaf

         Adeiladau newydd fel Maes Derw, YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw

         Estyniadau ac ailfodelu er enghraifft Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

         Yr hyn sy'n weddill yn y rhaglen Band B

         Y rhaglen dreigl/amlinelliad strategol newydd a Model Buddsoddi Cydfuddiannol

         Safleoedd strategol y CDLl

         Risgiau a phroblemau'r rhaglen

         Grantiau ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned

         Y Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol

         Cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol

Croesawodd y Panel y gwaith a wnaed i wella a datblygu'r stoc ysgolion a'r cyfleusterau ar gyfer dysgu. Bydd barn y Panel yn ffurfio rhan o'r llythyr i'r Aelod Cabinet.

63.

Adolygiad diwedd blwyddyn Craffu ar Addysg pdf eicon PDF 102 KB

Y Cynghorydd Lyndon Jones

Cofnodion:

Gan mai hwn fydd cyfarfod olaf y flwyddyn ddinesig hon, gwahoddwyd y Panel i fyfyrio ar waith craffu, profiadau ac effeithiolrwydd y flwyddyn hon. Roedd hyn yn cynnwys croesawu unrhyw syniadau a fyddai'n gwella effeithiolrwydd y gwaith craffu ar addysg.

 

Diolchodd Cynullydd y Panel i'r Swyddogion a chyd-aelodau'r Panel am eu hymrwymiad i'r Panel, gan ei fod yn teimlo bod hyn wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol eleni.

 

Dywedodd y Panel:

         ei fod yn falch bod yr adroddiad Estyn diweddaraf o wasanaethau addysg yn canmol gwaith y Panel.

         bod yr ymweliadau ysgol yn ddefnyddiol iawn ar y cyfan a hoffai'r Panel barhau â'r rhain yn y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod.

         ei fod wedi cwmpasu amrywiaeth fawr o faterion o fewn y flwyddyn a oedd yn effeithio ar addysg yn Abertawe.

         ei fod yn fuddiol iawn i gael cefnogaeth ardderchog ar gyfer rôl cyfaill beirniadol y Panel gan Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu, y Cyfarwyddwr a staff yr Adran Addysg.

64.

Er Gwybodaeth - Rhestr Deilliannau Arolygiadau Ysgolion Unigol Diweddar pdf eicon PDF 125 KB

 

 

 

                                

Cofnodion:

Nododd y Panel y rhestr o ganlyniadau Arolygiad Estyn ar gyfer ysgolion unigol.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 5.40pm

 

 

Cadeirydd

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 168 KB