Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Craffu
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Dim |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Dim |
|
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod ar 15 Rhagfyr 2023 gan y Panel. |
|
Cofnodion: Derbyniodd y Panel y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet yn dilyn cyfarfod y Panel ar 15 Rhagfyr 2023. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r adran Graffu craffu@abertawe.gov.uk tan ganol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Cwestiynau ysgrifenedig sy’n cael blaenoriaeth. Gall y cyhoedd ddod i’r cyfarfod a gofyn cwestiynau’n bersonol os oes digon o amser. Mae’n rhaid bod cwestiynau’n berthnasol i eitemau ar ran agored yr agenda a byddwn yn ymdrin â hwy o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Sesiwn Craffu ar Ysgolion - Cynnydd gyda Chyflwyniad y Cofnodion: Roedd y panel yn
falch o gwrdd â Phennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gyfun Pontarddulais
a phob un o'r ysgolion yng nghlwstwr yr ysgolion cynradd sy'n bwydo i mewn i'r
ysgol gyfun, gan gynnwys ysgolion cynradd Pengelli, Pontlliw, Penllergaer, Pontarddulais a Llangyfelach. Roedd ganddynt ddiddordeb hefyd mewn clywed
am y gefnogaeth a ddarparwyd i'r clwstwr gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion, y
Penaethiaid a gomisiynwyd a Partneriaeth. Roedd y panel yn
awyddus i drafod â nhw sut roedd y
Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei roi ar waith ar lawr gwlad a sut roedd y
gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob ysgol gynradd yn y clwstwr yn cael ei ddwyn
ynghyd wrth i ddisgyblion bontio i'r ysgol gyfun. Roedd gan y panel
set o gwestiynau allweddol a drafodwyd â'r clwstwr, a oedd yn cynnwys: a)
Sut mae'n mynd hyd yn hyn? b)
Beth sydd fwyaf heriol? c)
Sut ydych chi'n cefnogi’ch athrawon a staff eich
ysgol wrth newid i'r cwricwlwm newydd? d)
Sut ydych chi'n gweithio gyda'ch gilydd fel
clwstwr i sicrhau ymagwedd gyson? e)
Sut ydych chi'n mynd â dysgwyr gyda chi ar y
daith hon? Sut mae gwybodaeth am y cwricwlwm newydd yn cael ei
rhannu â’r dysgwyr? Sut mae'r dysgwyr yn ymateb i'r cwricwlwm newydd, yn
enwedig y rheini sydd wedi cael profiad o'r ddwy system? f)
Sut rydych chi'n teimlo am y gefnogaeth
rydych chi wedi’i derbyn gan yr awdurdod lleol a Partneriaeth? Roedd y panel yn
falch o glywed yn uniongyrchol am sut roedd y clwstwr yn gweithio fel tîm, yn
ogystal â gwrando ar eu llwyddiannau a'r materion roeddent yn eu hwynebu a sut
roeddent yn cydweithio i oresgyn y rhain. Roedd y panel yn
ddiolchgar i'r tîm ym mhob ysgol am gymryd yr amser i ymuno â nhw a rhoddwyd
diolch iddynt am eu brwdfrydedd ac am y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud. Bydd y drafodaeth, syniadau'r panel o'r sesiwn ac unrhyw argymhellion yn ffurfio rhan o'r llythyr a fydd yn cael ei anfon at Aelod y Cabinet yn dilyn y cyfarfod. |
|
Cynllun Gwaith 2022 - 2023 PDF 91 KB Cofnodion: Cytunodd y panel i edrych ar Bresenoldeb Ysgol yn y flwyddyn ddinesig newydd. Cytunwyd ar y Rhaglen Waith. |
|
Er Gwybodaeth - Rhestr Deilliannau Arolygiadau Ysgolion Unigol Diweddar PDF 112 KB Cofnodion: Nodwyd y rhestr
canlyniadau arolygiadau ysgolion unigol gan y panel. Daeth y cyfarfod i ben am 6.20pm |
|