Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Gwahoddir y Cyng. Elliott King a’r Cyng. Sam Pritchard, Aelodau’r Cabinet dros y Gwasanaethau i Blant a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol. Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 20 Chwefror 2020, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 13 Chwefror 2020). Cofnodion: Esboniodd y Cynghorwyr Elliot King a Sam Pritchard, Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, a Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau. |
|
Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion Gofynnir i’r
panel drafod ei farn a’i argymhellion
ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn eu
cyflwyno i’r Cabinet. Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 19 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu. Cofnodion: Cytunodd y panel ar y barn a'r argymhellion canlynol ar y
cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr
hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet: • Mynegodd y
panel bryder ynghylch y risgiau sy'n gysylltiedig â grantiau, yn benodol y risg
gynyddol wrth i'r cyngor ddibynnu mwyfwy ar arian grant. • Roedd y
panel yn hapus â ffocws cyffredinol y gyllideb sef blaenoriaethau'r cyngor hwn.
• Nododd y
panel y gostyngiad go iawn o £1.35m yn arian craidd Tlodi a'i Atal yn y
flwyddyn ariannol nesaf (y mae'r mwyafrif ohono'n mynd i’r Gwasanaethau Plant),
a chynnydd o £1.6m i'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a fydd yn arwain at
gynnydd o £0.25 yn y gyllideb gyffredinol o £42m. Dyma gynnydd bach iawn o'i
gymharu â chynnydd y Gwasanaethau i Oedolion, ac mae'n gynnydd bach iawn o'i
gymharu â'r cynnydd i'r GCR. Yn dilyn y cyfarfod hwn: Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â
chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n
cwrdd ar 19 Chwefror. Yna bydd cynullydd
y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror
i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at
Aelod y Cabinet. |