Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cadarnhau Cynullydd

Cofnodion:

Cadarnhawyd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams fel Cynullydd y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer 2024-25.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

3.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

4.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 142 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

6.

Rôl y Panel ac Adolygiad o'r Flwyddyn 2023-24 pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i Aelodau'r Panel am sylwadau am waith y Panel yn 2023-24.

 

Mae'r Panel yn teimlo mai un maes y mae'n rhaid iddo barhau i'w fonitro yw Iechyd Meddwl, yn benodol iechyd meddwl wrth drosglwyddo o'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i'r Gwasanaethau Oedolion, a faint o amser y mae atgyfeiriadau'n eu cymryd. Cytunodd yr Aelodau i drafod hyn gyda swyddogion y tu allan i'r cyfarfod.

[Yn dilyn y cyfarfod penderfynodd y Panel fod angen nodi dwy eitem ar wahân - eitem ynghylch y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ar gyfer y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a Strategaeth Iechyd Meddwl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion.]

 

 

7.

Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) am Dy Nant a Heol Tir Du pdf eicon PDF 135 KB

Gwahoddwyd:

Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Chris Griffiths, Prif Swyddog Gwasanaethau Preswyl 

Cofnodion:

Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a Chris Griffiths, Prif Swyddog dros Wasanaethau Preswyl yn bresennol i roi adborth am adroddiadau arolygu AGC.

 

Pwyntiau Trafod:

·       Hysbyswyd y Panel fod y ddau adroddiad archwilio hyn yn gadarnhaol iawn heb unrhyw hysbysiadau o bethau i'w blaenoriaethu, dim ond ychydig o feysydd i'w gwella dros y 23 mis nesaf ac mae cynlluniau gweithredu ar waith yn y ddau gartref i fynd i'r afael â'r rhain.

·       Clywodd y Panel fod staffio a recriwtio'n her barhaus ar draws y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, fodd bynnag mae ganddynt ymgyrch recriwtio effeithiol ac maent wedi llwyddo i gynyddu nifer y staff yn y cartrefi hyn yn sylweddol er mwyn gwella cysondeb staff.

·       Clywodd fod model gofal Tŷ Nant yn newid i Gartref a Hysbysir gan Drawma a'i fod yng nghanol cyfnod o drawsnewid ar hyn o bryd.

·       Gofynnodd y Panel, o ran gofal preswyl a yw'r adran yn fodlon bod digon o leoedd ar gael yn Abertawe? Clywodd nad oes digon o leoedd preswyl i blant ar hyn o bryd,  yn Abertawe nac mewn awdurdodau cyfagos, felly mae'n rhaid defnyddio cartrefi preswyl i blant sydd y tu hwnt i'r ardal.  

8.

Cyflawni Blaenoriaethau Corfforaethol / Ymrwymiadau Polisi mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 169 KB

Gwahoddwyd:

Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol i friffio'r Panel ynghylch yr eitem hon ac i ateb cwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau Trafod:

·       Clywodd y Panel mewn perthynas â diogelu fod y model Cymorth Cynnar yn gweithio'n dda iawn; mae llawer o waith yn mynd rhagddo i recriwtio rhagor o ofalwyr maeth; mae llety'n parhau i fod yn her. Clywodd y Panel hefyd, o ran y gweithlu roedd recriwtio wedi bod yn her, ond mae'r adran yn gweithio'n galed i ddefnyddio ffynonellau gwahanol ac mae'r Academi yn helpu i feithrin a datblygu ei staff ei hun.

·       Mae'r Panel yn teimlo, o ran ymyrryd yn gynnar ac atal taw'r bobl sydd yn y sefyllfa orau i nodi problemau posib yw ymwelwyr iechyd. Clywodd y Panel fod gan yr adran berthynas waith gadarn â'r gwasanaeth ymwelwyr iechyd drwy fodel yr Hwb Cymorth Cynnar.

·       Gofynnodd y Panel a oedd yr un pwynt mynediad yn gweithio'n dda, a chadarnhawyd mai dyma oedd yr achos.

·       Trafododd y Panel fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei ganmol mewn erthygl yn y cyfryngau y diwrnod hwnnw, a oedd yn honni bod y Cyngor wedi llwyddo i ostwng nifer y plant sy'n derbyn gofal gan 50%. Mae'r Panel yn teimlo bod gan Abertawe ymagwedd synhwyrol at leihau niferoedd dros nifer o flynyddoedd. Gofynnodd y Panel a oes unrhyw beth y gall Cyngor Abertawe ei ddysgu gan Gastell-nedd Port Talbot a chlywodd fod y ddau Awdurdod Lleol yn manteisio ar bob cyfle i ddysgu gan ei gilydd, fodd bynnag gan ystyried bod cyd-destun ac amgylchedd y ddau Awdurdod Lleol yn wahanol, mae’n rhaid iddynt fod yn ofalus o ran pa mor bell y gall y dysgu hwnnw fynd.

9.

Cynllun Gwaith Drafft 2024-25 pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Trafododd y Panel ei gynllun gwaith ar gyfer 2024-25 a chytunodd arno, gyda'r ychwanegiad canlynol:

 

·       Ychwanegu diweddariad am y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (gan gynnwys Trawsnewid i Iechyd Meddwl i Oedolion).

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 24 Mehefin 2024) pdf eicon PDF 120 KB