Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Media
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
|
3. |
Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 321 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod
cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
4. |
Cwestiynau Gan y Cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Adroddiad uchafbwyntiau Perfformiad a'r Cynllun Staffio Brys PDF 195 KB
Elliott King, Aelod y Cabinet –Gwasanaethau Plant
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Roedd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol i
friffio'r Panel ar yr eitem hon.
Pwyntiau Trafod:
- Monitro Perfformiad
- Mae mwy o deuluoedd yn cael eu cefnogi drwy ganolfannau cymorth cynnar
sy'n dangos bod eu dull gweithredu'n fwy rhagweithiol. Mae'r nifer uwch o
blant sydd wedi'u cofrestru ar y gofrestr amddiffyn plant ar adeg eu geni
yn parhau i fod ar gynnydd. Mae gostyngiad amlwg yn nifer cyfartalog y
diwrnodau y mae plant ar y gofrestr amddiffyn plant.
- Cadarnhaodd
swyddogion fod y ffigur ar gyfer Nifer y Diwrnodau ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant yn dangos dull rhagweithiol mwy gweithredol o gefnogi teuluoedd fel
nad yw plant yn aros ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn hirach nag y dylent
fod.
- Nododd y panel y
cynnydd mewn plant heb eu geni sy'n cael eu cymryd i ofal a holodd faint o
esboniad a roddir i'r fam. Dywedodd swyddogion fod y gyfarwyddiaeth yn
edrych ar bob achos yn unigol, ac mae'r ffocws bob amser ar weithio gyda
rhieni i geisio galluogi'r baban i aros yn yr uned deuluol.
- Mae'r panel yn
pryderu am gefnogaeth i ffoaduriaid a theuluoedd sy'n ceisio lloches gan
fod llawer o deuluoedd yn cael eu lleoli dros dro ac yna'n cael eu symud i
ran wahanol o'r ddinas. Holodd y panel a oes unrhyw ddarpariaeth arbennig
yn cael ei rhoi ac ynghylch y system gymorth sydd ar waith ar eu cyfer.
Cadarnhawyd y byddai'r gyfarwyddiaeth yn cydweithio â gwasanaethau'r cyngor
a gwasanaethau lleol i gynnig cymorth i deuluoedd y maent yn ymwybodol
ohonynt os ydynt yn bodloni'r trothwy statudol neu'n dod drwy'r Ganolfan
Cymorth Cynnar.
- Dywedodd y Panel
fod y ffigurau'n drawiadol o ran y ffordd y mae nifer y plant sy'n derbyn
gofal wedi bod yn lleihau, yn enwedig o dan yr amgylchiadau presennol,
sy'n glod i'r adran. Mae'r adran yn fodlon bod ailgyfeiriadau a
chofrestriadau yn gymharol isel o hyd.
- Staffio Mewn
Argyfwng – Nid yw'r gyfarwyddiaeth wedi recriwtio o hyd i lenwi swyddi gwag
gweithwyr cymdeithasol mewn timau ardal leol. Cafwyd mwy o lwyddiant o ran
y 'drws blaen' gan y gellir penodi gweithwyr cefnogi, sy'n lleddfu
rhywfaint o'r pwysau ar y timau ardal. Mae'r adran yn parhau i gael
cymorth gan bob rhan o'r gwasanaeth i sicrhau bod dyletswyddau statudol
allweddol yn cael eu bodloni ac i sicrhau gweithwyr cymdeithasol
annibynnol os oes angen ar gyfer tasgau allweddol.
- Nid oes digon o
leoliadau ar gael, felly mae'r adran yn gorfod defnyddio llawer o'i staff
ei hun i ddarparu gofal a chymorth i blant mewn lleoliadau nad ydynt yn
cael eu rheoleiddio ac mae mwy o blant yn cael eu lleoli yn Lloegr. Rhan
o'r broblem yw menter Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofal cymdeithasol
plant ac o ganlyniad, penderfynodd rai darparwyr atal cynlluniau yn y
dyfodol i symud i Gymru i ddatblygu lleoliadau neu maent wedi penderfynu
peidio â pharhau i gynnig lleoliadau i blant yng Nghymru.
- Mae'r
gyfarwyddiaeth yn parhau i weithio gyda phrifysgolion lleol fel y gall
fwydo'n fwy uniongyrchol i'r gwasanaeth er mwyn i weithwyr cymdeithasol
sydd newydd gymhwyso weithio ar achosion lefel is.
- Cadarnhaodd
swyddogion nad yw'r pandemig presennol wedi effeithio cymaint ar staffio
ag yr ofnwyd a bod cynllun wrth gefn COVID wedi'i ailgyflwyno.
- Gofynnodd y Panel
am gadarnhad bod cwmnïau maethu annibynnol yn ystyried camu i ffwrdd o
Gymru a chlywodd fod rhai darparwyr yn camu i ffwrdd oherwydd ansicrwydd o
ran yr hyn y bydd y rhaglen yn ei olygu o ran dileu elw o ofal preswyl
plant.
- Holodd y panel a yw
Llywodraeth Cymru yn ystyried ailfuddsoddi'r elw
mewn addysg plant sy'n derbyn gofal er mwyn helpu i ariannu'r math hwn o
ddarpariaeth ar gyfer y bobl ifanc fwyaf diamddiffyn. Dywedodd Aelod y
Cabinet mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw cael gwared ar elw o ofal cymdeithasol
plant ond mae'n credu y bydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn y tymor
hir.
|
6. |
Ameren y Rhaglen Waith ar gyfer 2021-22 PDF 126 KB
Cofnodion:
Nododd y Panel eitemau ar y rhaglen waith ar gyfer gweddill y flwyddyn
ddinesig hon.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Ionawr 2022) PDF 183 KB
|