Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datgeliadau o fuddiannau – Mike Durke.

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

 

3.

Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 313 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

Dan yr adran materion sy'n codi cododd y Cynullydd ymholiad ynghylch data ar gynnydd plant sy'n derbyn gofal mewn addysg o'u cymharu ag eraill.  Ymatebodd swyddogion fod y system y byddai Llywodraeth Cymru fel arfer yn ei defnyddio i ddarparu'r data wedi'i hoedi oherwydd y pandemig ac nad oedd gan yr Adran Addysg yr adnoddau i wneud hyn â llaw ar hyn o bryd mewn ffordd y gellid ei rhannu er mwyn gweld y gymhariaeth.   Fodd bynnag, ar gyfer plant unigol, byddai hyn yn cael ei wneud fel rhan o'r adolygiadau statudol plant sy'n derbyn gofal.  Mae'r adran yn gobeithio gallu darparu rhywfaint o ddadansoddiad yn y flwyddyn newydd a bydd hyn yn cael ei rannu gyda'r Panel.

 

4.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Adroddiad uchafbwyntiau Perfformiad a'r Cynllun Staffio Brys pdf eicon PDF 565 KB

Elliott King, Aelod y Cabinet –Gwasanaethau Plant

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol i friffio'r Panel ar yr eitem hon. 

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Mae'r Panel yn derbyn adroddiad monitro perfformiad byrrach ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio ailddechrau adrodd yn llawn am berfformiad o fis Chwefror 2022 ymlaen.
  • Canlyniad yr arolygiad o'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i gael ei gyflwyno gerbron y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
  • Cododd y Panel yr achos trasig diweddar yn Solihull a gofynnodd i swyddogion roi syniad o'r hyn a aeth o'i le.  Gwnaethant hefyd geisio  sicrwydd na fyddai hyn yn digwydd i blant yn ardal yr awdurdod lleol hwn.
  • Roedd gan y Gyfarwyddiaeth bryderon am allu recriwtio gweithwyr cymdeithasol am ddau i dri mis.  Yn y cyfnod hwn, maent wedi tynnu staff o rannau eraill o'r gwasanaeth i gynorthwyo a chefnogi.  Cynhaliwyd cyfarfodydd diogelu wythnosol gydag Addysg, Iechyd a'r Heddlu i sicrhau eu bod yn cadw mewn cysylltiad â phlant y maent yn poeni fwyaf amdanynt.  Dyma un o'r heriau a godwyd yn yr achos yn Solihull – cadw mewn cysylltiad â phlant y maent yn poeni fwyaf amdanynt.  Mae swyddogion yn Abertawe yn credu eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu.  
  • Gofynnodd y Panel am yr anhawster wrth recriwtio i'r Gwasanaeth.  Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi siarad â Llywodraeth Cymru am strategaethau tymor canolig a hirdymor.  Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn mynd ar drywydd 'datblygu eu hunain'.  Mae'r Awdurdod yn cryfhau cysylltiadau â phrifysgolion a staff ategol i ddilyn cymwysterau.  Yn ddiweddar, efallai bod rhai o'r uwch-weithwyr cymdeithasol yn ymdrin â llwythi achosion uwch nag arfer. Fodd bynnag, oherwydd bod swyddi cefnogi teuluoedd ychwanegol wedi'u penodi, dylai hyn wneud gwahaniaeth yn y flwyddyn newydd gan y gallant gynnal rhai o'r achosion anstatudol. 
  • Gofynnodd y Panel am ddadansoddiad o gyfanswm tîm staff y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.  Mae'r Panel yn teimlo bod angen pobl â sgiliau, gwybodaeth a doniau ar y gwasanaeth a dylent fod yn annog y bobl hyn i fod mewn rolau allweddol ac nid yn chwilio am bobl â graddau yn unig. Mae swyddogion yn edrych ar sut y gallant gefnogi'r unigolion hyn ar draws y gwasanaeth i ddatblygu eu gyrfaoedd.
  • Dywedodd y Cyfarwyddwr ei fod yn gwerthfawrogi’r holl a’u cyfraniadau.  Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol gannoedd o staff â chymwysterau gwahanol a nhw yw mwyafrif y gweithlu ond mae rhai gofynion statudol ynghylch cael gweithwyr cymdeithasol cymwysedig mewn rolau penodol ac ar gyfer y rolau hyn mae prinder gweithwyr cymdeithasol. 
  • Gofynnodd y panel am ychwanegiadau'r farchnad ac a ydynt i'w cynnig i weithwyr cymdeithasol ac uwch-weithwyr cymdeithasol yn y tri thîm ardal yn unig.  Cadarnhaodd swyddogion nad oes unrhyw gymhellion ariannol eraill wedi'u cynllunio ar gyfer y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd ar hyn o bryd ond mae ffocws mawr ar les. 
  • Dywedodd y Cynullydd fod y cynnydd gyda'r adran dros y 10 mlynedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol ac mae'n rhoi hyder iddo fod y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn dod o gefndir diogelu.

 

Camau Gweithredu:

  • Darparu gwybodaeth am ddadansoddiad o weithlu'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i'r Panel.

 

6.

Er gwybodaeth pdf eicon PDF 126 KB

·       Ameren y Rhaglen Waith ar gyfer 2021-22

Cofnodion:

Nododd y Panel eitemau ar y rhaglen waith ar gyfer gweddill y flwyddyn ddinesig hon.

 

7.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 313 KB

Cofnodion:

Pleidleisiodd y Panel a chytunodd i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod eitem 9, am ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig. 

 Paragraff 13 yw'r paragraff perthnasol ym mhrawf budd y cyhoedd.

 

8.

Ty Nant - Diweddariad ar y cynnydd gyda'r cynllun gweithredu pdf eicon PDF 256 KB

Chris Francis, Prif Swyddog Gwasanaethau Comisiynu a Gofal

Cofnodion:

Trafododd y Panel yr eitem mewn sesiwn gaeedig.

 

Daeth Chris Francis, Prif Swyddog y Gwasanaethau Comisiynu a Gofal, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am yr eitem hon.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Cadarnhaodd swyddogion eu bod am fynd yn llawer pellach yn y dyfodol na'r hyn oedd yn y cynllun gweithredu ac y bydd nifer o wiriadau ac adolygiadau bach yn cael eu cynnal i wirio effaith.

 

  • Amlygodd yr arolygiad nifer o feysydd lle'r oedd y broses yn gadarnhaol gan gynnwys rheolaeth. 

 

  • Roedd y staff o'r farn bod yr arolygiad yn rhoi adlewyrchiad annheg o'u harferion mewn rhai meysydd gan fod cyfnodau o reoli argyfwng drwy gydol y cyfnod hwnnw oherwydd y pandemig. 

 

  • Roedd y staff yn teimlo, o ran sicrhau ansawdd, fod enghreifftiau gwych o arfer da, ond nid oedd y rhain wedi'u cofnodi yn unman. Felly, pan gynhaliwyd yr arolygiad, ni allai'r arolygwyr weld beth oedd wedi digwydd i gyflawni'r canlyniadau. 

 

  • Soniwyd am ddiffygion hyfforddi yn yr adroddiad arolygu.  Roedd y staff yn teimlo bod hyn yn annheg gan fod eu harfer yn cael ei ategu gan hyfforddiant da iawn ond gan nad oedd wedi'i gynnwys yn y matrics hyfforddi, nid oedd yn bosib i arolygwyr nodi hyn yn hawdd. 

 

  • Holodd y panel a oedd y dirprwy reolwr yn dal i ymgymryd â rôl waith yn ogystal â rheoli.  Cadarnhaodd swyddogion fod yr aelod hwn o staff yn y strwythur newydd 'oddi ar rota' wrth ymgymryd â'r swyddogaeth reoli. 

 

  • Dywedodd y panel, os oes unrhyw beth y gallant ei wneud fel panel craffu, o ran yr elfen perfformiad, i helpu swyddogion gyda'u gwaith y dylent roi gwybod iddynt.

 

  • Cadarnhaodd swyddogion y bydd adroddiad blynyddol yn cael ei lunio ym mis Ebrill 2022 a gallai fynd gerbron y Panel pe baent yn dymuno edrych ar y canfyddiadau.

 

  • Roedd gan y Panel ddiddordeb mewn clywed unrhyw syniadau i weld sut yn union mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio. Ymatebodd swyddogion y gallent feddwl am gynhyrchu fideo 'Diwrnod ym mywyd...' o blant yn Nhŷ Nant, am ryw adeg yn y dyfodol. 

 

  • Dywedodd swyddogion eu bod wedi bod yn siarad â'r adran addysg am waharddiadau ysgol o ran plant sy'n derbyn gofal a gwahanol ffyrdd o fynd i'r afael â hyn.  Hoffent gyflwyno adroddiad ar hyn i'r Panel yn y dyfodol.   

 

  • Roedd y panel yn falch o weld llawer o ymdrech yn cael ei roi wrth lunio'r adroddiad a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru a'u bod yn mynd i'r afael â'r materion.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Rhagfyr 2021) pdf eicon PDF 200 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Rhagfyr 2021) pdf eicon PDF 596 KB