Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 315 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Awst 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Y cynnydd ar Raglen Gwella Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 242 KB

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Gemma Whyley, Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid

Cofnodion:

Daeth Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Gemma Whyley, Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid i friffio'r Panel ar yr eitem hon. 

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Dywedodd swyddogion fod y Gwasanaeth wedi ailedrych ar ei weledigaeth. 
  • Teimlai'r Panel fod y cyfan yn swnio'n gyffrous iawn ac yn rhyddhau staff i wneud y gwaith go iawn yn hytrach na gwaith papur.
  • Holodd y Panel a yw'r Gwasanaeth yn dechrau pylu’r gwahaniaeth rhwng rolau’r uwch-weithwyr cymdeithasol a staff profiadol iawn eraill.  Clywodd y Panel fod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol wneud tasgau penodol ond y gall staff sydd â chymwysterau amgen weithio o gwmpas hynny. 
  • Cafwyd trafodaeth ynghylch sgyrsiau â Llywodraeth Cymru am faint o wybodaeth sydd ei hangen arnynt, er enghraifft, y data perfformiad newydd y gofynnir amdano. 

 

6.

Cyflwyniad - Y Diweddaraf am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

Gemma Whyley, Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid

Cofnodion:

Daeth Gemma Whyley, Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid a Tom Jones, Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant i gyflwyno'r eitem hon, a oedd yn cynnwys fideo a wnaed gyda phlant sy'n derbyn gofal, ymateb y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol i'r fideo ac addewidion dilynol gan aelodau'r Bwrdd Magu Plant Corfforaethol.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Teimlai'r Panel fod materion yn dod ar draws yn well wrth wrando ar blant yn siarad drostynt eu hunain.  Mae'n gwneud i chi dalu sylw a gwrando.
  • Mae pob cynghorydd yn llywodraethwr ysgol ac mae hyn yn rhoi cyfle iddynt holi'r Pennaeth a'r uwch-dîm rheoli ynghylch pa addysg a gofal sy'n cael eu darparu ar gyfer plant sy'n derbyn gofal mewn ysgolion.
  • Dywedodd y Panel eu bod wedi derbyn gwybodaeth yn y gorffennol am gynnydd pobl ifanc, yn enwedig ym maes addysg, fel rhan o'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol.  Gofynnodd y Panel am ddata cymharol ar gyrhaeddiad plant sy'n derbyn gofal o'i gymharu ag eraill i weld ble maent yn awr. 
  • Dywedodd swyddogion fod angen gwneud gwaith ar sut i wella'r cyfle dysgu i blant sy'n derbyn gofal.  Mae rhywfaint o atebolrwydd ynghlwm wrth yr addewidion a wnaed gan aelodau'r Bwrdd Magu Plant Corfforaethol.
  • Nododd y Panel fod gwaith y Pwyllgor Datblygu Polisi Addysg a Sgiliau yn canolbwyntio'n gryf ar addysg alwedigaethol a chwricwlwm amgen/priodol.  Bydd yn trafod yr hyn sy'n gweithio i blant sy'n derbyn gofal sy’n gwneud yn dda mewn addysg.
  • Roedd y Panel yn falch o'r berthynas waith dda rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. 

 

Camau Gweithredu:

  • Caiff data ei ddarparu i'r Panel ar gynnydd plant sy'n derbyn gofal mewn addysg o'i gymharu ag eraill.

 

7.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2021-22 pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

8.

Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 410 KB

Cofnodion:

Pleidleisiodd y Panel a chytunodd i wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod eitem 10, am ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig.  Paragraff 12 yw'r paragraff perthnasol ym mhrawf budd y cyhoedd.

 

9.

Fideo Ymholiad Gwerthfawrogol

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Kate Ronconi, Prif Weithiwr Cymdeithasol

Cofnodion:

Trafododd y Panel yr eitem mewn sesiwn gaeedig.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Medi 2021 ) pdf eicon PDF 280 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Medi 2021) pdf eicon PDF 311 KB