Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 479 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 194 KB

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Damian Rees, Prif Swyddog Diogelu a Pherfformiad y diweddaraf i'r panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Newidiodd y Gwasanaethau Cymdeithasol i system wybodaeth newydd ac nid yw'r data'n gyfredol ar hyn o bryd. 
  • Cododd y panel fater  cysondeb gweithwyr cymdeithasol i achosion a holodd a oes llawer o newid.  Hysbyswyd eu bod mor gyson â phosibl o ystyried pwysau staff. 
  • Teimlai'r panel fod nifer y bobl sy'n ailgofrestru'n ymddangos yn uchel ar hyn o bryd.  Ar hyn o bryd mae swyddogion yn edrych ar hyn yn fanylach ac yn gobeithio tynnu rhai themâu cyffredin at ei gilydd. 
  • Holodd y panel pam y mae’r ffigurau'n dangos bod 31% o ymweliadau statudol yn hwyr.  Cadarnhaodd swyddogion fod hwn yn fater cofnodi.  Ar hyn o bryd mae'r staff yn cofnodi ac yn olrhain data â llaw ac mae rheolwyr yn sicrhau bod pob ymweliad yn cael ei wneud.
  • Holodd y panel sut mae newid i system wybodaeth newydd wedi effeithio ar allu'r awdurdod i redeg y gwasanaeth fel y dymunant.  Hysbyswyd y panel ei fod wedi cael effaith enfawr ond disgwylid hyn gan ei fod yn gweithredu'n gwbl wahanol i hen system PARIS.  Bydd y gwasanaeth yn cyfarwyddo’n gyflym â’r ymagwedd newydd Mae'n rhoi baich ychwanegol ar weithwyr cymdeithasol.   
  • Annog y panel i gadw pwysau ymlaen.  Os yw aelodau'r panel am gael rhagor o wybodaeth, lle mae bylchau yn yr adroddiad, dylent ofyn i swyddogion am adborth o'u gweithgarwch archwilio. 
  • Dywedodd y Cyfarwyddwr fod rhai pethau da yn yr adroddiad a rhoddodd enghreifftiau.  Ar gyfer y boblogaeth Plant sy'n Derbyn Gofal, mae gostyngiad parhaus dros nifer o fisoedd.  Rydym hefyd yn dechrau gweld nifer y plant sy'n destun cynlluniau amddiffyn plant yn gostwng. 
  • Gofynnodd y panel i'r Cyfarwyddwr drosglwyddo’i ganmoliaeth i'r adran am y ffordd y mae'r ffigurau cyffredinol yn gwella.

 

6.

Diweddariad Llafar - Adroddiad Llawn Ymweliad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Gwahoddwyd:

Elliott King, Aelod y Cabinet – Gwasanaethau Plant

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Rhoddwyd adborth i’r panel gan David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Llythyr drafft a dderbyniwyd gan yr awdurdod.  Bydd yn derbyn y fersiwn derfynol maes o law.  Caiff hwn ei rannu â'r panel ynghyd â'r adroddiad thematig llawn yn ystod y misoedd nesaf. 
  • Mae adborth ysgrifenedig gan arolygwyr yn gyson ag adborth llafar ganddynt yn dilyn yr arolygiad.
  • Mae'r adborth yn gwbl gyson â hunanasesiad yr awdurdod ei hun.  Mae hyn yn gadarnhaol iawn.
  • Roedd y Cyfarwyddwr o'r farn y gallai fod materion y mae'r panel am eu codi ynghylch y cynllun gwaith wrth symud ymlaen.
  • Roedd yr arolygwyr wedi cael problemau wrth gyrchu gwybodaeth ar y system newydd eu hunain.  Daeth yr adran o hyd i ffyrdd eraill o ddarparu'r wybodaeth fel y gallent gynnal y gwiriadau'n iawn.
  • Teimlai'r panel fod yr adborth yn gadarnhaol iawn a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr fynd yn ôl at y staff i fynegi gwerthfawrogiad y panel am eu holl waith a'u hymdrech. 

 

7.

Canlyniad Arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) Ty Nant pdf eicon PDF 266 KB

Gwahoddwyd:

Elliott King, Aelod y Cabinet – Gwasanaethau Plant

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Chris Francis, Prif Swyddog y Gwasanaethau Comisiynu a Gofal yr wybodaeth ddiweddaraf i'r panel am yr arolygiad.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Teimlai'r panel ei fod yn ddogfen bryderus gyda nifer o gamau gweithredu ar gyfer y gwasanaeth. 
  • Cadarnhaodd swyddogion fod yr adroddiad wedi nodi nifer o faterion a heriau ond roeddent yn faterion yr oedd yr adran wedi'u rhagweld.  Nodwyd rhai pethau cadarnhaol.  Un o'r meysydd i'w gwella yw Sicrhau Ansawdd. 
  • Dywedodd swyddogion ei fod wedi bod yn gyfnod arbennig o heriol i gartrefi gofal ond bod yn rhaid iddynt wneud yn well i'r plant.
  • Holodd y panel pam na ddarparwyd hyfforddiant ar-lein a pha mor aml yr eir ati i oruchwylio.  Dylai goruchwyliaeth wybodus fod yn fisol ar gyfer staff llawn amser/rhan-amser a bob chwe wythnos ar gyfer staff hyblyg gan fod yn rhaid i'r staff hyn ymdrin ag amgylchiadau heriol yn rheolaidd.   Darperir hyfforddiant ar-lein ond nid ar gyfer ehangder y pynciau y mae eu hangen ar gyfer y staff hyn.
  • Cododd y panel bryder ei fod wedi cymryd AGC i dynnu sylw at y problemau ac nid y rheolwyr.  Dywedodd swyddogion eu bod yn ymwybodol o lawer o bethau y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad ond roedd y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd iawn o ran rhoi newidiadau ar waith yn ogystal ag ymdrin â phandemig a phroblemau gyda rheolwr y cartref.  Y bwriad oedd bwrw ymlaen â'r camau gweithredu hyn beth bynnag, ond ni wnaethpwyd hyn cyn ymweliad AGC. 
  • Diolchodd y panel i’r swyddogion am adroddiad nad oedd yn hawdd ei gyflwyno.  Teimlai'r panel ei bod yn amlwg fod swyddogion yn gweithio'n systematig drwy'r cynllun gweithredu ac y bydd sylw yn awr ar Dŷ Nant. 
  • Bydd AGC yn cynnal ymweliad arall yn fuan. Camau gweithredu i'w cwblhau erbyn diwedd mis Medi.  Mae swyddogion yn hyderus y bydd y targed hwn yn cael ei gyrraedd. 
  • Caiff yr adroddiad ei ddwyn yn ôl i'r panel ar adeg briodol i sicrhau eu bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir. 

 

Camau Gweithredu:

·         'Tŷ Nant - Diweddariad ar Gynnydd gyda'r Cynllun Gweithredu' i'w drefnu yn y rhaglen waith ar gyfer mis Hydref/Tachwedd 2021. 

 

8.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2021-22 pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 11 Awst 2021) pdf eicon PDF 192 KB