Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 317 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni gyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Diweddaraf am y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol pdf eicon PDF 193 KB

Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin, i'r cyfarfod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am waith y gwasanaeth ac adolygiad o'i berfformiad yn 2020-21.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Roedd 2020 yn flwyddyn anodd i'r gwasanaeth.  Mabwysiadodd y gwasanaeth ddull busnes fel arfer drwy ddulliau rhithwir a llwyddodd i gynnal perfformiad er gwaethaf y pandemig.
  • Bu gostyngiad yn nifer y plant a gafodd eu hatgyfeirio i'w lleoli yn Abertawe yn 2020-21.
  • Mae gan y gwasanaeth bedair blaenoriaeth allweddol yn 2021-22.
  • Holodd y Panel faint o blant sydd ar gael i'w mabwysiadu yn Abertawe ar hyn o bryd.  Faint o rieni mabwysiadol sydd ar gael ac os yw plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu mewn gofal maeth.  Nodwyd bod y gwasanaeth yn paru pedwar plentyn ar hyn o bryd.  Ar ddiwedd mis Ebrill 2021 roedd 15 set o rieni mabwysiadol ar gael ac ar hyn o bryd mae rhai mabwysiadwyr yn aros ond mae hyn yn newid o fis i fis.  Os nad oes mabwysiadwyr ar gael, bydd y gwasanaeth yn ystyried ai maethu tymor hir yw'r cynllun cywir.  Mae'n sefyllfa sy'n gwella.
  • Teimlai'r panel fod y ffigurau yn yr adroddiad yn dangos llawer o sefydlogrwydd.  Cadarnhaodd swyddogion fod Bae'r Gorllewin mewn sefyllfa dda ar gyfer lleoliadau ar hyn o bryd.  Nid yw'r gwasanaeth yn dibynnu ar fabwysiadwyr lleol yn unig; mae ganddynt gronfa ehangach.
  • Nid yw effaith y pandemig ar niferoedd yn hysbys ar hyn o bryd gan y gall gymryd amser i niferoedd ddod drwy'r system.  Mae'r gwasanaeth yn monitro hyn.
  • Soniodd y Panel am erthygl a nododd ein bod yn rhy gyflym i roi plant i'w mabwysiadu (nid o reidrwydd yn Abertawe).  Cadarnhaodd swyddogion fod y tri awdurdod wedi edrych ar leihau PDG yn ddiogel. Yn Abertawe, bu gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael gorchymyn lleoli yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
  • Holodd y Panel pam fod rhai plant o Abertawe wedi'u lleoli yn Lloegr.  Esboniwyd nad oedd unrhyw fabwysiadwyr ar gael yn lleol i gymryd rhai plant a oedd mewn grwpiau mwy o frodyr a chwiorydd na rhai ag anghenion ychwanegol.  Nid yw cymhlethdod y plant sy'n dod drwy'r system yn cyfateb i nifer y mabwysiadwyr sydd ar gael a fydd yn derbyn y plant hyn. 
  • Nododd y panel na chofnodwyd unrhyw amhariadau y llynedd a gofynnwyd a yw'r gwasanaeth yn fodlon nad oes unrhyw broblemau'n codi lle mae angen ymyrryd.  Cadarnhaodd swyddogion fod rhai achosion paru mabwysiadwr â phlentyn nad oeddent wedi mynd eu blaen, ond ni chafwyd unrhyw darfu ar ôl i blentyn gael ei leoli. 
  • Roedd y panel am wybod a yw'r gwaith Taith Bywyd wedi gwella.  Nodwyd bod Gweithiwr Taith Bywyd wedi'i benodi i helpu i wella gwaith Taith Bywyd, ac y bu gwelliant.
  • Mae'r panel yn teimlo ei fod yn adroddiad cadarnhaol iawn, y gorau y maent wedi'i weld ers peth amser a diolchodd y Panel i Nichola a'r staff am eu holl waith caled.

 

6.

Adborth cychwynnol o Ymweliad Sicrhau Ansawdd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Rhoddodd Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, adborth cychwynnol ar ymweliad Sicrwydd AGC mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Cynhaliwyd yr ymweliad yn rhithwir yn ystod yr wythnos yn dechrau 7 Mehefin 2021.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Roedd yr ymweliad yn canolbwyntio ar ddau beth:
    1. Pa mor dda y mae'r ALl yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol
    2. Pa mor dda y mae'r ALl yn atal yr angen i blant ddod i ofal
  • Roedd pedwar maes blaenoriaeth – Llais y bobl a rheolaeth; Ataliaeth; Lles; Partneriaethau.
  • Dewisodd AGC bum achos, a ddewiswyd ar hap, i'w harchwilio.
  • Mae Pennaeth y Gwasanaeth yn credu bod AGC yn teimlo'n sicr bod yr ALl yn adnabod ei wasanaeth yn dda ac nid oedd angen 'datblygu' unrhyw beth ymhellach. 
  • Teimlai'r panel mai un o'r pethau cadarnhaol yn yr adborth cychwynnol yw proffil uchel y rheolwyr.  Nid dyma oedd yr achos yn y gorffennol. 
  • Teimlai'r panel fod ychydig iawn o feirniadaeth am yr hyn y mae'r awdurdod lleol wedi bod yn ei wneud a bod yr adborth cychwynnol yn dda iawn. Mae'r panel yn edrych ymlaen at weld adroddiad manwl yng nghyfarfod nesaf y Panel ym mis Awst. 

 

7.

Adolygiad Panel y Flwyddyn 2020-21 a Rhaglen Waith Ddrafft 2021-22 pdf eicon PDF 222 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cynullydd ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd i'r tîm craffu ac yn flwyddyn anodd i reolwyr a staff y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni gynhaliwyd cynifer o gyfarfodydd y panel y llynedd ac roedd tri o'r cyfarfodydd yn gyfarfodydd ar y cyd rhwng paneli'r Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut i ymdrin â'r pandemig.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Teimlai'r Panel fod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i ni mai ffordd dda ymlaen yw cyflwyno pynciau sy'n berthnasol i'r ddau Banel i un Panel yn lle, gydag aelodau'r Panel arall yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol, yn hytrach na thrafod yr eitem gyda'r ddau banel.  Mae hyn yn lleihau'r straen ar amser swyddogion.
  • Cododd y Panel y mater o gartrefi plant yn Abertawe'n mynd drwy broses gynllunio.  Cadarnhaodd Aelod o'r Cabinet fod aelodau'r Pwyllgor Cynllunio mewn sefyllfa anodd gan ei fod yn fater cynllunio ac ni allant ystyried barn y gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. 
  • O ran y rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2021-22, soniodd y Panel am bwysigrwydd edrych ar pryd y caiff achosion eu cau yn yr adroddiad perfformiad, a gofynnodd am gael gweld rhai enghreifftiau ymarferol.  Awgrymodd y Pennaeth Gwasanaeth y dylai'r Panel wylio fideos ar 'Ymchwiliad Gwerthfawrogol' o bryd i'w gilydd yng nghyfarfodydd y panel.  Cytunodd y panel y dylai'r PG geisio caniatâd i ddangos fideo i'r Panel a chytuno ar ddyddiad panel priodol yn y dyfodol agos. 

 

Camau Gweithredu:

  • Ychwanegu fideo ar 'Ymchwiliad Gwerthfawrogol' at y rhaglen waith.

 

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 22 Mehefin 2021) pdf eicon PDF 175 KB