Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cadarnhau Cynullydd

Cofnodion:

Cadarnhawyd Paxton Hood-Williams fel Cynullydd y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau.

3.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

4.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni gyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

6.

Y diweddaraf am gynnydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc pdf eicon PDF 205 KB

Joanne Abbott-Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Joanne Abbott-Davies, Julie Davies, Isobel Davey, Helen Osborne a Gavin Evans ddiweddariad i'r Panel ar gynnydd gyda CAMHS, gan gynnwys effeithiau COVID-19, mentrau partneriaeth a chynnydd, perfformiad, cyfleoedd a heriau ac atebwyd cwestiynau'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Mae elfennau Gwasanaeth ar y Cyd wedi arafu oherwydd COVID-19.
  • Mae effaith y flwyddyn ddiwethaf ar iechyd meddwl pobl ifanc wedi bod yn sylweddol.
  • Roedd yr amser aros ar gyfer y Gwasanaeth Datblygu Niwroleg wedi gwella o 26 wythnos. Fodd bynnag, mae'r cynnydd mewn atgyfeiriadau bellach wedi cynyddu deirgwaith, felly mae'r cyfnod aros wedi cynyddu i dros 6 mis. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru ar yr hyn y gellir ei wneud.
  • Roedd gwaith craffu wedi argymell yn flaenorol y dylai'r gwasanaeth hwn gael un pwynt mynediad, ac mae'n falch iawn o weld hyn bellach ar waith.
  • Mae angen ail-ddatblygu rhai o'r dangosyddion perfformiad i ddangos yr hyn y mae angen i ni ei wybod yn lleol a dangos tystiolaeth o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd.
  • Gallwch ymweld â’r adeilad newydd ar Ffordd y Brenin drwy apwyntiad yn unig. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal ar sut i gysylltu â gwasanaeth Infonation drws nesaf ac elwa ohono.
  • Bydd llinellau ffôn Un Pwynt Mynediad ar agor pum niwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener. Roedd ar agor dwy awr yr wythnos yn unig yn y gorffennol. Mae'r Gwasanaeth Argyfwng ar gael ar y penwythnos.
  • Mae Cwm Taf yn dal i ddarparu'r gwasanaeth CAMHS ar gyfer ardal Abertawe.
  • Bydd ap newydd o'r enw 'Kooth' ar gael i blant. Caiff y cyfleuster hwn ei roi ar waith gan Fae Abertawe.
  • Caiff gwefan ranbarthol newydd ei lansio ym mis Mehefin. Bydd yn monitro nifer yr 'ymweliadau' a phwy sydd wedi cael mynediad at beth. Ceir hefyd adran 'Sylwadau'.
  • Mae Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol o'r farn bod y cynnydd yn drawiadol iawn ac mae'r continwwm cefnogaeth yn llawer mwy datblygedig. Mae gan CAMHS arbenigol broblemau o ran galw ond maent yn hyderus y gallant bellach gael trafodaethau ynghylch sut i geisio mynd i'r afael â'r cynnydd tymor byr yn y galw.
  • Gofynnodd y Panel am sicrwydd bod y gwasanaeth yn gallu darparu ymateb brys pan fydd plentyn mewn argyfwng go iawn, er gwaethaf y pwysau.  Cadarnhaodd swyddogion fod y Tîm Argyfwng wedi'i staffio'n llawn ac y byddai'n gallu ymateb i blentyn mewn argyfwng go iawn, er gwaethaf y ffaith nad oes digon o welyau ar gael.
  • Llongyfarchodd y Panel bawb ar y cynnydd da a wnaed er gwaetha'r pandemig a gobeithiwyd y byddai hyn yn parhau.

 

 

7.

Briffio ar Wasanaeth Troseddau Ieuenctid pdf eicon PDF 246 KB

Jay McCabe, Prif Swyddog Bays+ a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Jay McCabe, Prif Swyddog Bays+ a'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn bresennol i friffio'r panel ar y cynnydd a wnaed gyda'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Mae'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi darparu llythyr llacio gan eu bod yn fodlon bod y gwasanaeth yn mynd i'r cyfeiriad iawn.  Mae hyn yn gyflawniad gwych ac mae'n dangos gwelliant enfawr o'i gymharu â llynedd.
  • Mae'r Rheolwr Gweithredol, Helen Williams bellach yn ei swydd, mae'r rôl Uwch-ymarferydd wedi'i datblygu i Arweinydd Arfer ac mae Hyfforddiant Asset Plus wedi'i gyflawni gan y rhan fwyaf o staff.
  • Mae'r Gwasanaeth Iaith a Lleferydd wedi'i ariannu gan fuddsoddiad pellach ac wedi'i arwain gan Abertawe i helpu pobl ifanc i ymgysylltu a deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt.
      Mae'r gwasanaeth yn dechrau ym mis Gorffennaf ac mae'n system gyfathrebu effeithiol.
  • Rhoddodd Helen Williams drosolwg o'r adroddiad monitro perfformiad diweddar a oedd yn gadarnhaol iawn.
  • Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod ymrwymiad partneriaeth yn amlwg. Maent yn ffyddiog y bydd arolygwyr, pan fyddant yn dychwelyd, yn gweld gwelliant ac arloesedd sylweddol.
  • Pryderon ynghylch pobl ifanc yn cymryd rhan yn y reiadau ym Mayhill. Gair 'diwylliant' yn cael ei godi. Cadarnhaodd swyddogion fod ymateb cydlynol enfawr gyda 50 o asiantaethau'n cymryd rhan.
  • Diolchodd y panel pawb gan gynnwys preswylwyr am eu holl waith caled ar noson y terfysgoedd ac ers hynny.
  • Mae'r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau amrywiol i ledaenu negeseuon, er enghraifft, gwaith allgymorth i gynnwys pobl ifanc a gweithio ar brosiect mewn ysgolion.
  • Mae problemau sy'n ymwneud â thrais a phobl ifanc yn cael eu hystyried ledled Abertawe gyda phartneriaid. Bydd angen parhau i feddwl am hyn a chynllunio. Mae swyddogion o’r farn y dylai cynyddu presenoldeb yn y gymuned wneud gwahaniaeth.

 

8.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer

 

Eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf:

 

·         Monitro Perfformiad

·         Diweddaraf am y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol

·         Rhaglen Waith Ddrafft 2021/22

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Ystyriodd y panel yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Mai 2021) pdf eicon PDF 175 KB