Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.
|
2. |
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.
.
|
3. |
Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 308 KB
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Gofnodion cyfarfod Panel y Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y cyd ar 15 Chwefror 2021.
|
4. |
Cwestiynau Gan y Cyhoedd
Rhaid cyflwyno cwestiynau’n
ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i
gwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
5. |
Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC): Mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol PDF 532 KB
Gwahoddwyd:
Louise Gibbard, Aelod y Cabinet - Cefnogi Cymunedau
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Jane Whitmore – Arweinydd
Strategol Partneriaethau a Chomisiynu
Kelli Richards – Prif Swyddog
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Megan Stevens – Arweinydd
Arfer (Datblygu Partneriaethau VAWDASV)
Gwahoddwyd Aelodau’r Panel Gwasanaethau I Oedolion ar gyfer yr
eitem hon
Cofnodion:
Roedd Louise Gibbard, Aelod Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, Jane
Whitmore, Arweinydd Strategol Partneriaeth a Chomisiynu, Kelli Richards, Prif
Swyddog Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Megan Stevens, Arweinydd Arfer
(Datblygiad Partneriaeth VAWDASV) yn bresennol i friffio'r panel ar yr eitem
hon.
Pwyntiau i'w trafod:
- Mae hyn yn destun pryder
i'r Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.
- Mae amrywiaeth o waith yn
mynd rhagddo yn y maes hwn er gwaethaf y pandemig
ac mae dull traws-gyngor yn cynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai,
Trechu Tlodi a sefydliadau'r Trydydd Sector.
- Daeth pum argymhelliad
cyffredinol o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r cyngor wedi bodloni pob un o'r pum
argymhelliad. Cyfeiriwyd at
Ganolfan Cam-drin Domestig Abertawe hefyd yn yr adroddiad fel ffordd
arloesol o weithio.
- Mae pwyslais ar ddatblygu
gwaith gyda throseddwyr.
- Mae'r timau i gyd yn
eistedd o dan un portffolio yn y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd, gan ei
wneud yn broses lawer mwy esmwyth.
- Mae'r adroddiad yn sôn am
fwlch ariannu ar gyfer gwaith atal.
Rydym wedi derbyn arian ychwanegol ond mae bwlch o hyd. Mae'r
cyllid yn gadarnhaol ond mae'n dod â risg gan fod y gwaith yn cael ei
ariannu gan grantiau sy'n ansicr wrth symud ymlaen. Caiff y mater hwn ei godi gyda
Llywodraeth Cymru yn barhaus, gan fod angen ei brif ffrydio.
- Holodd y panel a oes
unrhyw beth y gall ei wneud i helpu gyda'r sefyllfa hon. Bydd swyddogion yn dod yn ôl gydag unrhyw
awgrymiadau ynghylch sut y gall craffu helpu.
- Mae llawer o gymorth ar
gael i bawb y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Ewch ar-lein i wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/sgwrsfot os oes angen help arnoch neu os ydych yn poeni am unrhyw un
arall.
- Gofynnodd y panel am
ragor o wybodaeth am atal a gwaith sy'n cael ei wneud gyda phlant yn
benodol, o ran eu haddysgu yn ogystal â'u gwneud yn ymwybodol o gymorth.
Esboniwyd bod y Ganolfan Cam-drin Domestig yn ataliol ond ei bod yn
eilradd. Y dull newydd o weithredu
yw atal sylfaenol. Mae Llywodraeth
Cymru'n annog ymagwedd 'ysgol gyfan'.
Mae wedi'i hymgorffori yng nghwricwlwm newydd yr ysgol. Teimlai'r
panel fod eu rôl fel llywodraethwr mewn ysgolion yn bwysig iawn a
gofynnodd a oedd modd trefnu hyfforddiant i bob cynghorydd. Cefnogodd Aelod y Cabinet yr awgrym hwn
a chytunodd, ynghyd â swyddogion, i roi hyn ar waith.
- Cododd y panel y mater
ynghylch dynion sy'n dioddef cam-drin domestig, a gofynnodd a ydym yn ei
gwneud yr un mor hawdd iddyn nhw gael cymorth. Esboniwyd bod gan ddynion fynediad at
wasanaethau hefyd. Mae data'n
dangos bod y mwyafrif yn fenywod ond mae'r niferoedd wedi bod yn cynyddu
ar gyfer dynion yn ddiweddar.
- Mae swyddogion yn credu
nad oes llawer o ddioddefwyr gwrywaidd yn adrodd am achosion oherwydd ego
a stigma. Mae'n debyg bod y
niferoedd a wyddom yn llawer llai i ddynion a menywod.
- Cafodd y panel ei synnu’n
fawr i glywed bod trais domestig yn effeithio ar 4,300 o blant yn
Abertawe.
Camau Gweithredu:
- Gwybodaeth i'w darparu ar
sut y gall y panel helpu i lobïo Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid grant.
- Hyfforddiant i'w roi ar
waith i bob cynghorydd fel llywodraethwyr er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth.
|
6. |
Monitro Perfformiad PDF 194 KB
Gwahoddwyd:
Elliott King, Aelod y Cabinet – Gwasanaethau
Plant
Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Julie Davies, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wybodaeth
i'r panel am yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Ionawr 2021 a
dywedodd wrth y panel fod perfformiad cyffredinol ar draws y Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd yn dda iawn. Y prif uchafbwyntiau: Ceir atgyfeiriadau cynyddol
drwy Ganolfannau Cymorth Cynnar. Mae
llwythi achosion cyfartalog wedi gostwng ond maent yn fwy cymhleth, yn rhannol
oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Mae
amserlenni asesu wedi gwella. Mae nifer
y plant ar y gofrestr amddiffyn plant wedi lleihau ychydig. Mae’r Strategaeth Lleihau Plant sy'n Derbyn
Gofal yn gweithio'n dda yn Abertawe.
Roedd sefydlogrwydd lleoliadau'n gryf iawn yn ystod y pandemig oherwydd cefnogaeth dda a ddarperir gan ofalwyr
maeth a gweithwyr cymdeithasol. Mae'r
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar daith wella; mae cynllun wedi'i dargedu ar
waith ac ym mis Ionawr, cyflawnwyd yr holl asesiadau yr oedd yn rhaid eu
cyflawni o fewn 20 niwrnod. Mae gan bob plentyn a'r rhai sy'n gadael gofal
gynllun llwybr.
Pwyntiau i'w trafod:
- Gostyngodd nifer y
plant y mae arnynt angen gofal a chymorth yn sylweddol yn ystod y misoedd
diwethaf. Cafwyd gostyngiad o
ganlyniad i gael gwared ar blant nad oes angen iddynt fod yno neu oherwydd
eu bod yn camu i lawr.
- Mae niferoedd Signs of Safety yn isel, yn
rhannol oherwydd y pandemig ond hefyd mae
problem wrth gofnodi ar system PARIS.
Sicrhawyd y panel bod gwaith Signs of Safety yn digwydd a bydd yn llawer mwy syml i'w
gofnodi pan fydd system WCCIS newydd yn mynd yn fyw ar 12 Ebrill
2021.
- Trafodwyd sut
mae'r berthynas rhwng y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac ysgolion yn
mynd ac a yw'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cael y lefel o
gydweithredu y mae ei hangen arnynt er mwyn nodi unrhyw broblemau. Eglurwyd bod perthynas waith gadarnhaol
gyda rhai ysgolion ac yn strategol ond gallent wneud mwy. Cynhelir cyfarfodydd wythnosol gydag
Addysg ac mae ysgolion yn ymgysylltu â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
ar 'Drothwy'.
- Mae'r ffigurau goruchwylio
ar gyfer Pod 1 Townhill
yn eithaf isel gan fod problem cofnodi ar y system ac mae gan y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gofnodion nad ydynt wedi'u lanlwytho eto.
|
7. |
Adroddiad Blynyddol yr Uned Diogelu ac Ansawdd PDF 197 KB
Gwahoddwyd:
Elliott King, Aelod y Cabinet – Gwasanaethau
Plant
Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Damian Rees, Prif Swyddog
Diogelu, Perfformiad ac Ansawdd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu Damian Rees,
Prif Swyddog Diogelu Ansawdd Perfformiad yn briffio'r panel ar yr Adroddiad
Blynyddol, a oedd yn cynnwys trosolwg o'r Gwasanaeth, Cynadleddau Amddiffyn
Plant ac Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Mae addysg yn ymwneud â gwella’r sefyllfa mewn
perthynas ag achosion amddiffyn plant ac mae eu presenoldeb yn dda
iawn. Roedd y panel yn falch o
glywed hyn.
- O ran eiriolaeth, mae'r panel yn falch o weld
cynnydd yn nifer y plant sy'n gwybod beth yw ystyr 'eiriolaeth'.
- Nid yw swyddogion yn gwybod pam mai dim ond nifer
fach o blant yn unig sydd am fanteisio ar gynnig eiriolaeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen iddynt
edrych arno. Credant fod y nifer
sy'n manteisio ar y cynnig yn debyg mewn rhanbarthau eraill. Mae
swyddogion yn awyddus i glywed gan y plant eu hunain y rheswm nad ydynt yn
dewis derbyn gwasanaeth eiriolaeth.
- Holodd y panel a yw eiriolwr yn berson cyson. Cadarnhawyd dylai fod yr un person gyda
phlentyn drwy'r cyfnod cyfan.
- Mae adborth gan bobl ifanc sydd wedi defnyddio
eiriolaeth wedi bod yn gadarnhaol.
- Cadarnhaodd swyddogion fod gwaith y mae angen ei
wneud o hyd ynghylch Cynlluniau Addysg Personol (PEPs). Nid y gweithiwr cymdeithasol yn unig
sy'n ymwneud â hyn; Mae’n rhaid
iddynt weithio gyda'r ysgol. Mae
angen gwella cysondeb.
- Holodd y Panel a oedd Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn ymwneud ag Asesiadau Iechyd. Esboniwyd nad yw wedi'i ymgorffori yn y
cynlluniau hyn. Fodd bynnag, maent
yn cyfarfod yn rheolaidd â CAMHS ac maent yn monitro bod gan blant y mae'r
cyngor yn gofalu amdanynt fynediad at y gwasanaethau hyn.
- Cadarnhaodd Aelod o'r Cabinet na fydd angen cymorth
sylfaenol y mae CAMHS yn ei ddarparu ar bob plentyn ifanc. Trefnwyd trafodaeth ynghylch y diweddaraf
am CAMHS yn ystod panel y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ym mis Mai.
- Cadarnhaodd swyddogion y bu cynnydd i 60% mewn
cwblhau gwaith hanes bywyd ond mae angen ei wella mwy. Mae'n flaenoriaeth yn y cynllun
gweithredu. Mae rhai problemau o
ran cofnodi ar y system ond dylai WCCIS fynd i'r afael â'r materion hyn.
- Holodd y panel a yw'r Gyfarwyddiaeth yn fodlon ar y
gwasanaeth y maent yn ei gael gan Barnardos a BAYS+. Esboniwyd bod y Gyfarwyddiaeth yn gwneud
darn o waith i edrych ar y gwasanaeth hwn a gall wneud rhai
newidiadau. Bydd papur yn cael ei
gyflwyno i'r panel ynghylch hyn yn y dyfodol.
- Teimlai Aelod y Cabinet ei bod yn ddefnyddiol i'r
tîm craffu weld yr Adroddiad Blynyddol hwn a hoffai ei gyflwyno i'r panel
eto yn y dyfodol.
Camau
Gweithredu:
- Ychwanegu 'Strategaeth a Chynllun gweithredu Pobl
Ifanc' at raglen waith yn y dyfodol ar ôl mis Medi 2021.
- Ychwanegu 'Adroddiad Blynyddol yr Uned Ansawdd
Diogelu 2020-21' at raglen waith yn y dyfodol.
|
8. |
Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2020-21 PDF 298 KB
Cofnodion:
Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.
Symudwyd dyddiad y cyfarfod nesaf o 5 Mai i 25 Mai oherwydd Etholiadau'r
Senedd.
|
9. |
Llythyrau PDF 217 KB
Cofnodion:
Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet EK (cyfarfod 24 Mawrth 2021) PDF 173 KB
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet LG (cyfarfod 24 Mawrth 2021) PDF 190 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet LG (cyfarfod 24 Mawrth 2021) PDF 320 KB
|