Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Cadarnhau Cynullydd Cofnodion: Cadarnhawyd Paxton Hood-Williams yn Gynullydd y Panel. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgeliadau o fudd – Mike Durke |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 309 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: Rhoddodd Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y
Gwasanaethau Cymdeithasol wybodaeth i'r Panel am argymhellion adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r
argymhellion. Pwyntiau i'w trafod:
Camau Gweithredu:
|
|
Rhaglen Waith Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 2020-21 PDF 10 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Panel
y rhaglen waith ddrafft a chytunwyd ar y camau gweithredu canlynol: ·
Bydd
eitem ar Mynd i'r afael â Thrais yn Erbyn Menywod, Domestig SAC
yn cynnwys sesiwn friffio ar y cynnydd mewn trais domestig dros gyfnod y pandemig a dadansoddiad o'r cydweithio rhwng y Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau i Oedolion o ran cam-drin domestig. Caiff aelodau'r panel Gwasanaethau i Oedolion
eu gwahodd ar gyfer yr eitem hon. ·
Trefnir
cyfarfod rhwng Aelod o'r Cabinet, Pennaeth y Gwasanaeth a Chynullydd y Panel i
drafod amserlennu eitemau yn y dyfodol ac effaith y pandemig,
er mwyn helpu i lunio rhaglen waith yn y dyfodol. ·
Bydd
cadeiryddion y panel Gwasanaethau i Oedolion a'r panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
yn edrych ar gynlluniau gwaith i nodi cyfleoedd i unrhyw eitemau fynd i
gyfarfodydd ar y cyd. |
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Hydref 2020) PDF 277 KB |