Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 384 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Panel lythyrau a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol a chytunodd fod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Chwefror a 24 Chwefror 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfodydd. |
|
Cwestiynau Gan y Cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Diweddariad i Wasanaethau Penodol am Bandemig Covid-19 PDF 239 KB Gwahodd i fynychu: Esboniodd y Cynghorwyr Elliot King a Sam
Pritchard, Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd sydd newydd ei benodi Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet yr eitem gan ddweud ei
bod wedi bod yn sefyllfa ddigynsail a bod perthynas waith agos wedi bod gyda'r
Bwrdd Iechyd ac yn fewnol gyda'r
adran Addysg. Dywedodd eu bod yn hynod
falch o'r hyn y mae'r gwasanaeth
wedi'i gyflawni a bod hyn o ganlyniad i'r staff. Yna rhoddodd Julie Thomas, Pennaeth y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
yr wybodaeth ddiweddaraf i'r
panel am effeithiau'r pandemig
gan gynnwys effeithiau, gweithgareddau, heriau ac adferiad. Pwyntiau i'w
trafod: • Mae Cynllun Adfer/Addasu
ar waith. • O ran perfformiad, mae'r prif ffigurau'n sefydlog er bod lefel o weithgarwch amddiffyn plant ac mae'r 'drws ffrynt' y gwasanaeth yn brysur,
ond mae'n dargyfeirio mwy o achosion. • Mae angen canolbwyntio ar asesu, arwyddion
matrics ‘Signs of Safety’ a chynlluniau
gofal a chymorth. • Mae'n annhebygol y bydd y gwasanaeth yn gweithredu fel
yr oedd cyn
COVID. Bydd yr hyn a ddysgwyd
yn cael ei
ddefnyddio i gryfhau'r gwasanaeth yn y dyfodol. • Mynegodd y panel ei werthfawrogiad o'r staff sy'n gweithio mewn
sefyllfa anodd iawn ac sydd wedi
addasu'r gwasanaeth i fodloni gofynion
mor gyflym. • Mae'r panel yn teimlo bod llwyddiant y gwasanaeth wedi bod oherwydd y gwasanaeth wyneb yn wyneb
ar y rheng flaen ac ni
all hyn ddigwydd drwy weithio gartref. Felly, mae'n bwysig dal y ddysgl yn wastad. • Mae'r Pennaeth Gwasanaeth yn falch
iawn o staff ym mhob rhan o'r
gwasanaeth, sydd wedi bod yn eithriadol. • Pwynt 2.6 y Cynllun Addasu – Mae'r panel yn teimlo bod hyn
yn bwysig iawn. Hysbyswyd bod y gwasanaeth yn pryderu
am gynhyrchu gwaith S’igns of Safety’ ond maent yn dal i
allu gwneud hyn o bell ac wyneb yn wyneb. Maent
dri chwarter ffordd drwy’r rhaglen
lles staff, sy'n dangos ymrwymiad i staff ac mae'r adeilad wedi'i agor i staff yn
wirfoddol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio'n agosach
gyda'r Bwrdd Iechyd sy'n rhywbeth
cadarnhaol. • Tudalen 14 o'r Cynllun Addasu – Wyneb yn wyneb
rhwng staff a'r cyhoedd. Roedd y panel yn bryderus bod gan nifer o feysydd
statws coch. Fe’i hysbyswyd, ar wahân
i un maes,
fod pethau wedi symud ymlaen
ers i'r adroddiad
hwn gael ei lunio, ac mae'r
gwasanaeth yn delio â'r rhain
i gyd. • Cyfeiriwyd y panel at ddogfen ar Strategaeth Lleihau’n Ddiogel Nifer y Plant a Theuluoedd sy'n Derbyn Gofal. O edrych ar y manylion mae'n
drawiadol iawn. Yn Abertawe gosodir y mwyafrif helaeth o blant sy'n derbyn
gofal yn agos i'w cartrefi
Camau Gweithredu: • Cyflwyniad ar Leihau’n Ddiogel Nifer y Plant a Theuluoedd sy'n Derbyn Gofal i'w ddosbarthu i'r panel er gwybodaeth. |
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 16 Medi 2020) PDF 183 KB |