Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Gwahoddir y Cyng. Elliott King a’r Cyng. Sam Pritchard, Aelodau’r Cabinet dros y Gwasanaethau i Blant a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol.

 

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 20 Chwefror 2020, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 13 Chwefror 2020).

 

 

 

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorwyr Elliot King a Sam Pritchard, Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, a Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau.

4.

Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion

 

 

 

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

 Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 19 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y barn a'r argymhellion canlynol ar y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

           Mynegodd y panel bryder ynghylch y risgiau sy'n gysylltiedig â grantiau, yn benodol y risg gynyddol wrth i'r cyngor ddibynnu mwyfwy ar arian grant.

           Roedd y panel yn hapus â ffocws cyffredinol y gyllideb sef blaenoriaethau'r cyngor hwn.

           Nododd y panel y gostyngiad go iawn o £1.35m yn arian craidd Tlodi a'i Atal yn y flwyddyn ariannol nesaf (y mae'r mwyafrif ohono'n mynd i’r Gwasanaethau Plant), a chynnydd o £1.6m i'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a fydd yn arwain at gynnydd o £0.25 yn y gyllideb gyffredinol o £42m. Dyma gynnydd bach iawn o'i gymharu â chynnydd y Gwasanaethau i Oedolion, ac mae'n gynnydd bach iawn o'i gymharu â'r cynnydd i'r GCR.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 19 Chwefror.  Yna bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet.