Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 488 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

5.

Cyflwyniad - Y cynnydd ar Raglen Gwella Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 199 KB

Gemma Whyley, Rheolwr Prosiect y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Daeth Gemma Whyley, Rheolwr y Rhaglen Trawsnewid, i'r cyfarfod i gyflwyno diweddariad am gynnydd o ran Rhaglen Wella'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Pwyntiau i'w trafod:

           Gwasanaeth ar ddechrau a diwedd dydd rhanbarthol yw Ymyl Gofal. Mae'n wasanaeth hyblyg sy'n gweithredu 7 niwrnod yr wythnos a'r tu allan i oriau.

           Byddai'n dda i'r panel weld astudiaethau achos mewn perthynas ag Ymyl Gofal.

           Strategaeth Lles a Chynnwys Staff - derbyniwyd caniatâd gan y TRhC i gyflwyno hwn fel gwasanaeth llawn.

           Polisi cadw staff wedi'i gytuno gan y TRhC ac yn cael ei weithredu. Mae'n bwysig creu sefydlogrwydd yn y gweithlu.

           Cyngor a Chefnogaeth Integredig (CCI) - yn cael ei gyflwyno'n dilyn cynllun peilot y llynedd. Wedi gweld lleihad mewn galw am wasanaethau statudol y cyngor.

           Mae CCI yn dîm amlddisgyblaeth â staff yn gweithio yn Neuadd y Ddinas, gan gynnwys gweithiwr gofal iechyd sylfaenol, Swyddog Lles Addysg, gweithiwr pobl ifanc yn eu harddegau a'r heddlu. Gallant rannu gwybodaeth a phenderfynu ar yr ymateb priodol. Bydd enw'r gwasanaeth yn newid i'r 'Pwynt Cyswllt Unigol'.

           Cynlluniau Gweithredu Arolygiad - Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi cael nifer o arolygiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n ymateb i gynlluniau gweithredu arolygiad trwy'r Rhaglen Wella. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i gwblhau, mae nifer o dasgau'n cael eu cwblhau ac nid yw gwaith wedi dechrau ar chwech ohonynt. Mae pump o'r tasgau nas dechreuwyd yn perthyn i'r System Wybodaeth Gofal Cymunedol a roddir ar waith ym mis Mehefin, felly bydd y systemau ar draws Cymru wedi'u safoni. Gofynnwyd a all Abertawe gynnal cynllun peilot y modiwl mabwysiadu ac a ellir neilltuo mynediad at addysg.

           Blaenoriaethau wrth Symud Ymlaen - gobeithir lansio tîm PDG ar ei newydd wedd ym mis Ebrill trwy gynnal arddangosfa gelf. Rydym yn gweithio gyda phlant a gweithwyr cymdeithasol i'w datblygu. Mae'n dangos sut mae'r adran wedi croesawu'r Ddeddf Iechyd a Llesiant trwy ymgymryd â gweithgareddau cydgynhyrchu.

 

Camau Gweithredu:

           Ychwanegu eitem at raglen waith y dyfodol - astudiaethau achos Ymyl Gofal.

 

6.

Diogelu (Llinellau Cyffuriau a Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant) pdf eicon PDF 230 KB

Damian Rees – Prif Swyddog dros Ddiogelu

Cofnodion:

Briffiwyd y Panel ar ddiogelu mewn perthynas â llinellau sirol a Chamfanteisio'n Rhywiol ar Blant (CRhB) gan Damian Rees, Prif Swyddog dros Ddiogelu.

 

Pwyntiau i'w trafod:

           Mae cudd-wybodaeth yr heddlu o fis Ionawr 2020 wedi nodi bod y rhan fwyaf o Ymgyrchoedd Llinellau Sirol ar draws Cymru yn Abertawe, ac mae'n sylweddol uwch nag yn unman arall yng Nghymru. Gwybodaeth bosib yw'r wybodaeth hon ar hyn o bryd ac mae angen ymchwilio ymhellach iddi. Mae'n ymddangos fod y tueddiad wedi cynyddu ond gallai hyn fod yn rhannol oherwydd gwell monitro a chofnodi yn Abertawe. Gall y cyngor dybio'n unig ar hyn o bryd, oherwydd bod angen ymchwilio'n sylweddol iddo, ac mae angen i'r cyngor sicrhau bod gweithdrefnau diogelu cadarn ar waith. Wrth i hyn ddatblygu, gall yr adran ddod â gwybodaeth fwy cadarn i'r Panel.

           O'r 20 o bobl ifanc yr oedd angen ymyriad arnynt ers mis Ebrill 2019 trwy brotocol CRhB, daw chwech ohonynt o awdurdodau lleol eraill.

           Mae'n flaenoriaeth o ran y Rhaglen Wella ac mae grŵp strategol yn arwain y gwaith hwn.

           Gwnaed gwaith a dargedwyd gan y cyngor a'r heddlu gyda staff y rheilffyrdd er mwyn eu helpu i fod yn weithredol ac i wybod yr hyn y dylent ei wneud os bydd ganddynt bryderon ynghylch person ifanc.

           Mae'r cyngor eisoes yn gweithredu gan ddefnyddio ymagwedd ddiogelu gyd-destunol ond mae'r cynllun peilot ffurfiol yn dechrau.

           Agwedd arall ar yr ymagwedd hon yw creu lleoedd diogel i blant fod ynddynt. Mae enghreifftiau o le diogel yn cynnwys newid y goleuadau mewn parciau; agor lleoedd y mae plant yn mynd iddynt; meithrin perthnasoedd gyda phlant a'u cyfeirio at weithgareddau cadarnhaol.

           Mae'r panel yn teimlo y bu lleihad yn y gwasanaethau ieuenctid. Nid yw aelod y cabinet yn teimlo bod lleihad wedi bod, ond cafwyd gwared ar y rhai nad oeddent yn cael eu defnyddio llawer, ac mae'r rhai sy'n cael eu defnyddio'n dda wedi parhau.

           Mae'r adran yn ystyried y posibilrwydd o gael strategaeth pobl ifanc.

           Ar 13 Mawrth 2020, cynhelir cynhadledd pobl ifanc ar gyfer rheolwyr a staff y rheng flaen.

7.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019-20 pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

Cytunwyd ar yr eitemau canlynol ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 27 Ebrill 2020:

           Sesiwn Friffio ar Asesiadau Gofalwyr

           Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig (gan gynnwys gwaith maes yn Abertawe ymhlith eraill)

           Monitro perfformiad

 

Caiff yr eitemau sy'n weddill ar y rhaglen waith eu hamserlennu ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 176 KB

a)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 18 Rhagfyr 2019)

b)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 18 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd y llythyrau gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 186 KB