Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

5.

Diweddaraf am y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol pdf eicon PDF 201 KB

Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Nichola Rogers, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin yn bresennol a rhoddodd y diweddaraf i'r panel am waith y gwasanaeth, gwelliannau o ran perfformiad a chynlluniau i fynd i'r afael â meysydd i'w datblygu.

 

Pwyntiau trafod:

              Disgwylir adroddiad adolygu annibynnol ym mis Ionawr 2020 ynghylch a fydd Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin. 

              Gwelwyd gwelliannau o ran perfformiad mewn nifer o feysydd dros y flwyddyn ddiwethaf ers i'r rheolwr mabwysiadu newydd fod yn ei swydd. Dylid ei llongyfarch.

              Nododd y Panel mai menywod oedd y rhan fwyaf o'r gweithwyr yn y strwythur a bod angen model rôl gwrywaidd ar blant. Dywedwyd nad oedd yn broblem fawr ym maes mabwysiadu gan nad yw'r staff yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r plant.

              Ar hyn o bryd nid oes unrhyw blant gwyn wedi'u gosod gyda mabwysiadwyr BME. Caiff y broses fabwysiadu ei harwain gan y mabwysiadwyr. Ystyrir diwylliant ond ddaw gofal a lles plant yn gyntaf.

              Diweddariad ar ddata Taith Bywyd - cyflwynwyd fframwaith newydd. Penodwyd gweithiwr fframwaith yn ddiweddar i weithio gydag awdurdodau er mwyn gwella ansawdd y gwaith ac i weithio gyda gweithwyr cymdeithasol i helpu plant i ddeall am ddata Taith Bywyd.

              Gwnaed gwaith ar 'gynnig' Bae'r Gorllewin a sut y bydd yn cefnogi plant a mabwysiadwyr wrth symud ymlaen.

              Cafwyd problemau â 'blwch llythyrau' ond datryswyd y rhain.

              Mae'r holl feysydd yn cwrdd yn rheolaidd i rannu arfer. Rhannwyd enghreifftiau o arfer da gan Fae'r Gorllewin.

              Roedd pryder ynghylch diffyg mabwysiadwyr yn y rhanbarth hwn ond mae'r bwlch wedi lleihau ac mae rheolwr y prosiect yn meddwl y bydd yn parhau i leihau.

              Bydd y rheolwr mabwysiadu'n dod â chanlyniadau perfformiad eleni yn ôl i'r panel ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig nesaf.

 

Camau Gweithredu:

              Cynnwys eitem ar 'Ganlyniadau Perfformiad Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin' ar y rhaglen waith ar ddechrau'r flwyddyn ddinesig nesaf.

6.

Y Diweddaraf am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol pdf eicon PDF 2 MB

Gemma Whyley, Rheolwr Prosiect y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Roedd Gemma Whyley, Rheolwr Prosiect y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r Panel am y gweithgarwch a gafwyd eleni gan gynnwys amserlen, cynllun gwaith, prosiectau a'r camau nesaf.

 

Pwyntiau i'w trafod:

           Cafwyd 6 chyfle i rieni corfforaethol ymgysylltu â phlant eleni.

           Cafodd y Prosiect Llyfrau Dechrau Gorau, a gynhaliwyd eleni, ei ganmol gan y Comisiynydd Plant. Rydym yn gobeithio ehangu ar hwn y flwyddyn nesaf.

           Mae Bays+ yn gweithio'n dda ar hyn o bryd. Caiff adroddiad perfformiad pwrpasol newydd ar gyfer Bays+ ei ddatblygu yn y flwyddyn newydd. Caiff hwn ei ychwanegu at eitem monitro perfformiad yn y dyfodol.

           Enwebwyd y Grŵp Tasg a Gorffen Cyfranogiad am wobr.

           Cynhaliwyd gweithdy Bwrdd Magu Plant Corfforaethol ar y cyd. Caiff hyn ei fwydo i'r Cynllun Bwrdd Magu Plant Corfforaethol blynyddol.

           Mae Grŵp Cynghori'r Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi trafod newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Gallai hyn fod yn gadarnhaol.

           Mae'r Sgwrs Fawr yn llwyddiannus iawn wrth gysylltu ag ysgolion.

           Ni ddarparwyd unrhyw ddata perfformiad yn yr adroddiad hwn. Roedd y Panel yn pryderu ynghylch cyrhaeddiad addysgol ar gyfer Plant Sy'n Derbyn Gofal yn yr adroddiad blaenorol. Bydd yr Adroddiad Blynyddol, gan gynnwys data perfformiad yn cael ei gyflwyno i'r Panel yn ystod y flwyddyn ddinesig nesaf.

           Gofynnodd y Panel a yw'r partneriaid yn cymryd rhan fel y dylent. Dywedwyd bod Tai a Diwylliant a Hamdden bellach yn cymryd y rôl magu plant corfforaethol o ddifri ac maent yn cymryd rhan yn dda.

           Mae Aelod y Cabinet yn awyddus i wella presenoldeb a chyfraniad yn ystod cyfarfodydd y bwrdd ac mae o'r farn y bydd newid o amcanion i themâu hefyd yn helpu gyda hyn.

           Mae ymgais wedi bod i gynnwys plant yng nghyfarfodydd y Bwrdd ond mae angen i strwythur y cyfarfodydd newid. Awgrymodd y Panel y dylai Aelod y Cabinet siarad â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am newid fformat i arddull sy'n fwy tebyg i weithdy.

 

Camau Gweithredu:

           Caiff copi PDF o'r prosiect llyfrau ei ddosbarthu i'r Panel drwy e-bost.

           Bydd eitem Adroddiad Monitro Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynnwys perfformiad Bays+ yn y dyfodol.

           Cynnwys eitem 'Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol' yn y Rhaglen Waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig nesaf.

7.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 2 MB

 

 

 

 

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Rhoddodd Julie Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ddiweddariad i'r Panel.

 

Pwyntiau i'w trafod:

           Cafwyd 3 mis prysur iawn gyda llawer o weithgareddau sy'n ymwneud â'r boblogaeth Plant sy'n Derbyn Gofal gan gynnwys rhai materion difrifol a materion cymhleth iawn.

           Caiff Strategaeth Lles y Gweithlu ei datblygu. Mae'n bwysig cadw staff profiadol yn enwedig uwch-ymarferwyr.

           Ni chaiff y polisi monitro swyddi gwag ei roi ar waith yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan ei fod yn oedi recriwtio staff.

           Cymeradwywyd y polisi cadw er mwyn caniatáu staff i wneud cynnydd a chyrraedd rolau uwch-weithwyr cymdeithasol.

           Cafwyd ymgais fawr mewn perthynas â gwaith cychwynnol wedi'i dargedu ac mae canolfannau cymorth cynnar ar waith.

           Bydd Pennaeth y Gwasanaeth yn cyflwyno gwybodaeth am lwyth achos i bob cyfarfod o'r Panel yn y dyfodol er mwyn rhoi sicrwydd i'r Panel.

           Mae gweithgarwch amddiffyn plant wedi cynyddu. Mae gwaith yn cael ei wneud i arafu hyn. Bydd yr heddlu'n gweithio gyda ni ar hyn a dylem weld y ffigyrau'n lleihau.

           Mwy o weithgarwch ynghylch llinellau sirol yn ddiweddar. Gofynnwyd i'r heddlu gynyddu ei weithgarwch tarfu.

           Mae'r adran yn gweithio ar ddarn o waith gyda Phrifysgol Caerhirfrynster ar brosiect 'Born into Care'.

           Gweithio gyda'r adran Tai i ddarparu tai i'r sawl sy'n gadael gofal sydd ag anghenion cymhleth y mae angen y gefnogaeth hon arnynt o hyd.

 

Camau Gweithredu:

           Cyflwyno gwybodaeth llwyth achos y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ym mhob cyfarfod o'r Panel. Diweddariad llafar gan Bennaeth y Gwasanaeth.

8.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 311 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y rhaglen waith.

 

Camau Gweithredu:

           Cadarnhau a fydd y cynigion cyllidebol drafft yn eitem ychwanegol yn ystod cyfarfod y Panel ar 24 Chwefror neu a oes angen trefnu cyfarfod ychwanegol.

9.

Llythyrau pdf eicon PDF 402 KB

a)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Awst 2019)

b)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Hydref 2019)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 175 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 489 KB