Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 316 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Awst 2019 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

5.

Y diweddaraf am gynnydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc pdf eicon PDF 232 KB

Gavin Evans, Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid

 

 

Cofnodion:

Roedd Joanne Abbott-Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth a Phartneriaethau, Bwrdd Iechyd Gorllewin Morgannwg, yn bresennol i gyflwyno diweddariad am gynnydd gan gynnwys perfformiad, gweledigaeth strategol a gwasanaethau i gefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc ac i ateb cwestiynau'r panel.  Roedd Gavin Evans, Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid y cyngor, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Mae'r modd y mae Abertawe'n cydymffurfio â thargedau perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer CAMS, o'r pwynt atgyfeirio, yn gwella
  • Mae'r amser aros cyn i blant a phobl ifanc gael eu hatgyfeirio hefyd yn gwella yn Abertawe.
  • Mae'r gwasanaeth Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhan o grŵp llywio strategol CAMHS. Ceir llwybr teithio a rennir. Mae'n gymhleth, ond maent yn ceisio cael proses fwy cydlynol.
  • Bydd gwasanaeth CAMHS integredig gydag un pwynt cyswllt. Bwriedir i hyn fod ar waith ym mis Mehefin 2020.
  • Mae iechyd emosiynol a lles yn cael ei anelu at blant oed cynradd.  Derbyniwyd arian o grant ar gyfer pobl ifanc 11 i 18 oed. Dylai hyn helpu plant sydd bellach mewn ysgolion uwchradd na chawsant eu nodi ar gyfer CAMHS pan oeddent yn yr ysgol gynradd.
  • Mae trosglwyddo ar gyfer y ddau - o'r cynradd i'r uwchradd ac o'r uwchradd ymlaen. Cynhelir cyfarfod grŵp i geisio gwella'r trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd.
  • Bydd atgyfeiriadau yn y dyfodol yn ehangach, ac nid trwy feddyg teulu'n unig (ysgolion, gweithwyr proffesiynol eraill etc.). Mae gwaith i'w wneud o hyd ar y broses atgyfeirio newydd sydd wedi'i safoni. 
  • Mae angen bod yn glir ynghylch pa ymyriadau amgen sydd ar gael i unigolion nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer CAMHS.
  • Cwm Taf sy'n darparu'r gwasanaeth CAMHS ym Mwrdd Iechyd Gorllewin Morgannwg. Mae'r Bwrdd Iechyd yn prynu'r gwasanaeth i mewn o Gwm Taf.
  • Mae Aelodau Cabinet yn eistedd ar Fwrdd Partneriaeth CAMHS. Os yw aelodau'n eu hysbysu o unrhyw blant sy'n aros amser hir ar gyfer gwasanaeth CAMHS, gallant fynd ar drywydd hyn.
  • Mae'r panel yn teimlo bod y cynlluniau newydd ar gyfer CAMHS yn rhaid da.  Fodd bynnag, cafwyd llawer o broblemau yn y gorffennol ac mae angen i'r panel barhau i'w monitro. Cytunwyd i gael diweddariad arall am CAMHS ymhen 12 mis.

 

Camau gweithredu:

 

Ychwanegu 'Diweddariad ar gynnydd gyda CAMHS' at y rhaglen Waith ymhen 12 mis (Hydref 2020).                                                 

6.

Briffio ar Wasanaeth Troseddau Ieuenctid pdf eicon PDF 2 MB

Jay McCabe, Prif Swyddog Bays+ a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid

 

Cofnodion:

Roedd Jay McCabe, Prif Swyddog Bays+ a'r Gwasanaethau Cyflawnder Ieuenctid yn bresennol i roi diweddariad ar ddatblygiadau ers gwahanu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Bae'r Gorllewin ym mis Mawrth 2019 a ffurfio Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Abertawe ym mis Ebrill 2019, ac i ateb cwestiynau'r Panel. 

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Amserlen - Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Rheoli ym mis Gorffennaf 2019; cynhaliwyd sesiwn hyfforddi Bwrdd Rheoli ar 30 Hydref 2019; cynhaliwyd ail gyfarfod y Bwrdd Rheoli ar 7 Tachwedd 2019. Yn y dyfodol, y cynllun yw cynnal cyfarfod o'r bwrdd bob deufis. Y gobaith yw y bydd unigolion ar y bwrdd yn derbyn cyfrifoldeb personol am faes.
  • Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid bellach wedi'i integreiddio â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn Abertawe.
  • Bydd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn cynnal arolygiad ffug ym mis Rhagfyr 2019 i helpu i adolygu'r daith wella a gwneud argymhellion ar gyfer meysydd i'w gwella cyn yr arolygiad nesaf a fydd o fewn 18 mis o fis Mehefin 2019.
  • Bydd gan yr adran felly syniad ehangach am sut mae'r gwasanaeth yn perfformio (nid dangosyddion perfformiad yn unig).
  • Gan fod hwn yn wasanaeth newydd, hoffai'r panel gael adroddiad diweddaru ar Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Abertawe mewn tua 12 mis i wirio cynnydd.
  • Mae ymyrryd yn gynnar yn allweddol. 
  • Mae integreiddio'n lleol yn bendant yn arwain at fuddion. Mae llawer mwy o gynllunio a gweithio cydlynol rhwng y Tîm Troseddau Ieuenctid, y Gwasanaethau Plant, Ymyrryd yn gynnar ac atal etc.
  • Cadwyd llawer o bethau cadarnhaol o'r gwaith rhanbarthol.
  • Roedd Aelod y Cabinet dros Addysg yn bresennol ar gyfer yr eitem hon a chroesawodd yr adroddiad hwn. Roedd o'r farn nad oedd y drefn flaenorol yn gweithio, nid oedd aelodau'r bwrdd yn hapus ac roedd y dangosyddion perfformiad yn rhy gul. 
  • Cytunwyd y byddai'r panel yn derbyn astudiaethau achos ar y gwasanaeth ym mis Mawrth 2020 i helpu aelodau i'w ddeall yn well. 
  • Cafodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid rhanbarthol arolygiad gwael iawn ond mae'r argymhellion yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn Abertawe sydd newydd ei ffurfio. Mae'n gadarnhaol iawn gweld sut mae'r tîm wedi meddwl am atebion ac wedi datblygu prosesau. 
  • Mae'r adran yn trafod cynnal asesiadau ansoddol yn ogystal â rhai meintiol.  Yn hanesyddol, sawl DP sydd wedi'u hysgogi gan berfformiad? Mae angen rhagor o wybodaeth ansoddol i nodi profiad a chanlyniadau unigolion.

 

Camau Gweithredu:

  • Ychwanegu eitem 'Diweddariad ar y  Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid' at y rhaglen waith ar gyfer mis Hydref 2020.
  • Ychwanegu eitem ar 'Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Abertawe' at y rhaglen waith ar gyfer mis Mawrth 2020.

 

7.

Cyflwyniad - Y diweddaraf am adroddiad i Lywodraeth Cymru ar Strategaeth Lleihau Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn Ddiogel

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Cofnodion:

Roedd Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bresennol i roi'r diweddaraf i'r panel ar y mater hwn ac i ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

·         Trafodwyd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.

·         Hysbyswyd y panel am fanylion yr ymweliad gan swyddogion LlC. Roedd Abertawe wedi cael adborth cadarnhaol iawn yn dilyn ei gyflwyniad, a derbyniwyd y cynigion a roddwyd ynghylch lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn Abertawe mewn modd diogel, ac nid oedd angen gwybodaeth ychwanegol. Mae cynigion a thargedau meddal yn adlewyrchu'r gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn Abertawe ers rhai blynyddoedd felly nid oedd angen newid sylweddol i arfer neu Gynllun Gwella'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

·         Mae adroddiadau rheolaidd ar gael i'r panel drwy adroddiad perfformiad misol y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

·         Hoffai'r panel wahodd y Gweinidog i un o gyfarfodydd y panel i drafod targedau Llywodraeth Cymru.

 

Camau Gweithredu:

·         Gwahodd Gweinidog i ddod i un o gyfarfodydd y panel i drafod targedau Llywodraeth Cymru.

 

 

8.

Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 310 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.

 

9.

Lythyrau pdf eicon PDF 172 KB

a)    Lythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Awst 2019)

Cofnodion:

Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.

 

 

Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Hydref 2019) pdf eicon PDF 175 KB