Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

 

2.

Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Gwahoddir y Cyng. Will Evans a’r Cyng. Elliott King, Aelodau’r Cabinet dros y Gwasanaethau i Blant a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol.

 

Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 14 Chwefror 2019, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 7 Chwefror 2019.)

 

 

 

 

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorwyr Will Evans ac Elliot King, Aelodau'r Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, a Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau.

3.

Crynhoi Barn a Chyflwyno Argymhellion

Gofynnir i’r panel drafod ei farn a’i argymhellion ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn eu cyflwyno i’r Cabinet.

 

Bydd cynullwyr pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 12 Chwefror sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu.

 

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y farn a’r argymhellion canlynol ar y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yr hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet:

 

  • Nid oes unrhyw bryderon mawr ynghylch y gyllideb. Atebwyd yr holl gwestiynau yn y cyfarfod.
  • Er ein bod yn falch o weld bod y gyllideb ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynyddu'r flwyddyn nesaf, rydym yn deall nad yw'n cynyddu mewn gwirionedd gan y bydd y cynnydd yn talu am godiadau cyflog a chostau llety.
  • Mae'r panel yn cydnabod ei fod yn anodd rhagweld beth fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn gan ei fod yn wasanaeth sy'n ymateb i galw.
  • Bydd y Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i graffu ar y  gwasanaeth yn y dyfodol gan wneud awgrymiadau ac argymhellion ar gyfer newid.

 

Yn dilyn y cyfarfod hwn:

 

Bydd y cynullydd yn cyfleu barn y panel, ynghyd â chynullwyr paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 12 Chwefror. Bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid wedyn yn mynd i gyfarfod y Cabinet ar 14 Chwefror i gyfleu barn y paneli craffu perfformiad ac yn ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet.