Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Nodiadau Cyfarfod 25 Chwefror 2019 PDF 370 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yngofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau'r Cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a
Chomisiynu Busnes, yn bresennol i egluro'r adroddiad perfformiad ar gyfer mis
Mawrth 2019 i'r panel, gan nodi meysydd sy'n perfformio'n well a meysydd lle
mae angen gwella, ac ateb cwestiynau'r panel.
Pwyntiau i'w trafod: ·
Tudalen 10 - Lles - Mae nifer yr ail-atgyfeiriadau yn y
mis wedi cynyddu. Nodwyd bod teulu o 7
wedi cael ei ail-atgyfeirio i'r adran a oedd yn
gyfrifol am y cynnydd hwn. ·
Tudalen 11 - Cynllunio Gofal â Chymorth - Asesiadau - Mae
cynnydd yn cael ei wneud o ran cynyddu canran yr asesiadau 42 ddiwrnod a
gynhelir o fewn yr amserlenni. Mae hyn
yn gadarnhaol. ·
Tudalen 16 - Diogelu - Adolygiadau a Dyraniadau - Roedd y
panel yn pryderu bod canran y plant ar y gofrestr Amddiffyn Plant sydd wedi'u
cofrestru o'r blaen yn cynyddu. Mae’r
nifer yn y categori cam-drin emosiynol yn cynyddu ac mae angen i ni ddeall
pam. Mae gan y panel ddiddordeb mewn
gweld sut mae cam-drin emosiynol yn cael ei gategoreiddio. Mae'n oddrychol iawn. ·
Tudalen 17 - Diogelu - Camfanteisio'n
Rhywiol ar Blant (CSE), Plant sydd ar Goll a Chamdriniaeth Broffesiynol - Bu
cynnydd mawr yn nifer y plant a reolir dan y Protocol Camfanteisio'n
Rhywiol ar Blant a nifer y plant sy'n mynd ar goll/yn absennol heb
awdurdod. Mae swyddog newydd wedi'i
benodi i ymchwilio i'r materion hyn, efallai fod y cynnydd hwn yn deillio o
nodi a chofnodi gwell. Mae hyn yn bryder
i'r panel, a fydd am fonitro hyn yn agos yn y dyfodol. ·
Bydd cynnydd yn nifer y cartrefi plant annibynnol yn yr
ardal. Roedd y panel yn pryderu y gallai
fod yn fygythiad i amddiffyn plant os na all yr awdurdod a'r heddlu ddelio â
nifer y plant sy'n derbyn gofal o ganlyniad.
Nid oes unrhyw reoliad ar nifer y cartrefi plant. Mae'r mater wedi'i nodi gyda Llywodraeth
Cymru. ·
Tudalen 23 - Sefydlogrwydd - Gadael Gofal - Byddai rhestr
o ddosbarthiadau yn ddefnyddiol i'r panel. Camau gweithredu: ·
Ychwanegu eitem at y rhaglen waith ar ‘Pam mae plant yn
derbyn gofal?'. ·
Darparu rhestr o ddosbarthiadau gyda'r adroddiad Monitro
Perfformiad nesaf. |
|
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn bresennol i gyflwyno'r eitem hon ac ateb cwestiynau'r panel. Pwyntiau i'w trafod: · Mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi ymweld â'r awdurdod ac wedi cael eu cyfarwyddo ar gynlluniau i leihau mewn modd diogel nifer y plant sy'n derbyn gofal. · Pwysleisiodd y panel pa mor bwysig yw ysgolion wrth ysgogi hyn. Mae pryder bod mwy a mwy o blant yn cael eu haddysgu gartref. Codwyd y mater hwn gyda LlC. · Roedd yr enghreifftiau a ddarparwyd o ddatblygu'r gwasanaeth wedi creu argraff dda iawn ar LlC. ·
Hoffai'r panel weld rhai enghreifftiau o gyfarpar a
thechnegau a ddefnyddir gan staff rheng flaen wrth ymgysylltu â theuluoedd i
annog rhieni a phlant i drafod problemau, teimladau, perthnasoedd a chynllunio
ffordd ymlaen i wella eu sefyllfaoedd. · Gwnaeth y panel longyfarch Julie Thomas a'i thîm am eu holl waith caled wrth reoli'r busnes. Cydnabu LlC pa mor dda yw hyn. Camau gweithredu: · Ychwanegu eitem i'r rhaglen waith ‘Enghreifftiau o gyfarpar a thechnegau a ddefnyddir gan staff rheng flaen wrth ymgysylltu â theuluoedd’.
|
|
Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 PDF 81 KB Cofnodion: Ystyriodd y panel y rhaglen waith. Camau gweithredu: · Ychwanegu at raglen waith 2019-20, 'Briffio ar y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid'. · Aelodau'r panel i roi gwybod i'r Swyddog Craffu am unrhyw eitemau i'w hystyried ar gyfer rhaglen waith 2019-20. |
|
a) Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Chwefror 2019) Cofnodion: Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel. |
|
Llythyr At Aelod y Cabinet (cyfarfod 29 Ebrill 2019) PDF 175 KB |