Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiadau.

2.

Nodiadau Cyfarfod 29 Hydref 2018 pdf eicon PDF 121 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yngofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

4.

Diweddariad ar y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

 

Cofnodion:

Roedd Julie Thomas, Rachel Moxey, Jane Whitemore, Gemma Whyley a Sue Jones yn bresennol i roi trosolwg o'r Bwrdd Magu Plant Corfforaethol, y diweddaraf ar y cynnydd a wnaed ar yr amcanion yn y strategaeth magu plant corfforaethol ac i ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Roedd y panel yn siomedig nad oedd cynrychiolaeth o'r Adran Addysg a Diwylliant a Hamdden yn y cyfarfod. 
  • Mae angen atgoffa rhieni corfforaethol bod eu cyfrifoldebau yn eang
  • Mae angen sicrhau bod partneriaid yn ymrwymo'n llawn a bod grwpiau o swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd.
  • Mae angen dangos bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn gwneud gwahaniaeth i blant sy'n derbyn gofal.
  • Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol - tudalen 11, ail dabl.  Mae'r panel yn pryderu'n fawr am ffigurau perfformiad addysgol ac yn enwedig y canlyniadau gwael ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 yn Abertawe.  Crybwyllwyd hyn yn yr Adroddiad Arolygu ac Arolwg Bright Spots ac mae yn y Cynllun Gweithredu. 
  • Mae'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn bwriadu olrhain plant sydd wedi gwneud yn dda yn addysgol i nodi'r hyn a wnaed er mwyn iddynt lwyddo.  Mae angen dod o hyd i linynnau cyffredin.  Mae'r Adran Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd i asesu'r gwaith. Yna caiff y panel ei friffio ar hyn. 
  • Dylai'r holl lywodraethwyr fod yn derbyn gwybodaeth i helpu i graffu ar ysgolion yn iawn. Mae'r panel yn teimlo bod hyn yn bwysig.  Byddai'n ddefnyddiol i lywodraethwyr wybod y cwestiynau iawn i'w gofyn mewn cyfarfodydd llywodraethwyr a gofyn i athrawon PDG ac athrawon diogelu am blant diamddiffyn mewn ysgolion. 
  • Mae angen i lywodraethwyr fonitro Grantiau Datblygu Disgyblion hefyd.
  • Hoffai'r panel weld data hanesyddol dros 20 mlynedd i weld y tueddiadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
  • Mae pwynt mynediad unigol ar gyfer y Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd yn cael ei dreialu yn y Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth ac mae'r canlyniadau'n gadarnhaol iawn.
  • Mae problemau o hyd gyda'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc ond mae ffigurau'n gwella.
  • Mae'r panel wedi bod yn pryderu ers tro am gyfranogaeth y gwasanaeth Iechyd. 

Rydym yn falch o glywed bod y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio'n well gyda'i gilydd.

  • Mae ymyrryd yn gynnar yn allweddol i wella canlyniadau. Felly mae ymdrech fawr ar gyfer y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf.
  • Y gobaith yw y bydd adroddiad blynyddol y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol nesaf yn cael ei lunio ar y cyd a chyda chyfranogaeth plant.
  • Bydd y panel yn derbyn diweddariad blynyddol am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol yn y dyfodol i fonitro cynnydd.
  • Caiff cyfres o ddangosyddion perfformiad ei datblygu ar gyfer y panel ar yr 8 amcan yn y strategaeth.  Adroddir am y rhan fwyaf bob chwarter, a rhai yn flynyddol.
  • Diolchodd y panel i arweinwyr yr amcanion am ddod a darparu diweddariad diddorol iawn.  Mae'r panel yn pryderu ar hyn o bryd am yr Adran Addysg. Ni chafwyd cynrychiolaeth o'r adran yn y cyfarfod ac mae'r ffigurau perfformiad yn peri pryder mawr.

 

Camau Gweithredu:

  • Caiff cynrychiolwyr Addysg eu gwahodd i gyfarfod y panel yn y dyfodol i esbonio'r canlyniadau gwael ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 yn Abertawe ac i ateb cwestiynau'r panel. 
  • Rhaid i'r Adran Gwasanaethau Plant a Theuluoedd feddwl am gwestiynau sy'n canolbwyntio ar atebion y gall llywodraethwyr eu gofyn i benaethiaid, athrawon PDG ac athrawon diogelu ynghylch plant diamddiffyn mewn ysgolion.
  • Bydd Rachel Moxey yn rhoi canlyniadau cynllun peilot y tîm Gwybodaeth Cyngor a Chefnogaeth i'r panel.
  • Dylid ychwanegu 'Diweddariad am y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol' at raglen waith y dyfodol ar gyfer mis Rhagfyr 2019.

 

 

5.

Archwiliad o ran cofrestru cam-drin emosiynol o safbwynt Amddiffyn Plant

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cofnodion:

Nid ymdriniwyd â'r eitem yn y cyfarfod. 

 

Trafodwyd yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Tachwedd 2018 yn lle hynny.  Yn gyffredinol, dyma un o'r adroddiadau gorau y mae'r panel wedi'i weld.  Mae'r adran yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae rhai materion o hyd y mae angen eu monitro'n agos.

 

Cam Gweithredu:

  • Ychwanegu 'Archwiliad ar nodi cam-drin emosiynol ar y gofrestr amddiffyn plant' at raglen waith y panel ar gyfer y dyfodol.

 

6.

Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y panel y rhaglen waith.

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 258 KB

a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 29 Hydref 2018)

Cofnodion:

Cafodd llythyr ei dderbyn a'i ystyried gan y panel.

 

Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 18 Rhagfyr 2018) pdf eicon PDF 257 KB