Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiadau.
|
2. |
Nodiadau cyfarfod 28 Awst 2018 PDF 366 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel
ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.
|
3. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw aelodau
o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
4. |
Y Diweddaraf am y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid PDF 119 KB
Amanda Turner, Rheolwr Ôl-Lys Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyriad Cynnar Bae’r Gorllewin
Cofnodion:
Roedd Amanda
Turner, Huw Fyfe a Carl Matthews o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn
Gynnar Bae'r Gorllewin yn bresennol i friffio'r Panel ar berfformiad ac ateb cwestiynau.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Nifer y plant a phobl ifanc sy'n troseddu am
y tro cyntaf yn gostwng yn sylweddol.
- Abertawe oedd yr awdurdod cyntaf i gyflwyno'r
system bureau
- Dylai'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
edrych ar astudiaethau achos etc i nodi a phrofi bod ymyrryd â phobl ifanc
yn gweithio.
- Byddai'n ddefnyddiol i olrhain oedolion ifanc
i weld a yw ymyrryd yn parhau i weithio unwaith bydd pobl ifanc yn troi'n
18 oed.
- Gostyngodd nifer y dedfrydau o garchar a
osodwyd ar bobl ifanc yn yr ardal i 9 yn 2017/18. Dyma stori lwyddiant go
iawn.
- Lleihawyd y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth
Troseddau Ieuenctid Bae'r Gorllewin o £4.2m yn 2015/16 i £3.68m yn
2017/18. Nid oes unrhyw effaith negyddol ar berfformiad wedi bod, ac nid
oes neb wedi colli swydd yn orfodol o ganlyniad i hyn. Bellach, mae 19 o
swyddi a rennir ar draws y rhanbarth o'u cymharu ag 11 yn 2017/18. Dyma
stori gadarnhaol iawn ar gyfer cydweithio.
- Mae cysylltiadau cryf rhwng y Gwasanaeth
Troseddau Ieuenctid rhanbarthol a'n Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ni yn
yr awdurdod ac Info-nation felly mae ymagwedd integredig ar waith.
- Nid oes gan y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
fynediad uniongyrchol at Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
(CAMHS). Mae achos yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Iechyd dros gael llwybr
diffiniedig i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc mewn modd
amserol.
- Mae'r panel yn teimlo nad yw'r Gwasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn gweithio'n effeithiol. Codir y mater
ar nifer o fforymau gan gynnwys y Panel Craffu Addysg.
- Pryder am effaith Pen-y-bont ar Ogwr yn
gadael Bae'r Gorllewin. Ar hyn o bryd mae 19 o swyddi a rennir yn y
rhanbarth. Mae'n rhaid sicrhau nad yw un o'r 3 ardal dan anfantais, yn
enwedig plant a phobl ifanc yr ardaloedd.
|
5. |
Monitro Perfformiad (gan gynnwys BAYS +) PDF 57 KB
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Aeth Julie
Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, drwy'r adroddiad perfformiad
ar gyfer mis Medi 2018 gan amlygu'r prif bwyntiau ac ateb cwestiynau'r panel.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Plant sy'n Derbyn Gofal (tudalen 2) - mae'r
adran yn ymgymryd ag archwiliad gan fod tuedd ar i fyny wedi bod yn y
ffigwr hwn. Cynllun i ddod ag adroddiad briffio i gyfarfod y panel ym mis
Rhagfyr.
- Mae'r panel yn teimlo bod yr adran yn mynd yn
y cyfeiriad iawn ond mae nifer o faterion y mae angen i'r panel gadw
llygad arnynt.
Camau Gweithredu:
- Ychwanegu 'Adrodd ar Archwiliad Plant sy'n
Derbyn Gofal' at y rhaglen waith ar gyfer mis Rhagfyr 2018
|
6. |
Adborth ar yr Adroddiad Arolygu
Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant
a Theuluoedd
Cofnodion:
Darparodd Julie
Thomas adborth i'r panel ar y canfyddiadau a'r meysydd i'w gwella o ddau
arolygiad a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Gorffennaf 2018 - sef
arolygiad llawn o wasanaethau plant yr awdurdod ac arolygiad o Faethu Abertawe.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Mae Maethu Abertawe wedi derbyn adroddiadau
cadarnhaol yn gyson mewn arolygiadau.
- Mae'r panel yn teimlo bod yr adroddiad
arolygu am y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn wych ar y cyfan ond mae
modd gwella o hyd. Mynegodd y panel ddiolchgarwch i Julie a gweddill y tîm
gan fod y cynnydd a wnaed yn ganlyniad i waith caled ac ymrwymiad ac yn
wych. Mae Julie'n hapus iawn â'r adroddiad ond heb fod yn hunanfodlon a
dyna pam mae'r cynllun gwella ar waith.
- O safbwynt craffu, bydd y panel yn parhau i
graffu ar y gwasanaeth a chynnig awgrymiadau ac argymhellion er mwyn
gwella.
|
7. |
Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 PDF 73 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y panel
y rhaglen waith.
|
8. |
Llythyrau PDF 258 KB
a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28
Awst 2018)
Cofnodion:
Llythyrau a
dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.
|
|
Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 29 Hydref 2018) PDF 258 KB
|