Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.
Cofnodion:
Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o gysylltiadau.
|
2. |
Nodiadau cyfarfod 25 Mehefin 2018 PDF 112 KB
Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel
ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.
|
3. |
Cwestiynau'r Cyhoedd
Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud.
Cofnodion:
Nid oedd unrhyw aelodau
o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.
|
4. |
Y diweddaraf am y Gwasanaeth Mabwysiadu PDF 358 KB
Val Jones, Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, Gwasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Daeth Val Jones,
y Rheolwr Mabwysiadu Rhanbarthol, i hysbysu’r panel o’r ddau archwiliad
diweddar ar Wasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin gan gynnwys
crynodeb o'r canfyddiadau a'r cynllun gweithredu rhanbarthol dilynol. Derbyniodd y panel hefyd ddiweddariad ar
gynnydd a pherfformiad y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol yn ystod 2017 /
2018.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Gwneir ymgais i safoni'r gwasanaeth
mabwysiadu ar draws yr awdurdodau lleol.
- Mae pob mabwysiadwr ar gofrestr genedlaethol
ond mae gan bob rhanbarth/sefydliad trydydd sector ei broses a'i baneli
mabwysiadu ei hun ar gyfer cymeradwyo mabwysiadwyr.
- Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin yn
cysylltu â rhanbarthau eraill er mwyn canfod mabwysiadwyr os nad yw'n
bosib dod o hyd i fabwysiadwr addas yn lleol, er enghraifft, ar gyfer
grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant ag anghenion arbennig.
- Tudalen 37 - mae'n nodi bod 38% o geisiadau
mabwysiadu a wnaed yn rhanbarthol yn 2017 a 2018 wedi'u herio. Fodd bynnag o ran y ceisiadau a heriwyd,
ni lwyddodd un o'r ceisiadau mabwysiadu.
Y peth pwysig yw i'r plentyn gael sefydlogrwydd.
- Tudalen 51 - Holodd y panel pam bod gan
Abertawe niferoedd mor uchel o bobl yn tynnu'n ôl o ran cyfeiriadau mewn
blwyddyn. Hysbyswyd y panel bod
angen cyflawni darn o waith er mwyn canfod y rheswm dros hyn. Mae'n bosib
am fod gan Fae'r Gorllewin system atgyfeirio gynnar.
- Tudalen 57 - teimlwyd y dylai'r ffocws fod ar
'orchymyn lleol' ar gyfer monitro perfformiad y gwasanaeth mabwysiadu.
- Cadarnhawyd y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn
parhau i fod yn rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin pan na fydd yn
rhan o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
- Gwnaeth y panel longyfarch y Gwasanaeth
Mabwysiadu ar ganlyniad ei archwiliadau diweddar a'r cynllun gweithredu a
roddwyd ar waith yn sgîl hyn.
|
5. |
Y diweddaraf am eiriolaeth PDF 83 KB
Cofnodion:
Daeth Julie
Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i roi’r diweddaraf i’r panel
a roi’r ymagwedd genedlaethol at Eiriolaeth Statudol ar waith, gan gynnwys rhai
o’r materion ynghylch rhoi ar waith a materion ar gyfer y gwasanaeth wrth symud
ymlaen.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Mae Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol bellach yn cadeirio'r bwrdd cenedlaethol
- Mae cost ac ariannu yn y dyfodol yn broblem o
hyd ac mae'r panel yn bryderus ynglŷn â hyn.
- Mae'r panel wedi cynnig helpu, os yn bosib,
er mwyn mynd i'r afael â'r mater.
|
6. |
Arolwg Bright Spots PDF 65 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Darparodd Julie
Thomas drosolwg o'r arolwg a’r ymatebion iddo i'r panel ac yna eu diweddaru ar
y camau nesaf sy'n cynnwys cynllun gweithredu integredig ac ateb cwestiynau'r
panel.
Pwyntiau i'w
trafod:
- Gofynnwyd i’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
yn Abertawe fod yn rhan o’r ymchwil y cymerodd chwech awdurdod ran
ynddi.
- Cynhaliwyd yr arolwg gyda Phlant sy’n Derbyn
Gofal (PDG) a gofynnwyd iddynt roi eu barn ar amrywiaeth o wahanol
faterion.
- Ni ellir datgelu'r plant a gwblhaodd yr
arolwg ond gellir trafod rhai materion yr amlygwyd ganddynt mewn
cyfarfodydd adolygu PDG.
- Mae angen i weithwyr cymdeithasol edrych yn
fwy manwl ar les cyffredinol plant a sylweddoli pa mor hanfodol yw sefydlu
perthnasoedd â phlant a rhieni. Bydd hyfforddiant yn cael ei gyflwyno ar
gyfer gweithwyr cymdeithasol i geisio gwella hyn.
- Mae'r gwasanaeth yn trafod rhai o'r
canlyniadau gyda’r Adran Addysg a'r hyn y gellir ei wneud i helpu, er
enghraifft, cynyddu nifer y grwpiau cyfeillgarwch.
- Mae llawer gan y gwasanaeth i'w ddysgu o'r
arolwg.
- Bydd Abertawe yn cymryd rhan yn yr arolwg eto
y flwyddyn nesaf.
- Amlygwyd rhai meysydd amlwg i Abertawe a lle
mae angen gwneud gwelliannau. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y Cynllun
Bwrdd Magu Plant Corfforaethol
- Roedd y panel yn falch bod Abertawe wedi
cymryd rhan yn yr arolwg ac yn mynd i'r afael â materion.
|
7. |
Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 PDF 70 KB
Cofnodion:
Bu'r panel yn
ystyried y rhaglen waith.
|
8. |
Lythyrau PDF 106 KB
a) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 20
Ebrill 2018)
b) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25
Mehefin 2018)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Llythyrau a
dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.
|
|
Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 August 2018) PDF 258 KB
|