Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cadarnhau Cynullydd y Panel Cofnodion: Cadarnhawyd Paxton Hood-Williams fel Cynullydd y panel.
|
|
Nodiadau cyfarfod 30 Ebrill 2018 PDF 117 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau'r Cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Rachel Moxey, Pennaeth Atal Tlodi Gavin Evans, Atal Tlodi Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a'i Atal, a Gavin Evans o’r tîm Tlodi a'i Atal yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Perfformiad Continwwm Cymorth i Deuluoedd ar gyfer Chwarter 4 2018, gan amlygu'r cyd-destun ar gyfer y gwaith hwn a'r cynnydd hyd yn hyn ac ateb cwestiynau. Pwysleisiwyd bod hwn yn waith sydd ar y gweill. Data crai ydyw ar hyn o bryd a sefydlwyd grŵp a fydd yn dechrau cwrdd cyn bo hir i ddadansoddi a thrafod tueddiadau a phenderfynu ar y ffordd ymlaen. Y bwriad yw cynnwys dangosyddion allweddol yn unig yn yr adroddiad yn y dyfodol. Pwyntiau trafod: · Gofynnodd aelodau'r panel sut gellir rhoi gwybod i deuluoedd bod y cymorth hwn ar gael. Fe'u hysbyswyd bod y mater hwn yn gymhleth iawn. Mae'r gwasanaethau'n ceisio bod yn rhagweithiol pan fo posibilrwydd o broblemau mewn teuluoedd. Mae angen i'r holl wasanaethau weithio gyda'i gilydd i hysbysu teuluoedd bod y cymorth hwn ar gael. Mae rhwydweithio â chydweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn bwysig iawn. Mae staff o’r maes iechyd yn allweddol i hyn. Mae angen iddynt fod yn ymwybodol o ba mor bwysig yw nodi problemau mewn teuluoedd yn gynnar. · Mae problemau gyda phlant yn dod i'r amlwg yn aml yn yr ysgol. Mae'n anodd nodi problemau'n gynharach pan dynnir plant yn ôl o addysg brif ffrwd. · Mae'r panel o'r farn bod lefel y gwaith hwn yn rhy uchel ac mae angen siarad â'r bobl yr effeithir arnynt. · Pwysleisiodd y panel fod rhaid i'r gwaith hwn ganolbwyntio ar sicrhau'r canlyniadau gorau i blant. Dyna'r flaenoriaeth. Hysbyswyd y panel mai anghenion unigolion yw'r prif ysgogydd ond mae'n rhaid bod yn ymwybodol o'r costau. · Model rhesymeg cyn 16 oed – y gobaith yw y bydd y gwaith hwn gyda theuluoedd yn eu hatal rhag angen cymorth gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Ni ddylai 80% o'r hyn sy'n cyrraedd 'drws ffrynt y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yno. Dylai'r Gwasanaethau Cymdeithasol ganolbwyntio ar achosion cymhleth yn unig. Gallwn gael canlyniadau gwell i blant os ydym yn ymyrryd yn gynnar ar y cyd â gwasanaethau arbenigol, felly mae buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth cynnar yn hollbwysig. · Roedd y panel yn poeni am faint o amser y mae staff yn ei dreulio ar lunio'r data hwn ac a fyddant yn gallu ei ddadansoddi a'i ddeall er mwyn cael y canlyniadau gorau i blant. Hysbyswyd y panel bod y data hwn yn cael ei gasglu beth bynnag. Camau Gweithredu: · Bydd adroddiad am y cynnydd yn cael ei gyflwyno i'r panel ymhen 6 mis. Dylai hwnnw fod yn adroddiad amlygu mwy addas at y diben, gan gynnwys canlyniadau'r gwaith gan Vanguard a'r hyn sy'n cael ei wneud wrth 'ddrws ffrynt' y Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Adolygiad o flwyddyn 2017/18 PDF 99 KB Cofnodion: Nid oedd gan y
panel ddigon o amser i gynnal adolygiad o'r flwyddyn. |
|
Amserlen Rhaglen Waith 2018/19 PDF 71 KB Cofnodion: Nododd y panel y
rhaglen waith. |
|
a) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Chwefror 2018) b) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Chwefror 2018) c) Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Ebrill 2018) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel. |
|
· Cylch Gorchwyl ar gyfer Panel y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cofnodion: Nododd y panel y cylch gorchwyl. |
|
Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 25 Mehefin 2018) PDF 254 KB |