Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan, Scrutiny 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Dim

2.

Adolygiad Comisiynu'r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd - Yn Canolbwyntio ar Blant ag Anghenion Ychwanegol ac Anableddau pdf eicon PDF 113 KB

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd

Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes

Y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y panel i Aelod y Cabinet a'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad ac am fod yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn trafod adroddiad Comisiynu'r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd sy'n canolbwyntio ar blant ag anghenion ychwanegol ac anableddau.

 

Amlinellodd y panel y materion canlynol:

 

1.    Mae'n dda gweld cynhwysiad ac ymarfer ymgynghori manwl er mwyn cael barn plant a phobl ifanc am wasanaethau anabledd er fod y panel yn gwerthfawrogi pa mor anodd yw cael niferoedd mawr o bobl i gymryd rhan yn hyn.

2.    Mae aelodau'r panel yn cydnabod bod dau adolygiad comisiynu sy'n edrych ar anghenion ychwanegol, yr agwedd cefnogi teuluoedd ond hefyd yr Adolygiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n cael ei arwain gan Addysg. Roeddent yn falch o glywed bod yr adrannau'n gweithio'n agos gyda'i gilydd a bod y ddau ddarn o waith hwn wedi'u cyd-drefnu i sicrhau canlyniad cysylltiedig a chydlynol.

3.    Roedd ganddynt ddiddordeb mewn clywed am y cyd-gynhyrchu gyda rhieni wrth ddatblygu gwasanaethau ac maent yn croesawu'r datblygiad o ddull ymgynghori â rhieni a fydd yn cynnwys grŵp eang o rieni sydd â phlant ag anghenion ychwanegol.  Pwysleisiom, fodd bynnag, bwysigrwydd sicrhau ein bod yn cysylltu â'r rhieni a allai fod yn llai llafar neu sydd, am ba reswm bynnag, yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu.

4.    Clywsom fod nifer cynyddol o blant ag anghenion ychwanegol, sy'n her barhaus i awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd. O ganlyniad rydym yn cefnogi'r cynnydd mewn cyllid i'r Gwasanaeth Cymorth Cynnar. Rydym yn cefnogi'r angen i ddatblygu gwasanaethau atal gwell yn unol ag iechyd ac rydym hefyd yn cefnogi'r awdurdod yn yr ymgais i gynnwys iechyd yn natblygiadau'r dyfodol.

5.    Mae'r adroddiad yn nodi bod 11% o gyllid cyffredinol yn cynnwys grantiau ac mae hyn ynddo ei hun yn cael ei ystyried fel risg wrth symud ymlaen.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd cynllunio ar gyfer argyfwng os bydd y grantiau hyn yn dod i ben neu'n cael eu lleihau.

6.    Mae'r panel yn deall bod cyflwyno cynllun taleb ar gyfer chwarae a hamdden i blant ag anghenion ychwanegol yn cael ei ystyried. Hoffent bwysleisio pwysigrwydd cydnabod goblygiadau posib y math hwn o gynllun darparwr a'r rhieni. Roeddent yn falch o glywed eich bod yn bwriadu edrych ar sut mae hyn yn gweithio mewn awdurdodau lleol eraill a gweithio'n agos gyda rhieni wrth ystyried hyn fel opsiwn.

7.    Roedd aelodau'r panel yn falch o weld yr argymhelliad ynghylch gwasanaethau arbenigol ar gyfer gofalwyr ifanc, ac yn gefnogol ohono. Maent yn cydnabod ei fod yn ei gamau cynnar ond maent yn teimlo ei fod yn benderfyniad cadarnhaol.

Nodwyd, fodd bynnag, mai dim ond ar gyfer 3 o'r 6 argymhelliad y mae angen asesu mecanweithiau cyflenwol posib eraill, a bod 2 ohonynt yn ddatblygiadau mewnol yn unig. Nodwyd hefyd y bwriad i geisio dod o hyd i gyfleusterau allanol ar gyfer seibiannau byr dros nos gyda'r bwriad o leihau cost y gwasanaeth o £50k, a'r gobaith yw y bydd hyn yn arwain at wasanaeth gwell. Teimla'r panel fod yr angen i wylio rhag cyflwyno gwasanaeth gwael yn bwysig. Roedd hefyd ychydig yn siomedig mai y sgôr terfynol yn unig a dderbyniwyd ac nid dadansoddiad o'r sgôr yn ei elfennau ar wahân pan gynhaliwyd asesiadau ar gyfer argymhellion 1, 2 a 3.

3.

Trafodaeth a Chwestiynau

a) Ystyried Adroddiad y Cabinet a Chwestiynau

 

b) Barn y Panel i'r Cabinet

 

Cofnodion:

Bydd Cynullydd y Panel yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet ar 16 Tachwedd a bydd llythyr yn dilyn ar gyfer Aelod y Cabinet yn amlinellu barn y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 38 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 298 KB