Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgelu cysylltiadau - Alyson Pugh.

 

2.

Nodiadau cyfarfodydd blaenorol pdf eicon PDF 111 KB

I dderbyn nodiadau’r cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 a 12 Chwefror 2018 a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Cwestiynau'r Cyhoedd

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

4.

Atal ac Ymyrryd yn Gynnar pdf eicon PDF 88 KB

Rachel Moxey, Pennaeth Tlodi a’i Atal

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth Rachel Moxey, Pennaeth Atal ac Ymyrryd yn Gynnar, drwy'r adroddiad gan amlygu'r prif faterion.

 

Roedd y panel yn awyddus i weld sut mae'r gwaith hwn yn effeithio ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac yn cefnogi gwelliant.

 

Amlygwyd gwaith i drechu tlodi a chanolbwyntio ar atal a fyddai'n lleihau'r galw am wasanaethau arbenigol.  Rhoddwyd enghreifftiau o weithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, gan gynnwys gweithio ar y cyd ar Adolygiad Comisiynu Cymorth i Deuluoedd.  Cyfeiriwyd at weithgareddau penodol i gefnogi plant a theuluoedd gan gynnwys rhieni ifanc (Jigso), megis Dechrau'n Deg a Thîm am y Teulu mewn Ysgolion, a chefnogi pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 

Soniwyd am y Continwwm Cefnogi Teuluoedd a'r gwahanol haenau o gefnogaeth sy'n ddibynnol ar anghenion a'r cynlluniau i ddatblygu fframwaith a fydd yn helpu i fesur effaith ymyriadau.

 

Bydd set o ddata ar gael yn y dyfodol a allai ategu a chefnogi sut mae'r panel yn monitro'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.  Byddai hyn yn galluogi'r panel i weld darlun mwy y tu hwnt i'r gweithgareddau sydd dan reolaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Cydnabu'r Cadeirydd fod pethau'n dal yn y camau cynnar a byddai effaith hyn yn cael ei chynnwys fel eitem yn rhaglen waith y flwyddyn nesaf.

 

Trafodwyd agweddau eraill, megis:

  • Cefnogaeth ar gyfer plant â phroblemau iechyd meddwl, a rôl Cydlynwyr Anghenion Addysgol Arbennig a'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
  • Pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar i atal problemau rhag gwaethygu.
  • Lefelau cyllid tebygol y dyfodol i gefnogi ymyrryd yn gynnar a gwasanaethau cymorth cynnar - fel blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, rhagwelwyd y byddai'r gwasanaethau hynny'n parhau i gael eu cefnogi yn hytrach na'u torri. Er hynny, byddai'n helpu petai cyllid yn cael ei sicrhau ar sail tymor hir yn hytrach nag yn flynyddol
  • Gwasanaethau gadael gofal - cefnogaeth i blant sy'n gadael gofal preswyl yn 18 oed ac yn trosglwyddo i fyw'n annibynnol neu mewn llety a gefnogir
  • 'Datblygu' gwasanaethau sy'n cynnwys cymorth cynnar a chefnogaeth i bobl ifanc a theuluoedd rhwng 11 a 24 oed, gan gynnwys NEETS.

 

 

Camau Gweithredu:

  • Ychwanegu 'Effaith Ymyrryd ac Atal yn Gynnar mewn perthynas â'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd' at raglen waith y dyfodol.

 

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 56 KB

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Owen Davies, Rheolwr Perfformiad, a Dave Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i gyflwyno'r adroddiad perfformiad misol ar gyfer mis Ionawr 2018 a pherfformiad trydydd chwarter 2017/18 ac i ateb cwestiynau'r panel. 

 

Nododd y panel nad oedd unrhyw newid sylweddol o'i gymharu â'r mis blaenorol o ran niferoedd cyffredinol.  Roedd y perfformiad yn iach ar y cyfan.

 

Agweddau cadarnhaol:

 

·       Mae pryderon yn dal i fod o ran cwblhau asesiadau'n brydlon, ond roeddent yn falch o weld gwelliannau o ran gweithgareddau asesu - 100% o blant wedi'u gweld,a nifer uchel wedi'u gweld ar eu pennau eu hunain - sy'n dangos bod fframwaith arfer Signs of Safety wedi'i wreiddio

·       Pob plentyn sy'n destun cynllun amddiffyn plant a'r plant hynny sy'n derbyn gofal yn cael eu clustnodi i weithiwr cymwys

·       Gwella perfformiad y gwasanaeth adolygu

·       Nifer y plant sy'n derbyn gofal yn gostwng

 

Pryderon:

 

·       Cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu cofrestru dan gategori niwed emosiynol

·       Nifer y plant sy'n derbyn gofal preswyl wedi gostwng ond mae mwy yn cael lleoliad y tu hwnt i'r ardal leol

·       Tuedd anghyffredin o ran goruchwyliaeth mewn rhai achosion o'r timau rheoli achosion bydd angen ymchwilio iddynt

·       Lefelau uchel o ailgyfeiriadau

·       Pobl ifanc sy'n trosglwyddo i oedolaeth - nifer uchel o bobl ifanc sy'n ddigartref

 

Darparwyd taflen a oedd yn dangos tuedd llwyth achosion am 5 mlynedd. Mae lleihau'r galw yn her flynyddol.  Cydnabuwyd bod y ffigurau wedi sefydlogi i nifer hylaw ers 2014/15. 

 

Darparwyd taflen arall a oedd yn dangos cyfraddau tuedd 5 mlynedd plant sy'n derbyn gofal fesul 10,000 - cymhariaeth â 4 awdurdod arall.  Mae'n dangos sut mae Abertawe wedi gwella dros y 5 mlynedd diwethaf.  Mae Abertawe'n gwneud yn dda ar y cyfan er bod y niferoedd wedi sefydlogi.  Mae ymgysylltu â'r gwasanaethau ymyrryd yn gynnar yn allweddol o ran cynaladwyedd gwasanaethau plant a theuluoedd ac mae'n osgoi'r angen i bobl dderbyn cymorth diangen. 

 

Cydnabyddir bod Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe'n flaengar, megis gwaith Signs of Safety, gwaith a wneir i wella sgiliau'r gweithlu a'r weledigaeth ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r model. Mae ymagweddau blaengar yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd megis cyflogi therapyddion/seicolegwyr clinigol yn y gwasanaeth i fynd i'r afael yn well ag anghenion a chefnogaeth plant yn eu cartrefi.  Mae'n rhy gynnar i ddweud a yw'r ymagweddau newydd yn gweithio. 

 

Cyfeiriodd y panel yn gryno at yr adroddiad chwarterol oherwydd pwysau amser.  Trafodwyd perfformiad y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid - er ei fod yn perfformio'n dda, mae peth pryder ynglŷn â 2 ddedfryd o garchar.  Trafodwyd lleoliadau plant sy'n derbyn gofal hefyd - nodwyd bod mwy allan o'r sir nag ynddi ond bod trefniadau cadarn mewn lle i gadw llygad ar hyn ac i osgoi colli cyfeiriad.

 

Camau Gweithredu:

 

Cynnwys gwybodaeth am gyfraddau absenoldeb ar gyfer staff y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a gwybodaeth am boblogaeth PDG fesul oedran ac ystod oedran plant newydd sy'n derbyn gofal yn yr adroddiad monitro perfformiad ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Ebrill.

 

 

 

 

6.

Amserlen Rhaglen Waith 2017-18 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Nodwyd bod cyfarfod terfynol y flwyddyn ddinesig hon ar 30 Ebrill ar gyfer trafod yr adroddiad perfformiad diweddaraf ac adolygiad diwedd blwyddyn y panel

 

7.

Llythyrau pdf eicon PDF 131 KB

a) Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 18 Rhagfyr 2017)

b) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 18 Rhagfyr 2017)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd llythyrau gan y panel.  Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 152 KB

Llythyr o Aelod y Cabinet (cyfarfod 26 Chwefror 2018) pdf eicon PDF 107 KB