Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Nodiadau cyfarfod 30 Hydref 2017 pdf eicon PDF 115 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

6.

Y diweddaraf am eiriolaeth pdf eicon PDF 81 KB

Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes

Cofnodion:

Aeth Chris Francis, Prif Arweinydd Datblygu a Chomisiynu Busnes drwy'r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif faterion a chan ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Mae'r Fframwaith Safonau a Chanlyniadau Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru mewn ffurf ddrafft o hyd er yr oedd yn rhaid i awdurdodau lleol roi'r ymagwedd ar waith erbyn mis Mehefin 2017.
  • Mae swyddogion adolygu annibynnol yn chwarae rôl bwysig i sicrhau bod plant yn defnyddio eiriolaeth.  Maent hefyd yn eirioli ar ran plant mewn cyfarfodydd adolygu. Mae BAYS Plus yn darparu eiriolaeth ar gyfer plant 16 oed ac yn hŷn. 
  • Mae'r Ymagwedd Genedlaethol yn ogystal â'r hyn a wneir eisoes yn Abertawe. Mae'n comisiynu eiriolaeth annibynnol. Esbonnir bellach i unrhyw blentyn a ystyrir gan gynhadledd achos ei fod yn gallu cael eiriolwr i'w gynrychioli.
  • Mae pob cyngor wedi cael cyfrifoldeb am ddarparu eiriolaeth annibynnol ers 2002. Mae'n debygol nad oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol oherwydd nad oedd digon o weithgareddau hyrwyddol. Felly, dylai'r Ymagwedd Genedlaethol hon arwain at gynnydd o ran nifer y plant sydd am gael eiriolaeth. 
  • Mae'r panel yn cytuno â nodau ac egwyddorion yr Ymagwedd Genedlaethol, ond mae'n rhaid ei gwneud mewn ffordd sy'n addas i blant. Mae'n rhaid i'r ymagwedd ystyried yr hyn a wneir eisoes ar gyfer y plentyn yn lleol.  Er enghraifft, mae ysgolion Abertawe yn diogelu hawliau ac mae'r gwasanaethau cymdeithasol yn defnyddio Signs of Safety sy'n darparu cyfleoedd i blant fynegi eu barn.
  • Mae'r Ymagwedd Genedlaethol yn rhanbarthol ar draws Bae'r Gorllewin. Contractiwyd sefydliad annibynnol i wneud yr eiriolaeth a bydd yn cyflogi staff yn uniongyrchol.
  • Roedd y panel yn bryderus am y cyfrifiadau a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cyfarpar amrediad a lefel sy'n cyfrifo lefel yr angen am eiriolaeth a'r cyllid gofynnol.  Ni chafwyd unrhyw broblemau difrifol yn Abertawe yn y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n ymddangos bod cynnydd o 130% yn y cyllid yn llawer rhy uchel pan fo gwasanaeth eiriolaeth Abertawe yn gweithio'n weddol dda. Mae'r panel yn cefnogi cynllun yr adran i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r cyfarpar.
  • Yn y gorffennol, cafwyd camddealltwriaeth ynglŷn â rôl eiriolwr. Mae'n debygol nad yw hyn yn dal i fod yn wir, felly ni ddylid gohirio atgyfeiriadau.
  • Mae iaith yr ymagwedd newydd yn heriol ar gyfer pobl ifanc. Mae'n rhaid iddi fod mewn iaith y gall plant ei deall. Mae hyd yn oed y gair 'eiriolwr' yn anodd ei ddeall.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Anfon llythyr at Aelod y Cabinet gan gynnwys y prif bwyntiau a cheisio ymateb.

 

7.

Amserlen Rhaglen Waith 2017-18 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y panel.  Nid oes angen cyfarfod ychwanegol ym mis Ionawr 2018 ar gyfer craffu cyn penderfynu ar yr adolygiad comisiynu.

 

8.

Llythyrau pdf eicon PDF 112 KB

a) Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Hydref 2017)

b) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Hydref 2017)

c) Llythyr y cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Tachwedd 2017)

d) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Tachwedd 2017)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd llythyrau gan y panel. 

 

Roedd y panel yn falch gyda'r ymatebion cynhwysfawr gan Aelod y Cabinet, yn enwedig i lythyr y Cynullydd ar graffu cyn penderfynu ar Adolygiad Comisiynu'r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd, sy'n canolbwyntio ar blant ag anghenion ychwanegol ac anableddau cyn iddo fynd gerbron y Cabinet.

 

Camau Gweithredu:

 

  • Dosbarthu gwybodaeth fanwl gan Aelod y Cabinet am sgorio i'r panel er gwybodaeth.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 131 KB