Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

2.

Nodiadau Cyfarfod 21 Awst 2017 pdf eicon PDF 61 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir

Cofnodion:

Cytunodd y panel ar y nodiadau fel cofnod cywir o'r cyfarfod.

 

3.

Monitro Perfformiad

gan gynnwys:

·         Adroddiad perfformiad yr 2il chwarter (gan gynnwys mabwysiadu a’r  Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid, absenoldebau, swyddi gwag a gweithwyr asiantaeth)

·         Perfformiad a chynnydd ar adael y system ofal

 

Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

Kelly A’Hearne a Helen Davies, Barnardo’s    

 

Cofnodion:

Perfformiad a Chynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae'r Gorllewin

 

Cyflwynodd Val Jones, Rheolwr Mabwysiadu Bae'r Gorllewin, yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o berfformiad a chynnydd y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf gan ateb cwestiynau'r panel.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Rhoddwyd gwybod i'r panel y bydd yr AGGCC yn cynnal adolygiad o'r gwasanaeth.
  • Mae'n fwyfwy anodd dod o hyd i fabwysiadwyr. Mae hon yn broblem genedlaethol. Bu cwymp sylweddol mewn niferoedd yn 2017/2018 ac nid yw'r gwasanaeth yn siŵr pam. Mae nifer y plant sy'n aros i gael eu mabwysiadu yn cynyddu ac mae gan rai o'r plant sydd angen cael eu lleoli anghenion mwy cymhleth.
  • Teimlodd y panel fod angen bwrw ati i gynyddu nifer y mabwysiadwyr, yn enwedig ar gyfer grwpiau o frodyr a chwiorydd a phlant hŷn, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.  Awgrymodd y panel y dylid defnyddio dulliau tebyg i'r rhai y mae Maethu Abertawe'n eu defnyddio gan fod y rhain wedi bod yn llwyddiannus.
  • Nid yw'r ffigwr ar gyfer yr amser cyffredinol a gymerwyd i gymeradwyo mabwysiadwyr yn adlewyrchu pa mor llwyddiannus yw'r gwasanaeth oherwydd ei fod yn deillio o'r cam ymchwilio yn hytrach na'r nifer sy'n ei ddefnyddio. Y bwriad yw newid sut i gyfrifo'r ffigwr eleni fel y bydd yn dechrau o gyfnod cyflwyno'r cais.
  • Mae perfformiad o ran darparu deunydd Taith Bywyd yn fater pwysig i'r gwasanaeth. Nid yw wedi perfformio cystal ag y byddai wedi gobeithio. Bydd cynllun gweithredu'n cael ei lunio er mwyn ceisio mynd i'r afael â hyn. Mae Rhaglen Pontio Symud Ymlaen yn cael ei chyflwyno ar draws y rhanbarth, a gallai hyn helpu i wneud gwelliannau.
  • Mae rhanbartholi'r gwasanaeth yn parhau i fod yn heriol, ond mae'n ofyniad statudol. Mae trafodaethau ar y gweill am yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran newidiadau i gyfansoddiad y rhanbarth.
  • Materion staffio – mae lefelau uchel o staff yn absennol gyda salwch difrifol. Mae mesurau ar waith i gefnogi'r gwasanaeth.
  • Mae nifer o brosiectau ar waith er mwyn helpu teuluoedd diamddiffyn, er enghraifft prosiectau 'Troi' ac 'Adlewyrchu'. 

 

Camau Gweithredu:

  • Caiff canlyniadau arolwg prosiect 'Troi' eu cyflwyno i'r panel er gwybodaeth pan fyddant ar gael.

 

Perfformiad a chynnydd y System Gadael Gofal

 

Rhoddodd Helen Davies, Rheolwr Partneriaeth ar gyfer BAYS Plus, gyflwyniad i'r panel (dosbarthwyd hwn ar wahân).  Roedd Kelly Ahern o Barnardo's a Donna Houlston hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Cynhaliwyd adolygiad mewnol o'r Strategaeth Llety Sengl er mwyn nodi os yw anghenion pobl ifanc yn cael eu diwallu.
  • Mae camau ar waith i ddarparu canlyniadau sy'n fwy ansoddol yn hytrach na meintiol er mwyn monitro'r gwahaniaeth mae BAYS Plus yn ei wneud i bobl ifanc. Mae'r bartneriaeth yn gweithio tuag at weithredu fframwaith canlyniadau ar draws Abertawe er mwyn darparu'r wybodaeth hon.
  • Teimlodd y panel fod gwasanaeth BAYS Plus yn gweithio'n effeithiol a bod angen ei longyfarch ar ei ddatblygiad o ran cyfrinachedd. Mae angen mwy o wybodaeth am ganlyniadau.
  • Sefydlwyd grŵp partneriaeth er mwyn ceisio datblygu gweledigaeth BAYS Plus ar gyfer y dyfodol.

 

Adroddiad Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer mis Medi 2017 a Pherfformiad yr Ail Chwarter 

 

Trafododd Julie Thomas, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yr adroddiadau gan dynnu sylw at y prif faterion ac ateb unrhyw gwestiynau.

 

Pwyntiau trafod:

 

  • Roedd y panel yn ddiolchgar i'r adran am gynnwys ei holl ofynion yn yr Adroddiad Perfformiad.
  • Plant sy'n derbyn gofal ac sydd mewn gofal preswyl - nodwyd bod pryder ynghylch y ffaith bod mwy ohonynt yn cael eu lleoli y tu allan i'r sir nag yn y sir. Clywodd y panel fod y ffigwr hwn fel arfer yn 50/50 ond, o ganlyniad i achos o gam-fanteisio’n rhywiol, roedd rhaid lleoli rhai plant y tu allan i'r sir.  Clywodd y panel mai plant y mae'n rhaid eu lleoli y tu allan i'r sir yn unig sy'n cael eu lleoli y tu allan iddi.
  • Asesiadau – mae'r panel yn pryderu am amseroldeb asesiadau. Mae hyn yn broblem o hyd. Clywodd y panel fod nifer o faterion yn achosi hyn a bod yna newid i'r strwythur yn yr arfaeth er mwyn ceisio datrys rhai o'r materion.
  • Roedd y panel yn falch o glywed bod yr adran yn cyfathrebu'n well gyda'i staff a'i bod yn bwriadu datblygu strategaeth lles.
  • Hefyd cafwyd gostyngiad gwerth oddeutu £200,000 o ran costau rheoli ac uwch-staff yr adran.

 

Camau Gweithredu:

  • Anfon llythyr at Aelod y Cabinet gan nodi'r prif bwyntiau a gofyn am ymateb.

 

4.

Amserlen Rhaglen Waith 2017-2018 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd y rhaglen waith ac a ystyriwyd gan y panel. 

 

 

5.

Llythyrau pdf eicon PDF 337 KB

         a) Llythyr y Cynullydd at Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Awst 2017)

         b) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 21 Awst 2017)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llythyrau a dderbyniwyd ac a ystyriwyd gan y panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 335 KB

Ymateb Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 175 KB