Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Cheryl Philpott fuddiant personol.

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 322 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Adroddiad Lles/Perfformiad Blynyddol pdf eicon PDF 208 KB

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Damian Rees, Prif Swyddog Diogelu a Pherfformiad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal a Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, yn bresennol i friffio'r panel ar yr eitem hon ac i ateb cwestiynau.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Clywodd y panel ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol arall ond bod llawer o bethau cadarnhaol, gan gynnwys ffyrdd newydd o waith sydd wedi'u gwreiddio a llawer o waith dysgu wedi'i wneud.
  • Diolchodd Aelod y Cabinet i Bennaeth y Gwasanaeth a'i swyddogion am eu gwaith caled.
  • Teimlodd y panel fod yr adroddiad yn hawdd iawn ei ddarllen, roedd y fformat yn eglur ac roedd yn dangos cryfder cred y swyddogion.
  • Nododd y panel fod 24 o blant wedi'u hailatgyfeirio i'r gofrestr amddiffyn plant o fewn blwyddyn, a gofynnwyd a oedd dadansoddiad o ran y rhesymau dros eu hailatgyfeirio. Fe'i hysbyswyd bod hyn yn dibynnu ar amgylchiadau'r plentyn.
  • Gofynnodd y panel ynghylch y sefyllfa o ran prinderau staff. Clywyd bod niferoedd y staff sydd yno ar hyn o bryd mor isel â phedwar aelod ac mae diddordeb mawr wedi bod yn yr Academi.
  • Nid oedd y panel yn ymwybodol o'r ymadrodd 'Bod â llais, dewis a rheolaeth'. Clywyd bod yr ymadrodd hwn wedi'i gynnwys yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a bydd arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn gofyn pa dystiolaeth sydd mewn perthynas â hyn bob tro y byddant yn cyfarfod.
  • Gofynnod y panel am esboniad ynghylch archwilio ansoddol. Rhoddwyd gwybod bod yr adroddiad bob mis yn cynnwys rhai themâu ynghylch y canfyddiadau sydd wedi'u harchwilio'n benodol a rhoddwyd hyn at ei gilydd i roi'r darlun llawn. Cytunodd y panel y dylid cynnal sesiwn ar hyn i'w ddeall yn well ac y byddai'n ddefnyddiol ei gynnwys mewn adroddiadau ar sail chwarterol.
  • Nododd y panel bod nifer yr adolygiadau gofalwr a gwblhawyd o fewn amserlenni'n isel iawn rhwng mis Mehefin 2022 a mis Mawrth 2023, sy'n awgrymu y'u gwnaed yn hwyr. Rhoddwyd gwybod bod ôl-groniad o adolygiadau wedi bod ond eu bod wedi dal i fyny ac mae'r darlun lawer yn well erbyn hyn.
  • Teimlodd y panel ei fod yn adroddiad cynhwysfawr a chadarnhaol, sy'n glod i Bennaeth y Gwasanaeth ac i'r Adran.

 

Camau Gweithredu:

  • Bydd y panel yn derbyn sesiwn ar archwilio ansoddol y tro nesaf y bydd Monitro Perfformiad ar yr agenda (mis Rhagfyr 2023).  

6.

Gwasanaethau Gofal Preswyl (gan gynnwys diweddariad ar Dy Nant) pdf eicon PDF 357 KB

Julie Davies, Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Chris Griffiths, Prif Swyddog y Gwasanaethau Preswyl

 

 

Cofnodion:

Roedd Chris Griffiths, Prif Swyddog y Gwasanaethau Preswyl, yn bresennol er mwyn rhoi trosolwg o'r Gwasanaethau Gofal Preswyl i Blant, gan gynnwys cynlluniau i ddatblygu gwasanaethau gofal preswyl mewnol, heriau a'r camau nesaf a gynigir a'r cynnydd o ran Tŷ Nant.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Yr her fwyaf ar hyn o bryd yw staffio a phenderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar elwau ym maes gofalu am blant sy'n derbyn gofal o fis Ebrill 2026, sy'n arwain at leihad yn nifer y darparwyr allanol.
  • Roedd y panel yn falch o glywed bod Cartref 2 bellach wedi'i gofrestru'n llawn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ers 27 Gorffennaf 2023.
  • Gofynnwyd i swyddogion esbonio'r gwahaniaeth rhwng 'rheoledig' ac 'anrheoledig'. O safbwynt statudol, mae cartrefi rheoledig wedi'u cymeradwyo ac wedi derbyn asesiad risg gan AGC, ac wedi cael yr awdurdod i weithredu a lleoli pobl ifanc yno. Nid yw AGC wedi cymeradwyo'r ddarpariaeth mewn lleoliadau anrheoledig ond oherwydd hyn, mae asesiadau risg yn fwy cadarn gan nad yw'r corff rheoleiddiol yn eu goruchwylio.
  • Gofynnodd y panel pa broblemau/heriau y mae'r awdurdod yn eu wynebu wrth gynghori â phreswylwyr mewn ardaloedd lle mae cartrefi i blant yn cael eu hystyried. Clywyd yn unol ag arweiniad AGC bod asesiadau lleoliad a mangre'n digwydd cyn ymgysylltu â chymunedau. Rhoddwyd gwybod bod rhai o'r heriau gyda'r eiddo newydd wedi bod mewn perthynas â lleoliad yn unig. Mynegwyd pryderon gan y gymuned ynghylch diogelwch gyda Chartrefi 3 a 4.
  • Teimlai'r panel fod y gwasanaeth yn trawsnewid ar hyn o bryd oherwydd y gofynion o ran lleihau elw. Nododd swyddogion yr hoffai'r gwasanaeth leihau'r defnydd o ddarparwyr allanol ond y bydd yn dibynnu arnynt o hyd. Maent yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol petai Llywodraeth Cymru'n rhoi diffiniad eglur o ystyr 'nid er elw'.
  • Roedd y panel yn falch o glywed y cafwyd gwelliant sylweddol yn Nhŷ Nant. Yn ystod yr ymweliad diwethaf, tynnwyd pob hysbysiad o gamau gweithredu sy'n flaenoriaeth ac roedd unig faes i'w wella'n perthyn i asesiadau darparwyr, a oedd yn cael ei adolygu ar y pryd.  

7.

Cynllun Waith 2023-24 pdf eicon PDF 36 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 2 Awst 2023) pdf eicon PDF 122 KB