Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgeliadau o fuddiannau - Chris Holley a Mark Child. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 319 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 January 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i faterion ar yr agenda ac ymdrinnirâ nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Rhaglen Drawsnewid Gorllewin Morgannwg - Diweddariad ac Astudiaethau Achos PDF 999 KB Kelly Gillings, Cyfarwyddwr y Rhaglen Cofnodion: Roedd Kelly Gillings,
Cyfarwyddwr Rhaglen yn bresennol i
roi'r diweddaraf i'r Panel am brif ffrydiau gwaith y tri Bwrdd Trawsnewid, gan gynnwys astudiaethau
achos o bob rhan o’r rhaglen. Pwyntiau trafod:
•
Tudalen 10 - Gwasanaeth 'o'r ysbyty i'r cartref'
(adfer) rhanbarthol - Mae profiad yn awgrymu
bod yr ymagwedd newydd yn dechrau
gwneud gwahaniaeth. Aros am dystiolaeth i gefnogi
hyn. Holodd y Panel a aseswyd data pobl nad ydynt yn
addas ar gyfer y gwasanaeth hwn. Bydd angen i
Bartneriaeth LlC gael yr wybodaeth hon a bydd y Panel am ei gweld. Mae manteision y gwasanaeth hwn i’r gwasanaeth iechyd yn glir
a gall pobl gael eu hasesu o'u
cartrefi yn hytrach nag mewn lleoliad dwys a bydd hyn yn
arbed arian i'r cyngor drwy
sicrhau yr asesir pobl ar
yr adeg gywir
a bod trefniadau tymor hwy priodol ar
waith sy'n gymesur â'u hanghenion. •
Tudalen 38 - Adferiad 'O'r Ysbyty
i'r Cartref' - ar hyn o bryd
nid yw'r gyllideb yn gynaliadwy. Mae'n dibynnu'n rhannol ar y gronfa trawsnewid
sy'n gyfyngedig o ran amser. Y bwriad yw creu system sy'n ariannol ddichonadwy,
ond nid yw'n
ymwneud â gwneud rhywbeth yn rhad,
mae'n ymwneud â’i wneud yn
dda mewn modd gwahanol fel
ei fod yn
cyfrannu at gynaladwyedd ac
yn cyflwyno'r canlyniadau gorau i'r rheini sy'n
gadael yr ysbyty. Mae gwasanaeth 'O'r Ysbyty i'r
Cartref' yn weithredol o bob ardal o fis Rhagfyr 2019/Ionawr 2020. Mae'r arwyddion cyffredinol yn dda ac yn dangos
bod y model newydd yn gweithio. Bydd y Panel am gadw llygad ar oedi
wrth drosglwyddo gofal mewn eitem
monitro perfformiad yng nghyfarfodydd y Panel. •
Tudalen 17 - Grŵp Cynllunio PPI – Nid oedd CAMHS Sylfaenol wedi cydymffurfio ym mis Hydref. Hoffai'r
Panel gael gwybodaeth am beth yw'r targed a sut
mae'n cael ei fethu a gwybodaeth
am drawsnewid. •
Mae'r bartneriaeth yn mynd i'r afael
â sut mae
pobl yn cael
eu hatgyfeirio ac erbyn hyn mae
swyddog ar waith yn Abertawe
a Phort Talbot. •
Tudalen 28 - Prosiect tebyg yng Ngorseinon yn ddiweddar (Life Time
Homes). Roedd hwn yn gynllun
da a byddai'n astudiaeth achos dda i'r
bartneriaeth edrych arni. •
Tudalen 31 - Fforwm Gwerth Cymdeithasol
- nid oes diffiniad clir gan Lywodraeth Cymru ynghylch beth yw hwn. •
Gofynnodd y Panel, sut mae'r ymagwedd
amlasiantaeth wedi ychwanegu gwerth yn nhermau'r astudiaethau
achos a ddarparwyd. Fe’i hysbyswyd ei fod yn
gallu teilwra pecyn yn well i
amgylchedd unigolyn a'i wneud yn
haws ac arbed arian
ar hyd y ffordd. Camau Gweithredu: •
Darparu dadansoddiad o ddata pobl nad
ydynt yn addas i dderbyn
y gwasanaeth adfer 'O'r Ysbyty i'r
Cartref' i'r Panel pan fydd ar gael. • Gwybodaeth am y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Sylfaenol i'w darparu i'r Panel. Beth yw'r targed a sut mae'n cael ei fethu a gwybodaeth am drawsnewid. |
|
Cynigion Drafft Cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion Gwahoddir y Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda a swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol i fod yn bresennol. Dolen i Bapurau’r Cabinet ar gyfer 20 Chwefror 2020, sy’n cynnwys y cynigion cyllidebol (dylai’r papurau fod ar gael o 13 Chwefror 2020.) Gofynnir i’r
panel drafod ei farn a’i argymhellion
ar gyfer cynigion y gyllideb a chytuno arnynt o ran y Gwasanaethau i Oedolion er mwyn
eu cyflwyno i’r Cabinet. Bydd cynullwyr
pob panel perfformiad yn bwydo barn y panel i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid ar 19 Chwefror
sydd wedi’i drefnu’n benodol i edrych ar
y gyllideb ddrafft. Yna bydd Chris Holley, Cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid, yn mynd
i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol y paneli perfformiad craffu. Cofnodion: Trafododd y Cynghorydd
Mark Child, Aelod y Cabinet dros
Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda, Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alex Williams, Pennaeth
y Gwasanaethau i Oedolion y cynigion cyllidebol arfaethedig mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion gan
amlygu'r prif faterion ac ateb cwestiynau. Cytunodd y panel â'r farn a'r
argymhellion canlynol am y cynigion cyllidebol mewn perthynas â'r Gwasanaethau i Oedolion yr
hoffai eu cyflwyno i'r Cabinet: •
Nododd y Panel y gallai newid canghellor
arwain at oedi wrth gyhoeddi'r gyllideb genedlaethol a all, yn ei
dro, effeithio ar gyllideb Llywodraeth
Cymru ac, felly, gyllideb y
cyngor. •
Cynyddodd cyllideb y Gwasanaethau i Oedolion 3.5% a 7% yw pwysau chwyddiant,
felly mae angen i'r cyngor
gyflawni’r arbedion arfaethedig y flwyddyn nesaf er mwyn
aros yn yr
un sefyllfa.
Mae hyn yn bryder gan na fydd yr
holl arbedion arfaethedig yn cael eu cyflawni
yn y flwyddyn ariannol hon ac roedd y panel yn teimlo bod targed
arbedion y flwyddyn ariannol nesaf yn ymddangos yn
uchelgeisiol. •
Roedd y Panel yn poeni am yr
arbedion arfaethedig o
£500,000 y flwyddyn nesaf o
adolygu’r strwythur uwch staff ar draws y gwasanaethau i oedolion, plant a thlodi a'i atal. Roedd y Panel yn teimlo'n fodlon
mai'r cynllun yw gwastadu'r strwythur
ar bob lefel o'r gyfarwyddiaeth, nid ar lefel
uwch staff yn unig, ac y bydd o leiaf dau Bennaeth
Gwasanaeth o hyd, sy'n hanfodol o ystyried maint y gyllideb a materion y bydd y gyfarwyddiaeth yn eu hwynebu. •
Roedd y Panel yn pryderu am yr
adolygiad o gyfleoedd ar gyfer canolfannau
awyr agored, yr effaith y gallai
hyn ei gael ar ysgolion
a'r diffyg hyder y gellir cyflawni hyn. Hoffai Paneli Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd weld copi o'r ymgynghoriad ar gyfer hyn. •
Gydag arbedion arfaethedig o £750,000 o
adolygu pecynnau iechyd meddwl ac anableddau dysgu'r flwyddyn ariannol nesaf, roedd y Panel yn pryderu y bydd
hyn yn broblem
gan fod diffyg
adnoddau i gynnal yr adolygiad
o'r ochr Iechyd. Roedd y panel yn teimlo bod angen datrys hyn cyn
gynted â phosib os ydym am lynu
wrth y gyllideb ar gyfer 2020-21. •
O ran yr incwm a ragwelir o £100,000 o Gydlynu Ardaloedd Lleol, nododd Aelod
y Cabinet yr hoffai weld ffrwd ariannu ymroddedig
fel y gellir ehangu'r cynllun a'i fod yn
gynaliadwy. Hoffai'r Panel
weld hyn yn cael ei gyflwyno.
•
Cydnabu'r Panel fod y gyllideb ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol yn cael ei hysgogi
gan bobl ac y byddai'n gamarweiniol canolbwyntio ar nifer y bobl a gefnogir. •
Roedd y Panel yn pryderu am y meysydd lle cynigir
arbedion ac yn teimlo bod arbedion yn cael eu
gwneud a allai
fod yn niweidiol. •
Bydd y Panel yn trafod y gyllideb
eto ym
mis Hydref fel y gallwn ni
fonitro canlyniadau'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn fwy gofalus. Yn dilyn
y cyfarfod hwn: Bydd y cynullydd yn cyflwyno barn y panel, ar y cyd â chynullyddion paneli eraill, i'r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid, sy'n cwrdd ar 19 Chwefror. Yna bydd cynullydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid mynd i gyfarfod y Cabinet ar 20 Chwefror i gyflwyno barn gyfunol paneli perfformiad craffu ac ysgrifennu llythyr at Aelod y Cabinet. |
|
Amserlen Rhaglen Waith 2019-20 PDF 249 KB Cofnodion: Derbyniwyd y rhaglen waith ac a ystyriwyd gan y panel. |
|
a) Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Rhagfyr 2019) b) Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 28 Ionawr 2020) Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel. |
|