Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cadarnhau Cynullydd y Panel a'r Aelod Cyfetholedig

Cofnodion:

Cadarnhawyd y Cynghorydd Susan Jones fel Cynullydd y Panel ar gyfer 2024-2025.

 

Cadarnhawyd Tony Beddow fel Aelod Cyfetholedig y Panel ar gyfer 2024-2025.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

3.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

4.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 145 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mai 2024 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

5.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

6.

Rôl Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y Panel ar ei rôl.

7.

Adborth ar Adroddiad Adolygiad AGC ar y Gwasanaethau i Oedolion

Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal  

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi  

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig  

Cofnodion:

Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal, David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi yn bresennol i ddarparu adborth ar lafar a nodwyd bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi nodi nifer o feysydd arfer da. Caiff yr adroddiad arolygu ysgrifenedig ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr wythnos a bydd yn cael ei gylchredeg i aelodau'r Panel.  Bydd cynllun gweithredu a manylion llawn yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Pwyntiau i'w trafod:

·          Holodd y Panel a yw'r Gyfarwyddiaeth yn ymwybodol o unrhyw broblemau sy'n deillio o boblogaeth heb gartref parhaol sy'n symud o gwmpas y sir. Hysbyswyd nad oedd hyn yn dod i'r amlwg fel mater penodol o ran yr Arolygiad ond yn gyffredinol, lle bynnag y mae'r Gyfarwyddiaeth yn cefnogi pobl ar y continwwm angen, sef poblogaeth amrywiol iawn, mae'n dda iawn am wneud hynny. Fodd bynnag, mae her sylfaenol o ran lefelau'r galw gan fod mwy o alw na'r hyn sydd ar gael.

 

Camau Gweithredu:

·         Cylchredeg Adroddiad Arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion i'r Panel.

·         Ychwanegu 'Briffio a Chynllun Gweithredu Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion' at gynllun gwaith y Panel.  

8.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 75 KB

Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi  

Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Amy Hawkins, Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi, yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Ebrill 2024 a darparodd gyd-destun o ran y galw ar hyn o bryd.

 

Pwyntiau i'w trafod:

·         Gwnaeth y swyddogion sylwadau ar y cwestiwn cynharach ynglŷn â phoblogaethau heb gartref parhaol, gan nodi eu bod yn ymwybodol o gynnydd o ran nifer y bobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi, nifer y bobl sy'n ddigartref neu nifer y bobl sydd dan fygythiad o ddigartrefedd. Mae hyn wedi cael effaith ar ofal cymdeithasol o ran anghenion ehangach unigolion, gyda nifer cynyddol o bobl yn profi afiechyd meddwl.

·         O ran asesiadau ac adolygiadau gwaith cymdeithasol a gwblhawyd, gofynnodd y Panel pa ganran sydd wedi’i chwblhau o ran lle hoffai'r adran fod, gan nad yw'r adroddiad yn cynnwys hyn ar hyn o bryd. Cytunwyd y dylid darparu'r ffigurau canrannol presennol yn dilyn y cyfarfod a chynnwys tueddiadau mewn adroddiadau monitro perfformiad yn y dyfodol.

·         Holodd y Panel a yw'r Pwynt Mynediad Cyffredin yn arwain at gynnydd o ran galw am wasanaethau. Nid yw hyn yn hysbys ond mae'r Gyfarwyddiaeth yn gobeithio gofyn rhagor o gwestiynau i bobl er mwyn cael gwybodaeth o safon ynghylch a ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda.

·         Roedd y Panel yn pryderu o ran rhewi recriwtio ac roeddent am wybod am ba mor hir y bydd hyn yn parhau a beth fydd ei effaith ar y gwasanaeth. Clywyd mai dyma un o'r heriau ar hyn o bryd gan fod y galw'n uchel ond mae costau staffio hefyd yn hynod uchel. Hysbyswyd bod swyddi'n cael eu hysbysebu o hyd ond mae'r Gyfarwyddiaeth yn edrych ar ba mor angenrheidiol yw'r swyddi hynny heddiw gan fod gorwariant.

·         Nododd y Panel fod contractau wedi'u hailgadarnhau gyda darparwyr allanol ond mae problem gydag un cyflenwr. Clywodd y Panel, fel yn yr achos hwn, os yw'r broblem yn ymwneud â chyflenwr sy'n darparu gofal ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, byddant yn gweithio gyda nhw. Hysbyswyd bod ganddynt bryderon cynyddol felly mae ganddynt gynlluniau gweithredu gyda'r darparwyr hynny er mwyn ceisio sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth o safon i unigolion. Os nad ydynt yn bodloni'r safonau disgwyliedig, bydd darparwr arall yn cael ei benodi i ddarparu'r gofal hwnnw.

·         Holodd y Panel o ran beth yw ystyr therapïau integredig. Clywodd y Panel mai Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac unrhyw weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd oedd y rhain. Mae rhai yn cael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd ac eraill gan yr awdurdod, ond timau integredig yw'r rhain sy'n gweithio gyda'i gilydd i asesu anghenion unigol a darparu cymorth.

·         Gofynnodd y Panel a oedd unrhyw broblemau o ran plant a phobl ifanc yn y system sy'n trosglwyddo o'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i'r gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, gan eu bod o'r farn bod rhai problemau. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion nad oedd hyn wedi'i grybwyll iddi o ran iechyd meddwl. Cytunwyd bod angen darparu rhagor o wybodaeth am hyn i Aelodau'r Panel.

·         Nododd y Panel fod Taliadau Uniongyrchol yn parhau i fod yn sefydlog ym mis Ebrill. Mae'r Panel yn teimlo y byddai annog mwy o daliadau uniongyrchol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd gwledig, yn arwain at lai o alw ar wasanaethau'r Cyngor. Clywodd y Panel yr hoffai'r Gyfarwyddiaeth weld y lefelau'n codi os yw'n gwrthbwyso'r lefelau hynny a fyddai'n dod dan ofal darparwyr gofal cartref.

·         Clywodd Aelodau'r Panel fod pryderon yn ddiweddar o ran faint o amser a gymerwyd i ymdrin â Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ac mae'r adroddiad yn dangos bod cynnydd mawr yn niferoedd yr atgyfeiriadau a wnaed yn y gwanwyn ac, o ganlyniad, maent yn dechrau gweld cynnydd o ran ôl-groniad. Gofynnodd y Panel am y sefyllfa ar hyn o bryd. Clywodd y Panel fod nifer o strategaethau ar waith er mwyn mynd i'r afael â hyn. Roedd y Panel yn falch o glywed bod y tîm yn rhagweld y bydd y ffigurau'n gwella erbyn cyhoeddi adroddiad monitro perfformiad mis Gorffennaf.

·         Roedd gan y Panel hefyd ddiddordeb mewn clywed rhagor am y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, yn bennaf nifer y trefniadau sy'n cael eu gwneud o bell ar ran preswylwyr, naill ar gyfer y rhai sydd wedi symud i ffwrdd o'u teuluoedd ac maent yn digwydd byw yn Abertawe, neu'r rhai sy'n byw yn Abertawe ac mae eu teuluoedd wedi symud i ffwrdd o'r ardal, a sut mae hyn yn cael ei reoli. Cytunodd y swyddogion y byddant yn darparu gwybodaeth am hyn y tu allan i'r cyfarfod.

 

Camau Gweithredu:

·         Darparu'r ffigurau canrannol ar gyfer yr asesiadau a'r adolygiadau i'r Panel a chynnwys y tueddiadau mewn adroddiadau monitro perfformiad yn y dyfodol.

·         Darparu gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â throsglwyddo o'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion i aelodau'r Panel.

·         Darparu nifer yr atgyfeiriadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a wnaed o bell i'r Panel.

9.

Cynllun Gwaith Drafft 2024-25 pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Trafododd a chytunodd y Panel ar ei gynllun gwaith ar gyfer 2024-25.

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Gorffennaf 2024) pdf eicon PDF 129 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Gorffennaf 2024) pdf eicon PDF 165 KB