Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 142 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Diweddariad ar Raglen Trawsnewid Gorllewin Morgannwg PDF 1 MB Kelly Gillings, Cyfarwyddwr
Trawsnewid Rhanbarthol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a Kelly
Gillings, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Trawsnewid yn bresennol i roi'r diweddaraf
i'r Panel ar y rhaglen waith dros y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys trefniadau
llywodraethu, y Cynllun Ardal, ymgysylltiad, cynnydd a ffeithluniau am
berfformiad. Pwyntiau Trafod: · Gofynnodd y
Panel sut y cytunwyd ar ganlyniadau cenedlaethol ar gyfer partneriaethau
rhanbarthol. Esboniwyd ei fod yn anodd i Lywodraeth Cymru (LlC) oherwydd mae
pob rhaglen ym mhob rhanbarth yn amrywio, ond maent wedi cyrraedd pwynt lle
maent wedi cytuno ar dempledi ar gyfer adrodd ar wybodaeth a mecanweithiau y
cytunwyd arnynt. · Nododd y Panel
fod mesuriadau'n cael eu nodi ar gyfer rhai o'r pethau mae'r bartneriaeth yn ei
wneud a gofynnwyd a ydynt yn edrych ar agweddau ariannol. Esboniwyd bod y
bartneriaeth yn adrodd i LlG ar y mater hwn bob chwarter ar gyfer pob prosiect.
· Gofynnodd y
Panel a oes cyn-filwyr yn rhan o rai o'r gweithgareddau hyn. Esboniwyd bydd
gwaith yn cael ei wneud dros y flwyddyn nesaf gan nad yw'r bartneriaeth yn dda
iawn am nodi nodweddion y boblogaeth o ran ymgysylltu ar hyn o bryd.
|
|
Amy Hawkins, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a
Threchu Tlodi Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol
Integredig Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd Amy Hawkins, Pennaeth Gwasanaethau i Oedolion a Threchu Tlodi wedi
rhoi'r diweddaraf i'r panel ynghylch yr adroddiad perfformiad ar gyfer mis
Ionawr 2024 a nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau i dueddiadau ar gyfer data mis
Chwefror. Pwyntiau Trafod: · Nododd y Panel
fodd cyfleoedd ar gyfer seibiant wedi cynyddu a bydd gofalwyr yn elwa o hyn ac
mae hynny'n gadarnhaol iawn. · Teimlai'r Panel fod
y Pwynt Mynediad Cyffredin (PMC) wedi bod yn llwyddiannus iawn. Gofynnodd y
Panel pam yr oedd y PMC wedi derbyn nifer uchel o alwadau ffôn ym mis Ionawr.
Esboniwyd bod y galw wedi cynyddu ac roeddent yn gobeithio bod mwy o
ymwybyddiaeth. · Trafododd y
Panel sut y mae darparwyr gofal cartref allanol yn parhau i adrodd ar bwysau
ariannol a gofynnwyd a oedd hyn yn broblem. Esboniwyd, er bod heriau o ran
pwysau cost gweithredol parhaus, mae'r sector llawer mwy sefydlog. · Trafododd y
Panel Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DOLS) a'r pryder ynghylch
asesiadau. Gofynnodd y Panel am effaith hyn ar unigolion ac esboniwyd bod risg
o amddifadu o ryddid ac mae angen sicrhau bod y prosesau priodol ar waith er
mwyn cymeradwyo hyn. |
|
Sesiwn Friffio ar Adolygiad Blynyddol o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2023-24 PDF 150 KB David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Louise Gibbard, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a David Howes,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.
Dywedwyd bod yr adroddiad wedi bod i'r Cabinet lle cytunwyd i roi cynnydd
chwyddiannol o 6% ar waith ar gyfer holl ffïoedd y
Gwasanaethau Cymdeithasol o 1 Ebrill. Yn ogystal â hyn, cytunodd y Panel i'r
Gwasanaethau i Oedolion gynnal ymgynghoriad ynghylch ffi untro
ar gyfer gosod y Gwasanaeth Llinell Fywyd a chost i dalu am grog dlysau newydd.
|
|
Cynllun Waith 2023-24 PDF 87 KB Cofnodion: Ystyriodd y Panel y rhaglen waith a nodwyd yr eitemau ar gyfer y cyfarfod
nesaf. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Mawrth 2024) PDF 113 KB |