Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol

Cofnodion:

Datganodd Chris Holley fudd personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 308 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod

cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

O dan faterion yn codi holodd y Panel ynghylch erthygl a ymddangosodd ar Wales Online ar 20 Tachwedd 2021, gan ei bod yn ymddangos nad oedd y cyfryngau wedi sôn am ymateb gan Ddinas a Sir Abertawe.  Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y bu ymateb gan Ddinas a Sir Abertawe, ond ei fod wedi'i guddio ar y ddolen ar-lein.  Cytunodd y Cyfarwyddwr i ddosbarthu copi o'r ymateb i'r Panel er gwybodaeth a dywedodd fod yr Awdurdod yn gweithio gyda'r unigolyn hwn a'r teulu cyn yr erthygl.  Mae'r ymyriad yr oedd y teulu'n chwilio amdano bellach ar waith ac mae'r teulu'n hapus.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrno

d gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eite

mau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Y diweddaraf am Reolaeth Pandemig COVID-19 a Monitro Perfformiad

Mark Child, Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Gofal i Oedolionac

Iechyd Cymunedol

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Roedd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol a David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i friffio'r Panel ar y sefyllfa bresennol. 

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

  • Mae cyfraddau heintio yn dal i fod ar lefel uchel yn lleol ond yn llawer is na chyfartaledd Cymru.  Nid oes digon o wybodaeth am yr amrywiolyn Omicron newydd eto.  Nid ydym yn gweld afiechydon anadlol eraill yn dod i'r amlwg ar hyn o bryd.

 

  • Effaith gyffredinol COVID ar y gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw bod y gwasanaeth yn aml yn gorfod gweithredu gyda 40% o'r gweithlu’n absennol ar unrhyw ddiwrnod, yn enwedig ym maes gofal cartref.

 

  • Mae'r galw am wasanaethau cymunedol yn uchel iawn ar hyn o bryd gan fod yr ôl-groniad o angen wedi llifo'n ôl i'r system. 

 

  • Nid oes gan ddarparwyr ddigon o staff i gyflawni eu teithiau ac mae'r Awdurdod yn gorfod casglu pecynnau ar gyfer gofal cynhaliol, ac mae'n gorfod defnyddio'r tîm ailalluogi i wneud hyn.  Ar hyn o bryd maent yn defnyddio staff gofal preswyl i ateb pob galw. 

 

  • Yn ystod y Pandemig, blaenoriaethwyd gwaith brys a chafodd rywfaint o'r gwaith mwy arferol ei oedi.  Nid oedd cyfle i ddal i fyny ar yr ôl-groniad, sydd wedi mynd yn fwy ac yn fwy.  Mae'r Awdurdod wedi dechrau comisiynu rhywfaint o'r ôl-groniad hwn i ddarparwr allanol er mwyn dal i fyny â gwaith cyn gwanwyn 2022.

 

  • Dechreuwyd gweld rhywfaint o bwysau ar y gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd nifer cyfyngedig o staff sy'n gysylltiedig ag absenoldebau staff yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gallu rhoi sicrwydd ynghylch y rhan fwyaf o ymyriadau brys. 

 

  • Rhoddwyd sylw yn y wasg genedlaethol i adolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o effeithiolrwydd cymorth Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i ofalwyr.  Roed dyn cyflwyno darlun gonest, sef nid yw cystal ag y mae angen iddo fod.  Yn yr hinsawdd sydd ohoni, nid ydym yn gallu mynd i'r afael â gwendidau strwythurol sylfaenol ond rydym wedi gallu meddwl am amrywiaeth o ffyrdd eraill o gefnogi gofalwyr. 

 

  • Mae gan y Gyfarwyddiaeth ryw lefel o anhawster ym mhob maes.  Mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o'r sefyllfa ac yn ceisio gwneud yr hyn y gall.  Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth symud ymlaen a sut y gallai hyn fod yn adlewyrchu'r hyn rydym yn mynd drwyddo a'r hyn rydym yn ei ddysgu’n awr. 

 

  • Ar hyn o bryd nid oes gennym ddigon o bobl ac mae'r Gyfarwyddiaeth yn blaenoriaethu diogelu a lleihau o fewn terfynau yr hyn y mae'r Awdurdod yn ei ddarparu i geisio dod dros hyn. 

 

  • Gwnaeth y panel sylwadau mewn perthynas â gofalwyr, gan ddiolch i'r gweithlu a'r holl deuluoedd a ffrindiau sydd wedi dod i’r adwy ac wedi dangos ymroddiad llwyr mewn cyfnod mor anodd. Mae'r panel yn credu y gwelir y gwir ddarlun o’r effaith ar ofalwyr yn y chwe mis i'r flwyddyn nesaf wrth i ni adfer o'r pandemig. 

 

 

 

6.

Er gwybodaeth pdf eicon PDF 218 KB

·       Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer 2021-22

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Tachwedd 2021) pdf eicon PDF 115 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 30 Tachwedd 2021) pdf eicon PDF 176 KB