Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

2.

Gwahardd Pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Cofnodion Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 321 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod

cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 2 Mehefin yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

4.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y

diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud

ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10

munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Monitro Perfformiad pdf eicon PDF 179 KB

Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro’r Gwasanaethau i Oedolion a Helen St John, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cymunedol Integredig, yn bresennol i friffio'r panel ar yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Mai 2021.

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Dyma'r adroddiad cyntaf ers newid y system i System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS).  Adroddwyd am rhai anghysondebau yn y system newydd. 
  • Teimlai'r panel y bydd y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn dod o dan fwy a mwy o bwysau yn y misoedd i ddod.  Nododd y panel nad oedd y rhan fwyaf o'r data perfformiad yn 'gydweddol' oherwydd COVID etc. a holwyd pryd bydd gan y panel ffigurau mwy cywir ar y Tîm Iechyd Meddwl.  Holwyd hefyd ynghylch sut y gellid sicrhau'r cyhoedd fod y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymdopi â‘r broblem.  Cadarnhaodd swyddogion mai'r system newydd sy’n gyfrifol am yr anghywirdebau. a'u bod yn gweithio ar y data perfformiad.  Dywedodd swyddogion fod gwaith sy’n ymwneud â Thimau Iechyd Meddwl yn cael ei lywio gan gynlluniau sy'n ymwneud â'r Bwrdd Iechyd Meddwl a Lles.  Mae'n ymagwedd ranbarthol.  Hysbyswyd y panel y bydd pwynt mynediad unigol cyhoeddus yn cael ei lansio dros y misoedd nesaf.  Teimlai'r panel y dylid anfon gwybodaeth at bob aelod am yr un pwynt mynediad, a rhoi syniad iddynt o'r hyn sydd ar gael yn awr, gyda phwy y gallant gysylltu a pha brosiectau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd. 
  • Teimlai'r panel fod y geiriau 'pwysau' a 'COVID', problemau gyda niferoedd staff, cyflogi staff a phwysau mewn cymunedau yn cael eu crybwyll yn aml. Hefyd, roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi newid i ddarparu gofal i bobl gartref.   Holodd y panel a yw'r pwysau'n deillio o COVID neu oherwydd bod pobl yn disgwyl gormod gan y gwasanaeth.  Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn dechrau gweld pobl yn dod i'r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn argyfwng ac mae'r pwysau’n deillio o gymysgedd o bopeth. 
  • Gofynnodd y panel ynghylch Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Dydd – mae llawer o’r rheini sy’n gofalu am bobl ag Anableddau Dysgu yn oedrannus.  Roedd y panel yn meddwl tybed faint o gymorth sy'n cael ei roi i'r gofalwyr hyn.  Cadarnhaodd swyddogion fod gwasanaethau dydd wedi bod yn gyfyngedig o ran gallu oherwydd cadw pellter cymdeithasol.  Cynigir asesiadau gofalwyr a thaliadau uniongyrchol ac mae'r tîm yn ceisio darparu dewisiadau amgen i deuluoedd yn lle'r gwasanaethau dydd 
  • Yn yr adroddiad soniwyd y bu cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau diogelu a mwy o atgyfeiriadau DoLS.  Holodd y panel a oedd thema gyffredin rhwng y ddau hyn a'r hyn sy'n ei ysgogi.  Cadarnhaodd swyddogion nad  ydynt yn ymwybodol o unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau.  Nid ydynt yn siŵr pam y mae cynnydd ond nid ydynt yn credu ei fod oherwydd COVID ac maen nhw'n cadw brîff gwylio. 

 

Camau Gweithredu: 

  • Dylai pob aelod dderbyn gwybodaeth am yr pwynt mynediad unigol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl.

 

6.

Adborth cychwynnol o Ymweliad Sicrhau Ansawdd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro

 

Cofnodion:

Roedd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol, Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion a Helen St John, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cymunedol Integredig, yn bresennol i roi adborth anffurfiol cychwynnol i'r panel yn dilyn Ymweliad Sicrwydd AGC a’r adborth ar yr arolygiad penodol o Wasanaethau Gofal Cartref Abertawe. 

 

Pwyntiau i'w trafod:

·         Dywedodd Aelod y Cabinet ei fod yn dyfalu hyd nes y daw'r adroddiad terfynol ar yr Ymweliad Sicrwydd i law. 

·         Teimlai'r arolygwyr fod ganddynt drawstoriad da o ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, staff ac asiantaethau partner. 

·         Teimlai'r gyfarwyddiaeth eu bod, fel tîm, yn cyflwyno ymagwedd gref sy'n seiliedig ar gryfderau cydweithredol, bod yr adborth yn adlewyrchu'r gwaith da y mae'r timau'n ei wneud ac mai’r meysydd y mae angen eu datblygu ac y mae'r gyfarwyddiaeth yn bwrw ymlaen â nhw yw'r rheini a gydnabuwyd gan yr arolygwyr hefyd.    

·         Cadarnhaodd swyddogion fod yr adroddiad terfynol newydd gael ei gyhoeddi ar yr Arolygiad Gofal Cartref a gynhaliwyd ar 24 Mai 2021.  Cadarnhaodd yr arolygwyr mai arolygiad Gwasanaethau Gofal Cartref Abertawe yw'r mwyaf y maent yn ei gynnal. 

·         Dan feysydd i'w gwella, nid oedd unrhyw feysydd i'w gwella'n sylweddol. 

·         Roedd tri maes lle’r oedd angen cymryd camau gweithredu i wella. Eir ar drywydd y rhain yn ystod yr arolygiad nesaf.  Nid oedd yr un o'r materion yn annisgwyl ac roedd y gyfarwyddiaeth yn ymwybodol ohonynt cyn yr arolygiad. 

·         Cafwyd adborth cadarnhaol ardderchog gan y staff o ran cefnogaeth a hyfforddiant ac roedd adborth gan unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau yn rhagorol. 

·         Gofynnodd y panel i swyddogion ddiolch yn ddiffuant i'r holl staff am eu holl waith caled.

·         Dywedodd y cyfarwyddwr ei fod yn gwerthfawrogi gwaith staff, Penaethiaid Gwasanaeth a'u huwch-dimau rheoli’n fawr.  Teimlai fod y gweithlu wedi gweithio'n galed ac wedi dangos hyn yn yr adeg fwyaf anodd, sydd wedi bod yn wirioneddol ragorol ac mae adborth yr arolygiad yn adlewyrchu hyn. 

·         Holodd y panel a oedd yr awdurdod wedi meddwl am gydnabyddiaeth bendant er mwyn diolch yn iawn am ymroddiad staff.  Dywedodd Aelod y Cabinet fod yr awdurdod yn gobeithio gallu estyn diolch y ddinas i weithwyr gofal ac eraill ar draws y ddinas sydd wedi gweithio y tu hwnt i'r hyn a oedd yn angenrheidiol.  Nid yw'n gwybod beth fydd y digwyddiadau. 

 

7.

Adolygiad Panel y Flwyddyn 2020-21 a Rhaglen Waith Ddrafft 2021-22 pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Adolygodd aelodau'r panel y flwyddyn 2020-21 a thrafodwyd pedwar cwestiwn.

 

Beth aeth yn dda? 

 

  • Nodwyd nifer o bynciau manwl
  • Aeth y gwaith craffu'n dda
  • Roedd y cyflwyniadau'n dda
  • Roedd y staff wedi llwyddo i gadw trefn ar bethau er gwaethaf yr hyn sy'n digwydd ac roedd ganddynt amser i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r panel am yr hyn a oedd yn digwydd
  • Roedd cyfarfodydd ar y cyd yn ddefnyddiol yn y tymor byr ond nid oeddent am gynnal y rhain yn barhaol.

 

Beth oedd heb weithio cystal?

 

  • Nid oedd unrhyw beth nad aeth yn dda.  Ni allwn fod wedi gofyn mwy gan y staff

 

Ydy'r panel wedi canolbwyntio ar y pethau cywir?

 

  • Nid oedd ganddynt ddewis.  Roedd yn rhaid canolbwyntio ar COVID.
  • Helpodd cyfarfodydd ar y cyd wrth ganiatáu i staff gwblhau tasgau.

 

Beth rydym wedi'i ddysgu a fydd yn ein helpu ni i graffu ar y Gwasanaethau i Oedolion yn y dyfodol?

 

  • Mae monitro perfformiad yn ddetholgar iawn mewn llawer o achosion.  Mae'r ffordd y'i cyflwynir i'r panel yn eithaf cymhleth ac nid yw'n amserol.  Mae'r monitro perfformiad yn cael ei gyflwyno chwarter ar ei hôl hi bob amser.  Oherwydd COVID, roedd data perfformiad yn gamarweiniol, a chymaint felly fel nad yw'n gywir nac yn berthnasol.   Roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymwneud cymaint â COVID a gofalu am bobl, mae monitro perfformiad wedi cymryd cam yn ôl ac mae’n hawdd deall pam.  Nid yw staff yn cael eu beirniadu mewn unrhyw ffordd, mae eu perfformiad wedi bod yn rhagorol. 
  • Wrth wrando ar adborth cychwynnol yn dilyn ymweliadau AGC – yr hyn y mae'r panel wedi'i wneud yn dda yw cefnogi'r gwasanaethau, y Gwasanaethau i Oedolion a Phlant a Theuluoedd. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod data perfformiad yn amherthnasol i'r sefyllfa bresennol.  

 

O ran rhaglen waith ddrafft 2021-22, teimlai'r panel fod angen dealltwriaeth glir o'r hyn y mae'r gyfarwyddiaeth yn ceisio'i gyflawni o ran y gwasanaeth.  Yn y cyfarfod ar 20 Hydref 2021, bydd disgrifwyr gwasanaeth yn cael eu trafod.  Dyddiad eto i'w gadarnhau ar gyfer eitem ar gyllidebu canlyniadol.  Mae'r panel yn teimlo bod angen eglurder ynghylch faint o'r gyllideb sydd i'w fesur o ran canlyniadau yn hytrach nag o ran allbwn. 

 

Hysbyswyd y panel y disgwylir ymateb i lythyr y cynullydd diwethaf ac y disgwylir cadarnhad o'r hyn y gall y gyfarwyddiaeth ei wneud i'r panel eleni 2021-22 o ran yr eitem ar gyllidebu canlyniadol.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet pdf eicon PDF 265 KB

Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 14 Iau 2021) pdf eicon PDF 518 KB