Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Cadarnhau Cynullydd
Cofnodion:
Cadarnhawyd mai Susan Jones fyddai Cynullydd Panel y Gwasanaethau i
Oedolion.
|
2. |
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol
Cofnodion:
Datganodd Chris Holley gysylltiad personol.
|
3. |
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau
Cofnodion:
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau.
|
4. |
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 320 KB
Derbyn nodiadau’r
cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.
Cofnodion:
Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021 yn
gofnod cywir o'r cyfarfod.
|
5. |
Cwestiynau gan y cyhoedd
Rhaid cyflwyno
cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd
ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod
fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud
ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir
â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.
Cofnodion:
Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
|
6. |
Diweddariad ar y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau i Oedolion PDF 972 KB
Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau
i Oedolion
Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro
Lucy Friday, Prif Swyddog Trawsnewid
Cofnodion:
Roedd Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion a Lucy
Friday, Prif Swyddog Trawsnewid, yn bresennol er mwyn cyflwyno'r eitem hon a
nodwyd nad oedd hon yn flwyddyn arferol ac felly mae’r rhaglen yn ystyried byw gyda
COVID, gan gynnwys cynlluniau wrth gefn ac adferiad ond mae hefyd yn ddyheadol.
Pwyntiau i'w trafod:
- Gofynnodd y panel
pa ddatblygiadau/newidiadau/ychwanegiadau a wnaed mewn perthynas â
thechnoleg gynorthwyol, pa bosibiliadau eraill sy'n dod i'r amlwg, a faint
o eitemau sydd ar waith ar hyn o bryd. Atebodd swyddogion fod cynlluniau
technoleg gynorthwyol yn cael eu datblygu o hyd ac y byddai sesiwn
friffio'n cael ei chyflwyno i'r panel yn hwyrach eleni. Buddsoddwyd yn
sylweddol ynddo hyd yn hyn.
- Gofynnodd y panel
ynghylch arbedion cyllidebol ar y cyd. Fe'u
hysbyswyd eu bod wedi'u nodi a’u hystyried yn y gyllideb eleni. Cytunodd
swyddogion y byddent yn darparu rhagor o wybodaeth.
- Holodd y panel
ynghylch cyfran y taliad uniongyrchol sy'n dod yn uniongyrchol i'r
awdurdod. Nodwyd y defnyddir taliadau uniongyrchol gan unigolion i dalu am
ddarpariaeth ddydd o'r sector preifat, neu i gyflogi rhywun yn annibynnol
ar gyfer darpariaeth, neu i ddefnyddio'r trydydd sector ar gyfer
darpariaeth. Os bydd unrhyw un am
ddefnyddio darpariaeth fewnol yr awdurdod, ni fydd angen iddo ddefnyddio
taliadau uniongyrchol oherwydd gall gael mynediad at y gwasanaeth drwy'r
awdurdod.
- Gofynnodd y panel
am ofal cartref mewn ardaloedd gwledig, y problemau sy'n gysylltiedig â
hyn a datblygiad mentrau cymdeithasol. Cadarnhaodd swyddogion fod ailgomisiynu gofal cartref yn 2019/20 wedi gwella
ehangiad a chwmpas mewn ardaloedd gwledig. Gwellodd y cwmpas mewn
ardaloedd gwledig trwy ddefnyddio gwasanaethau ailalluogi
mewnol a'r gwasanaeth gofal tymor hir mewnol i fynd i'r afael â'r mater.
Penodwyd nifer o ddarparwyr newydd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud ac
mae hynny wedi gwella cwmpas, hyd yn oed mewn ardaloedd gwledig. Yn
ogystal â hyn, gwneir ymdrechion i geisio cefnogi datblygiad modelau
menter gymdeithasol addas neu ddulliau eraill.
- Gofynnodd y panel
hefyd a fyddai modd cynnal asesiadau amlasiantaeth
gweithredol i bobl sy'n byw gartref yn ogystal â rhyddhau cleifion o'r
ysbyty i'r cartref a allai atal y defnydd o gyfleusterau derbyniadau brys
mewn ysbytai yn y lle cyntaf a chyflwyno'r gwasanaethau y byddai
preswylwyr fel arfer yn eu derbyn ar ôl cyfnod o ofal mewn ysbyty.
Sicrhaodd y swyddogion fod llawer o waith y gyfarwyddiaeth yn cynnwys
ffocws tîm amlddisgyblaeth yn y gymuned, er enghraifft, drws blaen y
Gwasanaethau Cymdeithasol ac un pwynt mynediad iechyd meddwl.
- Gofynnodd y panel
a oes unrhyw ddata ar gael ynghylch nifer yr atgyfeiriadau a ataliwyd trwy
ofal rhagweledol. Fe'i hysbyswyd bod y cwestiwn
hwn yn anodd i’w ateb oherwydd nad yw unrhyw waith rhagweledol
yn cael ei gofnodi yn system ffurfiol y gwasanaeth. Fodd bynnag, ceir data
ar gyfeiriadau.
- Gofynnodd y panel
ynghylch y broses gwynion, gan ofyn a roddwyd unrhyw fewnbwn annibynnol
ynddo. Gofynnodd y panel a allai weld adroddiad sy'n dangos crynhoad
diweddar o nifer y cwynion a dderbyniwyd, pa fathau o gwynion a
dderbyniwyd a'r camau gweithredu a gymerwyd. Cytunodd swyddogion y byddent
yn rhannu gwybodaeth a dolenni'n dilyn y cyfarfod.
Camau Gweithredu:
- Bydd y panel yn
derbyn gwybodaeth ynghylch arbedion cyllidebol ar y cyd.
- Caiff gwybodaeth a
dolenni ynghylch y broses gwynion eu rhannu â'r panel.
|
7. |
Camau gweithredu o adroddiad SAC - Drws ffrynt i Ofal Cymdeithasol i Oedolion - Argymhelliad: Effaith Gwasanaethau Ataliol PDF 605 KB
Amy Hawkins, Pennaeth
Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion
Helen St John, Pennaeth
Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro
Lucy Friday, Prif Swyddog Trawsnewid
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr eitem hon gan Lucy Friday, Prif Swyddog Trawsnewid, a
datganodd fod yr archwiliad wedi'i gyflwyno ar sail Cymru gyfan. Nid oedd Abertawe'n un o'r awdurdodau yr ymwelwyd â nhw, ond darparodd
ychydig o wybodaeth. Mae'r argymhellion yn gyffredinol ac yn berthnasol i Gymru
gyfan. Bydd prif argymhellion yr adolygiad archwilio'n rhan o'r Rhaglen
Trawsnewid.
Pwyntiau i'w trafod:
- Hysbyswyd y panel
fod y gwaith o amgylch yr holl feysydd a amlygwyd ym mis Mawrth 2020 wedi
mynd rhagddo’n sylweddol neu wedi'i gwblhau. Yn
ogystal, ehangwyd datblygiad pellach y gwasanaethau ataliol a mynediad i
'ddrws blaen' y gwasanaeth mewn ymateb i bandemig
COVID-19. Mae hyn wedi cyflwyno rhagor o gyfleoedd ar gyfer newid a
gwella, yn enwedig mewn perthynas â gwybodaeth, mynediad a chefnogaeth ar
gyfer gofalwyr y gwasanaeth.
- Gofynnodd y panel
pa gysylltiad sydd gan yr awdurdod â'r trydydd sector/CGGA, ac a yw'n
gytundebol ac wedi'i ariannu. Fe'i hysbyswyd bod rhai ffyrdd o ariannu'r
CGGA, gan gynnwys nifer o grantiau allanol ac mae'r awdurdod yn rhoi
cyllid craidd i'r CGGA mewn perthynas â'r gwasanaeth gwirfoddoli ac ar
gyfer y gwaith craidd y mae CGGA yn ei wneud o dan y cytundeb rhwng y
llywodraeth a'r sector gwirfoddol. Mae'r gan yr awdurdod brosiectau eraill
gyda nhw hefyd.
- Hoffai'r panel
wybod sut mae'r gwasanaeth eiriolaeth yn gweithredu, sut mae'r gwasanaeth
proffesiynol hwn yn gweithio a derbyn adborth ar ei berfformiad. Cadarnhaodd y swyddogion fod y
gwasanaeth eiriolaeth annibynnol ar gael i unrhyw berson neu ofalwr lle
mae rhywbeth yn eu rhwystro rhag derbyn y gefnogaeth y mae ei hangen arno.
Cytunodd swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am hyn i'r panel.
Camau Gweithredu:
- Darperir rhagor o
wybodaeth am y gwasanaeth eiriolaeth i'r panel.
|
8. |
Adoygiad Blynyddol y Cyfarwyddwr o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2020-21 PDF 761 KB
Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Cofnodion:
Roedd David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bresennol i
roi diweddariad i'r panel.
Pwyntiau i'w trafod:
- Argymhellodd y
Cyfarwyddwr i'r Cabinet na ddylid cyflwyno ffïoedd
newydd, ond dylid cyflwyno cynnydd o 1.75% mewn chwyddiant i'r ffïoedd presennol (ffigur ymgynghorol o Lywodraeth
Cymru). Derbyniwyd argymhellion y Cyfarwyddwr gan y Cabinet.
- Cyn cyflwyno'r
adroddiad i'r Cabinet, edrychodd y gwasanaeth ar ddysgu o weld achos prawf
ac maent wedi cynnal adolygiad i sicrhau nad yw cynllun ffïoedd yr awdurdod yn wahaniaethol. Mae swyddogion yn
hyderus bod yr awdurdod yn cydymffurfio'n llawn.
- Mae wedi amlygu y
gallai'r gwasanaeth wneud rhagor o waith o ran tryloywder, yn enwedig
ynghylch sut cynhelir asesiadau ariannol. Gofynnodd y panel a allai weld
yr wybodaeth mewn perthynas â hyn. Cytunodd y Cyfarwyddwr y byddai'n rhoi
diweddariad iddo pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau. Bydd yn rhannu'r hyn y
mae'n bwriadu ei gyhoeddi.
Camau Gweithredu:
- Diweddariad
pellach ar waith o ran tryloywder ar hyn a gaiff ei gyhoeddi i'r panel pan
fydd wedi'i gwblhau.
|
9. |
Amserlen y Rhaglen Waith ar gyfer
Eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf:
·
Monitro Perfformiad
·
Sesiwn Friffio ar Unigedd
Pobl Hŷn
·
Arfarniad o Opsiynau ar gyfer
Technoleg Gynorthwyol a Larymau Cymunedol
·
Rhaglen Waith Ddrafft 2021/22
Cofnodion:
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnal Adolygiad Sicrwydd Awdurdod Lleol.
Fe'i cynhelir mewn perthynas â COVID. Fe'i cynhelir ar 7 Mehefin 2021. Caiff yr
eitemau canlynol eu hychwanegu at y rhaglen waith:
- Adborth cychwynnol
yn dilyn Ymweliad Sicrwydd AGC - cyfarfod 14 Gorffennaf 2021
- Adroddiad llawn
ynghylch Ymweliad Sicrwydd AGC - cyfarfod mis Hydref 2021 o bosib
Hefyd i'w hychwanegu:
- Adborth o
arolygiad y Gwasanaethau Gofal Cartref - cyfarfod mis Hydref 2021 o bosib.
Eitem 'Diweddariad ynghylch cynnydd canlyniadau cyllidebu' wedi'i chynnig
ar gyfer rhaglen waith y dyfodol. Bydd y Cyfarwyddwr yn trafod yr hyn y gellir
ei ddarparu eleni ag Aelod y Cabinet a Phenaethiaid Gwasanaethau a rhoi gwybod
i'r panel.
|
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 02 Mehefin 2021) PDF 286 KB
|
|
Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod 02 Mehefin 2021) PDF 498 KB
|