Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chris Holley gysylltiad personol.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 308 KB

 Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod nodiadau cyfarfod Panel y Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2021 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

Roedd un mater yn codi o'r cyfarfod blaenorol mewn perthynas â'r gyllideb. 

 

Gofynnodd y panel am wybodaeth am 'Gyllidebau Canlyniadau', y mathau o ganlyniadau a ddaeth i'r amlwg y gallai'r Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn eu hystyried, yn enwedig o ran gofal integredig.  Dywedodd Aelod y Cabinet ei bod yn bwysig iawn ein bod yn dyrannu adnoddau yn y ffordd orau bosib er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posib.  Gofynnwyd i uwch-swyddogion yn y Gwasanaethau i Oedolion lunio syniad o sut olwg fydd ar rai o'r mentrau hyn wrth symud ymlaen gan ddefnyddio'r adnodd ychwanegol sydd gan y Gyfarwyddiaeth eleni. 

 

Roedd enghreifftiau eraill a roddwyd yn ymwneud â:

 

  • Pwynt Mynediad Cyffredin – wrth ymateb i breswylydd drwy Bwynt Mynediad Cyffredin, sut y gallwn ymdrin â'u sefyllfa fel ei fod yn cael ei ddatrys ar eu cyfer, ac nid ydynt yn dod yn ôl i'r cyngor o fewn cyfnod o 6 mis neu 12 mis.  Mae'r mathau hyn o fesurau’n helpu'r cyngor i ddeall a yw'r system Pwynt Mynediad Cyffredin yn diwallu anghenion preswylwyr.
  • Ailalluogi – mae'r pwyslais yn dal i fod ar gadw pobl mor annibynnol â phosib, nid mewn amgylchedd cartref gofal.  Pan ddaw pobl allan o'r ysbyty, er enghraifft, beth y gallwn ei ddarparu ar eu cyfer? 
  • Adolygiad Cyson o'r Ysbyty i'r Cartref – adolygu hyn ac edrych ar y ffordd orau o sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ein preswylwyr, fel bod adnoddau/cyllid yn gweithio tuag at y canlyniadau gorau ar gyfer ein preswylwyr.

 

Camau Gweithredu:

  • Cadarnhau, ar gyfer y flwyddyn i ddod, os gallwn ddisgwyl gweld y gyllideb yn cael ei bwrw naill ai'n gyfan gwbl, neu'n bennaf, o ran canlyniadau.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Y diweddaraf am Raglen Trawsnewid Gorllewin Morgannwg pdf eicon PDF 762 KB

Gan gynnwys diweddariad ar y cynllun gweithredu yn dilyn Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) am y Gronfa Gofal Integredig

 

Kelly Gillings, Cyfarwyddwr Rhaglen

 

 

 

(Gwahoddwyd Aelodau’r Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gyfer yr eitem hon)

 

 

Cofnodion:

Roedd Kelly Gillings, Cyfarwyddwr y Rhaglen, yn bresennol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel am effaith y pandemig ar y rhaglen ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu yn dilyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gronfa Gofal Integredig.

 

Effaith y pandemig

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Bwrdd Adfer – Gofynnodd y Panel am drosolwg o'r camau sy'n cael eu cymryd ym mhob un o'r pedair blaenoriaeth.
  • Holodd y Panel a oedd unrhyw wrthdaro rhwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), gan nad ydynt wedi gweld cymaint o gydweithrediad ag yr hoffent ar lefel graffu.  Cadarnhaodd swyddogion fod y BPRh a'r BGC wedi dechrau gweithio gyda'i gilydd yn ystod pandemig ond nid yn agos am fod y ddau yn bwrw ymlaen â’u gwaith.  Ddim yn ymwybodol o unrhyw wrthdaro.
  • Cadarnhaodd aelod o'r Cabinet (CM) mai'r sbardun ar gyfer dod â'r rhan fwyaf o hyn at ei gilydd oedd BPRh ac nid BGC.  Teimlai'r Panel mai un o'r ychydig bethau cadarnhaol am y pandemig yw'r ffordd y mae'r cyngor a'r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda'i gilydd ar hyn, yn enwedig drwy'r BPRh. 
  • Holodd y Panel pa mor effeithiol y bu BPRh o ran dod o hyd i bob gofalwr.  Hysbyswyd bod y Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr wedi cynnal nifer o sesiynau ar sut i adnabod gofalwyr.  Maent yn gweithio gyda gofalwyr i nodi gofalwyr eraill.
  • Holodd y Panel a fyddai elfennau newydd yn cael eu cyflwyno iddo o ran ailfodelu gwasanaethau gofal acíwt a gofal cymunedol.
  • Rhoddodd Bennaeth y Gwasanaeth rywfaint o sicrwydd o ran y gwaith y maent yn ei wneud o ran cynnwys partneriaid statudol mewn rhai ymagweddau ailfodelu gofal.  Bydd y Panel yn gweld y gwaith hwn yn cael ei graffu yn ystod y flwyddyn nesaf.

 

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru

 

Pwyntiau i'w trafod:

  • Holodd y Panel, o ran dynameg gofal integredig ar draws ffiniau proffesiynol a sefyllfaol, pa ymchwil ac mewnbwn academaidd sy’n cael eu defnyddio i ddod o hyd i bethau sy'n ei helpu i weithio'n well.
  • Grŵp Sicrwydd Busnes – Gofynnodd y Panel am gael gweld dwy enghraifft o adroddiadau y maent wedi'u gwneud, er mwyn cael syniad o'r gwaith y maent yn ei wneud. 
  • Dywedodd AC wrth y panel fod y BPRh wedi llwyddo i wneud darnau o waith sylweddol yn ogystal ag ymdrin â phandemig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a mynegodd ei ddiolch.
  • Cytunodd y Panel ei fod wedi ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.  Mae'r cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r argymhellion wedi'i gwblhau, ac nid oes angen iddo ddod yn ôl i'r Panel eto.

 

Camau Gweithredu:

  • Darparu trosolwg i'r Panel o'r camau sy'n cael eu cymryd ym mhob un o'r pedair blaenoriaeth gan y Bwrdd Adfer
  • Darparu ymateb i'r Panel o ran unrhyw gydrannau newydd a allai ddod i mewn i ailfodelu gwasanaethau gofal acíwt a gofal cymunedol
  • Rhannu rhai copïau o gofnodion y Grŵp Sicrwydd Busnes gyda'r Panel.

 

 

6.

Amserlen Rhaglen Waith 2020-21 pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd ac ystyriwyd y rhaglen waith gan y Panel.

 

Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 9 Mawrth 2021) pdf eicon PDF 249 KB