Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cynullydd Panel Liz Jordan, Swyddog
Craffu Cofnodion: Penodwyd Susan Jones yn Gynullydd y Panel. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Datgeliadau o fuddiannau - Chris Holley. |
|
Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol PDF 311 KB Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir. Cofnodion: Cytunodd y panel fod nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020 yn gofnod cywir o'r cyfarfod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd. |
|
Monitro Perfformiad PDF 115 KB Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Briffiwyd y Panel ar yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer mis Awst 2020 gan Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion, Amy Hawkins. Roedd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol, Clive Lloyd, a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Dave Howes, hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon. Pwyntiau i'w trafod: • Ailsefydlwyd cefnogaeth a seibiant gwasanaeth dydd ar sail argyfwng yn unig, gan fod cynnydd yn y galw. • Nid yw'r Bwrdd Iechyd bellach yn adrodd ar Oedi wrth Drosglwyddo Gofal. Llywodraeth Cymru yn llacio ar gofnodi nifer o fesurau oherwydd pandemig COVID-19. Darparwyd sicrwydd bod ffocws mawr ar ffordd y mae’r gwasanaeth yn monitro galw ac yn adrodd amdano a’r llif trwy'r system iechyd a gofal cymdeithasol trwy amrywiaeth o lwybrau. • Gofal Preswyl i Bobl Hŷn - Nid yw'r panel wedi gweld data o fis Mawrth 2020 hyd at y presennol. Mae’r ffigurau hyn i’w cynnwys mewn adroddiad ar wahân i’w gyflwyno i’r Panel cyn gynted â phosib, ar 'Effeithiau COVID-19 mewn cartrefi preswyl a’r camau gweithredu a gymerwyd.' • Mae’r holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dan bwysau eithafol. Mae'n fwy o broblem gydag ail don y pandemig. • Holodd y panel sut mae contractau yr ymrwymwyd iddynt gyda'r sector preifat yn perfformio. Fe’i hysbyswyd bod llawer o waith wedi'i wneud gyda gwasanaethau a gomisiynwyd ar fynediad at PPE a chefnogaeth ar gyfer profi. Hefyd, yn cael ei gefnogi'n ddyddiol wrth weinyddu cronfa galedi Llywodraeth Cymru trwy ddarparu ystadegau. • Un peth cadarnhaol sydd wedi deillio o'r pandemig yw ei fod wedi codi proffil y gwaith a wnaed gan weithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol, a fydd, gobeithio, yn arwain at gydnabyddiaeth a'r llwybrau gyrfa a’r amodau a thelerau cywir. • Pwynt Mynediad Cyffredin - Mae cynnydd yn nifer yr ymholiadau cymhleth trwy 'ddrws ffrynt' y gwasanaeth gan fod pobl a oedd wedi bod yn ymdopi bellach yn cyrraedd pwynt argyfwng. • Bydd yr adran yn cynyddu adnoddau i ymdrin ag ail don y pandemig trwy ailstrwythuro'r gwasanaeth ac ychwanegu adnoddau, gan recriwtio ar gyfer pob swydd wag i geisio cynyddu nifer y staff o ran cefnogaeth, gan ganolbwyntio ar ofynion statudol o ran yr hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud a bod yn hyblyg. Mae'r Uwch-dîm Rheoli'n gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i roi cynllun wrth gefn ar waith os yw achosion Coronafeirws yn cynyddu'n sylweddol. Trafodwyd hyn gyda'r undebau llafur. • Gofal Cartref - Cyn y pandemig roedd yn llawn ar gyfer darparwyr mewnol ac allanol. Dylai allu ymdopi os oes angen gofal cartref yn ychwanegol at hyn oherwydd ychydig cyn y pandemig cafodd dau ddarparwr newydd eu contractio. Yn weddol gyffyrddus ar hyn o bryd, ond mae hyn yn cael ei gofnodi. Rhaid rhoi cadarnhad ynghylch a yw'r darparwyr newydd yn rhai a oedd wedi cynnig tendr yn flaenorol ac a wrthodwyd. • Codwyd ymholiad ynghylch nifer y profion wrth adael yr ysbyty. Cadarnhawyd bod yn rhaid i’r rheini a oedd yn gorfod mynd i leoliad caeëdig/gartref gofal, boed hynny o'r gymuned neu'r ysbyty, fod wedi cael prawf negatif. Os oes rhaid iddynt fynd i ofal cartref cymunedol mae'n rhaid eu bod wedi cael prawf negatif. Mae hyn yn ychwanegu amser at y broses o drosglwyddo gofal. I'r cyhoedd cyffredinol, nid yw'n ofynnol eu bod yn cael prawf negatif cyn cael eu ryddhau o'r ysbyty. • Ymholiad ynghylch iechyd meddwl ac a oes unrhyw wasanaethau ychwanegol wedi'u rhoi ar waith ers dechrau'r pandemig. O ran ymateb ar unwaith, mae'r tîm iechyd meddwl cymunedol yn dal i weithio gyda phobl sy'n ymgysylltu â gwasanaethau'r cyngor. Ar gyfer pobl nad ydynt yn ymgysylltu â gwasanaethau'r cyngor, mae'r adran yn gweithio gyda Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe i sicrhau bod yr holl wybodaeth am y ddarpariaeth sydd ar gael, o ran mynediad agored, yn gyfredol. Fel rhan o waith ymatebol rhanbarthol, mae grŵp yn edrych ar y strategaeth ar gyfer iechyd meddwl yn y dyfodol. Cynghorir y cyhoedd i gysylltu â phartneriaid y cyngor yn enwedig y Trydydd Sector. Camau Gweithredu: • Ychwanegu eitem 'Effeithiau COVID-19 mewn cartrefi preswyl a chamau gweithredu a gymerwyd' i'r cynllun gwaith cyn gynted â phosib. • Cadarnhau nifer y swyddi gwag sy'n cael eu recriwtio ac a ydynt yn amser llawn neu'n rhan-amser. • Cadarnhau a oedd y dau ddarparwr gofal cartref newydd yn rhai a oedd wedi cynnig tendr yn flaenorol ac a wrthodwyd. |
|
Sesiwn Friffio ar Salwch Staff yn y Gwasanaethau i Oedolion PDF 406 KB Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro Cofnodion: Briffiwyd y panel ar lefelau salwch yn y Gwasanaethau i
Oedolion gan Amy Hawkins, ac atebodd gwestiynau'r panel. Pwyntiau i'w trafod: • Bu cynnydd o 25% mewn salwch yn y
Gwasanaethau i Oedolion yn ystod y chwe mis diwethaf pro rata. Nid yw hyn yn
annisgwyl. Mae 41% o'r cynnydd yn ymwneud â straen. Mae 85% o achosion salwch
yn ystod y chwe mis diwethaf yn salwch tymor hir. • Mae gan yr adran ymagwedd dair rhan o
ran dod o hyd i ddatrysiad a lleihau lefelau
salwch: Ø
Ymagwedd AD - monitro cydymffurfiaeth a gwirio
rheolaeth absenoldeb. Ø
Iechyd Galwedigaethol - gweithio gyda rheoli
straen a chwnsela. Eisoes yn darparu
cefnogaeth seicolegol ar gyfer staff drwy Teams, sydd wedi bod yn cael ei
ddefnyddio gan gannoedd o staff. Hefyd, lle bo
adnoddau ar gael, defnyddir ymagwedd treialu gyda staff rheng flaen y
Gwasanaethau i Oedolion ynghylch cefnogaeth uniongyrchol ag unigolion. Ø
Gweithio gyda'r timau eu hunain i gydgynhyrchu
cynllun lles. Gobeithiwn y gallwn ddod o hyd i atebion blaengar. • Tabl 3 - 12% heb unrhyw reswm wedi'i
gofnodi. Holodd y panel a oedd hyn oherwydd methiant y
system. Fe’i hysbyswyd, y gallai hyn fod oherwydd bod pobl yn cofnodi salwch
ond nid y rhesymau. Mae'r adran yn gwneud gwaith o gwmpas hyn i ddarganfod
rhagor. • Teimlai'r panel ei fod yn well atal salwch yn hytrach na’i wella, a holodd y panel a oes unrhyw un y tu allan i'r system gwasanaethau cymdeithasol a allai edrych ar y dulliau sydd ar waith a cheisio lleihau'r straen y mae pobl yn ei brofi. Fe’i hysbyswyd, ei bod yn anodd cael gwared ar natur ingol y gwaith ac mae'n anoddach fyth yn y sefyllfa bresennol. |
|
Rhaglen Waith Gwasanaethau Oedolion 2020-21 PDF 10 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafododd y panel y rhaglen waith ar
gyfer 2020-21 a chytunwyd i ychwanegu'r canlynol: 1. Effeithiau pandemig COVID-19 mewn cartrefi preswyl a'r camau gweithredu
a gymerwyd (rhaid cynnwys data o fis Mawrth 2020 hyd at y presennol yn hwn).
I’w drefnu cyn gynted â phosib
2. Unigedd pobl hŷn. 3. Trais domestig a'r cynnydd yn ystod cyfnod y pandemig. |
|
a) Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Iau 2020) Cofnodion: Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel. |
|
Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 20 Hydref 2020) PDF 266 KB |