Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Liz Jordan 01792 637314 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datgeliadau o fuddiannau – Mandy Evans a Chris Holley.

 

2.

Gwahardd pleidleisiau Chwip a Datgan Chwipiau'r Pleidiau

Cofnodion:

 

 

Ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod(ydd) Blaenorol pdf eicon PDF 575 KB

Derbyn nodiadau’r cyfarfod(ydd) blaenorol a chytuno eu bod yn gofnod cywir.

Cofnodion:

Cytunodd y panel fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2020 yn gofnod cywir.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

5.

Diweddariad i Wasanaethau Penodol am Bandemig Covid-19 pdf eicon PDF 220 KB

Gwahodd i fynychu:

 

Daeth Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Gwasanaethau Gofal i Oedolion ac

Iechyd Cymunedol

Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Amy Hawkins, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau i Oedolion

Helen St John, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol Integredig Dros Dro  

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr eitem hon gan y Cynghorydd Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal i Oedolion ac Iechyd Cymunedol. Diolchodd i Alex Williams, pennaeth blaenorol y Gwasanaethau i Oedolion, am ei chyfraniad a dywedodd y bu ailstrwythuro mewnol gyda dau Bennaeth Gwasanaeth dros dro newydd wedi'u penodi. Yna, cyflwynodd Dave Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, y diweddaraf am effeithiau pandemig Covid-19 ar y maes gwasanaeth. Dywedodd fod staff y cyngor a phartneriaid gofal cymdeithasol ac iechyd ehangach a Chydlynwyr Ardaloedd Lleol wedi bod yn eithriadol mewn amgylchiadau anodd iawn. Disgwylir y bydd gorwariant o £3 miliwn pan fydd popeth wedi'i gyfrifo. Mae'r adran yng ngham gweithredu 4 wythnos yr ailstrwythuro staff.

 

Pwyntiau i'w trafod:

 

·         Gofynnodd y panel a oedd cysylltiad rhwng cyflwyno asesiadau a phrosesau rhithwir, ac ailflaenoriaethu cynigion gofal gyda chymhwysedd diwygiedig.  Dywedwyd nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig. Roedd gweithio gartref rhithwir yn ymwneud ag atal staff rhag dal Covid-19 eu hunain neu ei drosglwyddo i eraill.

·         Trafodwyd cynllun adfer. Roedd y panel am wybod a oes unrhyw amserlenni ar gael eto a phwy fydd yn ymwneud â hyn. Mae rhan o'r cynllun yn cynnwys ailstrwythuro'r Gwasanaethau i Oedolion a'r gwasanaethau hanfodol i fusnesau, gan ganolbwyntio mwy ar gefnogaeth ddydd ar hyn o bryd. Mae angen iddynt fod yn barod i addasu i gynnydd sydyn ar unrhyw adeg.

·         Cafwyd trafodaeth ynghylch ailstrwythuro gofal cartref ac ar ba gam y daw’n broblem. Roedd swyddogion yn teimlo nad oedd wedi cael effaith enfawr, gan mai ychydig iawn o becynnau a gafodd eu hatal yn gyfan gwbl; cafodd y rhan fwyaf eu lleihau neu eu diwygio. Felly, mae wedi bod yn broses ailadroddol.   

·         Gofynnodd y panel a oedd unrhyw syniad o'r effaith ar wasanaethau preswyl.  Dywedodd swyddogion ei fod yn mynd i edrych yn wahanol iawn tra yn y cam hwn.

·         Roedd y panel o'r farn bod angen eglurder o ran sut y gall gwasanaethau dydd agor unwaith eto, gan fod llawer o bobl yn teimlo'n ynysig a bod pryder cynyddol bod angen dod â'r elfen gymdeithasol yn ôl. Dywedwyd bod yr adran yn edrych ar ddewisiadau amgen i'r gwasanaethau dydd traddodiadol.

·         Cododd y panel y mater o ailflaenoriaethu pecynnau gofal a chymhwysedd, a gofynnodd am y prif newidiadau i asesiadau. Cadarnhaodd swyddogion bod y prif newidiadau i'r asesiadau yn adlewyrchu pryderon ynghylch y pandemig.  Bydd angen cael cymorth i bobl sy'n ystyried y bydd yr haint yn para am gryn amser ac mae angen i'r ymagwedd adlewyrchu hyn. Nid oes gan yr adran yr holl atebion ond byddant yn dod i'r amlwg drwy'r cynllun adfer.

·         Dywedodd Aelod y Cabinet y bydd yr adran am edrych ar yr hyn a weithiodd yn dda yn ein hymateb ni, ac ymateb ein partneriaid; efallai bydd pethau'n edrych yn wahanol yn y dyfodol; ac mewn adfyd mae cyfle i ail-lunio pethau er gwell.  

·         Gofynnodd y panel ynghylch cyfraddau heintio a pha mor fanwl yw'r data a dderbyniwn arno, ac a oes tîm sy’n ymdrin ag e’n benodol. Dywedwyd ein bod yn gysylltiedig â'r holl drefniadau profi ond nid yw Adran Gwasanaethau i Oedolion y cyngor yn goruchwylio nac yn gweithredu hyn fel y cyfryw. Mae'r adran yn derbyn adborth amserol yn enwedig ynghylch cartrefi gofal. Mae swyddogion o'r farn bod olrhain cysylltiadau'n gweithio'n dda i Abertawe a'r rhanbarth. 

·         Mae'r adran yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i gynhyrchu ystod o ddangosyddion perfformiad a bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn trefniadau monitro perfformiad.

·         Roedd y panel o'r farn bod awydd i aildrefnu meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn enwedig yng Nghymru, a bod Abertawe mewn sefyllfa dda i lywio'r ddadl honno. Mae swyddogion o'r farn bod y rhanbarth wedi bod yn rhagweithiol iawn ac mae mewn sefyllfa dda iawn i adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd ganddo. Mae Aelod y Cabinet o'r farn bod y rôl integredig yn y Gwasanaethau i Oedolion yn Abertawe a'r ailstrwythuro yn gyffrous iawn ac mae'n gobeithio y gallwn adeiladu ar bopeth a ddysgwyd gyda thrafodaeth ehangach ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol. 

·         Gofynnodd y panel ynghylch y golled bosib o ran adnoddau a staff yn y sector preifat a'r risgiau posib o ystyried y straen ariannol. Mae'r adran yn disgwyl buddsoddiad gwerth £3 miliwn ar ben yr hyn y disgwylir ei dalu i'r sector preifat. Cafwyd effaith fawr ar gartrefi gofal. 

·         Trafodwyd sut nad ydym, fel cymdeithas, wedi cydnabod y gwasanaeth gofal cymdeithasol yn sylweddol a bod angen gwneud yn well fel cymdeithas.

·         Ar ran y panel, mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch i'r holl staff gofal cymdeithasol a staff iechyd a gofal cartref preifat.

·         Dywedodd Aelod y Cabinet iddo gael ei syfrdanu gan y modd y mae staff wedi ymateb a diolchodd yn bersonol i'r Cyfarwyddwr a'r Penaethiaid Gwasanaeth a'r cannoedd o staff gofal a gofalwyr teulu cyflogedig a gofalwyr di-dâl. 

 

6.

Llythyrau pdf eicon PDF 274 KB

a)    Llythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 17 Mawrth 2020)

b)    Ymateb gan Aelod y Cabinet (cyfarfod17 Mawrth 2020)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd llythyrau eu derbyn a'u hystyried gan y panel.

 

Lythyr at Aelod y Cabinet (cyfarfod 13 Iau 2020) pdf eicon PDF 178 KB